Archwilio ymddygiad cyflawnwyr a’u hagweddau ynghylch eu cam-drin domestig a’u trais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag archwilio ymddygiad ac agweddau cyflawnwyr unigol cam-drin domestig neu drais rhywiol, gyda’r nod o’u hannog i newid eu hymddygiad. Mae’n cynnwys eich gallu i ddarparu cymorth ac anogaeth ar gyfer newid, lle bernir bod cyfle gwirioneddol i’r cyflawnydd ddiwygio’i ymddygiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu â chyflawnwyr mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hanghenion a’u galluoedd
- gweithio gyda chyflawnwyr i archwilio’u hymddygiad a’u hagweddau sy’n dylanwadu ar eu camdriniaeth pobl eraill, gan gynnwys:
• annog cyflawnwyr i adnabod camdriniaeth a’i chanlyniadau
• effaith bosibl ac effaith go iawn eu hymddygiad arnynt eu hunain, eu dioddefwyr a phobl eraill sy’n arwyddocaol iddynt
• ymwybyddiaeth o effeithiau grym a rheolaeth dros eu dioddefwr
• gwadu, lleihau neu gyfiawnhau eu hymddygiad camdriniol
• eu hagwedd tuag at eu hymddygiad camdriniol
• agweddau ar eu hymddygiad sy’n eu pryderu nhw ac yn pryderu pobl eraill - cynnig gwybodaeth a chyngor i gyflawnwyr sy’n hyrwyddo manteision newid cadarnhaol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gyda chyflawnwyr, archwilio sut y gallant fynd i’r afael â’r agweddau camdriniol ar eu hymddygiad mewn ffyrdd sy’n annog perchnogaeth
- gyda chyflawnwyr, archwilio goblygiadau newid eu hymddygiad, gan gynnwys:
• agweddau ar eu hymddygiad sy’n peri pryder iddyn nhw ac i bobl eraill
• blaenoriaethau cyflawnwyr eu hunain o ran eu hymddygiad
• eu symbyliad i newid
• goblygiadau os na fydd newidiadau - gweithio gyda chyflawnwyr i wneud dewisiadau gwybodus am opsiynau ar gyfer newid, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- esbonio wrth gyflawnwyr y cymorth sydd ar gael iddynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cyfleu gwybodaeth berthnasol i bartïon awdurdodedig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cynnal cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- rôl, amcanion, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- beth yw cam-drin domestig neu drais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
- sut gall plant a dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gam-drin domestig a thrais rhywiol
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- rôl asiantaethau a sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth, gwasanaethau ac ymyriadau i fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol yn eich ardal
- trefniadau amlasiantaethol ar gyfer darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion
- ffynonellau gwybodaeth am gyflawnwyr rydych chi’n gweithio gyda nhw a sut i gael at y rhain
- dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth
- sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac adroddiadau ail-law
- pwysigrwydd adnabod problemau posibl sydd gan y cyflawnydd sy’n cyfrannu at ei ymddygiad camdriniol a sut i fynd i’r afael â nhw
- rhwystrau cyffredin i gyflawnwyr rhag newid a dulliau o oresgyn y rhain
- pwysigrwydd helpu cyflawnwyr i ddeall effeithiau eu hymddygiad ar bobl eraill ac arnynt eu hunain
- pwysigrwydd bod cyflawnwyr yn berchen ar y penderfyniadau a wnânt a’u bod yn gyfrifol amdanynt
- gwahanol ffyrdd o gynorthwyo cyflawnwyr i newid eu hymddygiad a pha mor effeithiol yw’r rhain
- y mathau o ymyriadau sydd ar gael a’u manteision a’u hanfanteision cymharol
- amgylchiadau pan ystyrir bod y cyflawnwyr yn bobl uchel eu risg
- amgylchiadau uchel eu risg sy’n mynnu atgyfeirio i asiantaeth arall a sut i symud atgyfeiriad fel hyn yn ei flaen
- yr ystod o arddulliau a thechnegau cyfathrebu sydd ar gael a phryd i’w defnyddio a’u haddasu
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol wrth ddelio â chyflawnwyr
- yr amgylchiadau pan fydd angen rhoi gwybod i eraill am gyflawnwyr, gan gynnwys pan fydd gennych bryderon am ddiogelwch pobl eraill oherwydd ymddygiad y cyflawnydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Unrhyw ymddygiad neu batrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Ffordd o weithio i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei gynnig i rywun sy’n cael profiad o gam-drin domestig yn cael ei gynnig ar sail eu hanghenion a’i fod yn adeiladu ar eu cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’n cydnabod y wybodaeth sydd ganddynt am yr unigolyn sy’n defnyddio camdriniaeth. Gyda’r hawliau, gall y sawl nad yw’n cam-drin feithrin ei annibyniaeth, dod dros y trawma a gafodd a chael ei fywyd yn ôl, a dod o hyd i newid sy’n para.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Trais Rhywiol
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Dull seiliedig ar gryfderau
Dyma ddull gweithio gydag unigolion sy’n cydnabod eu cryfder i oresgyn eu profiadau
Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.