Asesu’r risg sy’n cael ei pheri gan gyflawnwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu’r risg aildroseddu sy’n cael ei pheri gan gyflawnwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Fel rhan o’r safon hon, bydd gofyn i chi gynnwys cyflawnwyr, lle y bo’n bosibl, mewn asesiadau risg ac wrth gytuno ar ffactorau canlyniadol y mae angen mynd i’r afael â nhw.
Trwy gydol y safon hon, lle bynnag y defnyddir y term ‘cam-drin’, cymerir ei fod yn cynnwys achosion sydd hefyd yn cynnwys trais corfforol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth berthnasol am gyflawnwyr sy’n gysylltiedig ag asesiadau risg, gan gynnwys:
• eu hamgylchiadau
• eu hymddygiad
• data ffeithiol, lle y bo’n bosibl
• data clinigol, lle y bo’n bosibl - disgrifio eich rôl a’ch cyfrifoldebau i gyflawnwyr, yn unol â gofynion eich sefydliad
- esbonio wrth gyflawnwyr pa wybodaeth rydych chi’n ei cheisio, gan gynnwys y rhesymau dros ei cheisio
- cael cydsyniad cyflawnwyr i geisio gwybodaeth amdanynt, fel y bo gofyn, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gweithio gyda chyflawnwyr i archwilio a phennu:
• a ydynt yn cydnabod bod camdriniaeth wedi digwydd
• eu hamgyffrediad o’u sefyllfa a’u hymddygiad
• eu hamgyffrediad o effaith camdriniaeth ar unigolion
• eu rhesymu dros y gamdriniaeth a gyflawnwyd - cael gwiriad a chadarnhau gwybodaeth pan fo angen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cyfathrebu â chyflawnwyr mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion
- defnyddio offer asesu priodol sy’n berthnasol i’ch sefydliad er mwyn nodi ac asesu ffactorau i gyflawnwyr, gan gynnwys:
• addysg
• sefyllfa o ran cyflogaeth
• iechyd corfforol ac iechyd meddwl
• eu hagweddau, eu credoau a’u symbyliad - asesu’r dystiolaeth sydd ar gael i bennu’r risg y bydd cyflawnwyr yn parhau i gam-drin pobl eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- nodi ffactorau risg sy’n effeithio ar gyflawnwyr, yn unol ag offer a chanllawiau asesu risg y sefydliad
- pennu’r ffactorau risg sy’n debygol o ddylanwadu ar gamdriniaeth pobl eraill gan gyflawnwyr, gan gynnwys:
• sbardunau camdriniaeth
• dylanwadau a all leihau neu atal cam-drin pobl eraill
• materion a all atal cyflawnwyr rhag mynd i’r afael â’u hymddygiad - gweithio gyda chyflawnwyr i gwblhau asesiadau risg ac:
• esbonio polisïau a gweithdrefnau asesu risg eich sefydliad
• rhoi rhesymeg dros ddeilliannau asesiad risg
• esbonio effaith risgiau
• esbonio dylanwadau amddiffynnol a nodir
• esbonio sbardunau posibl eu hymddygiad camdriniol
• esbonio camau a allai fynd i’r afael â sbardunau posibl - gweithio gyda chyflawnwyr i nodi a chytuno ar
• feysydd risg posibl i’w targedu
• dylanwadau i’w cryfhau
• camau gweithredu priodol i gryfhau dylanwadau - cynnwys unigolion mewn asesiadau risg cyflawnwyr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- nodi unrhyw ymyriadau y gellid mynd ar eu trywydd yn erbyn cyflawnwyr ac sy’n amddiffyn unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gwneud asesiadau risg teg ar sail tystiolaeth, gwybodaeth a gafwyd a chanfyddiadau cysylltiedig
- trefnu asesiadau ychwanegol i gyflawnwyr pan fydd angen i asesu ymhellach y risg y byddant yn achosi niwed a chamdriniaeth
- nodi a yw cyflawnwyr yn addas i fynychu rhaglen driniaeth a chael y cydsyniad angenrheidiol yn unol â meini prawf a chanllawiau sydd ar gael
- trefnu bod cyflawnwyr yn mynychu rhaglenni triniaeth sy’n lleihau eu risg niwed a chamdriniaeth bellach
- monitro ac adolygu’r cyflawnwyr a aseswyd
- rhybuddio pobl eraill pan fyddwch yn nodi pryderon am risg niwed gan gyflawnwyr i’w hunain neu i bobl eraill
- esbonio cynnwys adroddiadau wrth gyflawnwyr, a phwy all gael at yr adroddiadau hyn, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- darparu adroddiadau a gwybodaeth i bobl berthnasol eraill, fel y bo’n briodol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt gan gynnwys
- rolau, amcanion, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- beth yw cam-drin domestig neu drais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- sut gall dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a’u ffynonellau
- sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gam-drin domestig neu drais rhywiol
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- rôl asiantaethau cymorth allanol o ran rhoi cymorth i unigolion yn eich ardal
- trefniadau amlasiantaethol ar gyfer darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich ardal
- prosesau asesu risg perthnasol a sut i ymgymryd â’r rhain
- cyfyngiadau prosesau asesu risg a’u dibyniaeth ar y wybodaeth sydd ar gael
- gwybodaeth sy’n angenrheidiol i asesu risg cyflawnwyr wrth fynd i’r afael â’u risg aildroseddu
- pwysigrwydd nodi p’un a oes gan y cyflawnydd broblemau eraill sy’n cyfrannu at ei ymddygiad camdriniol
- pwysigrwydd mynd i’r afael â phroblemau’r cyflawnydd fel rhan o broses herio’i ymddygiad
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- ffynonellau gwybodaeth am y cyflawnwyr rydych chi’n gweithio gyda nhw a sut i gael at y rhain
- dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth sy’n dod i law
- sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac adroddiadau ail-law
- ffactorau risg allweddol ar gyfer troseddu difrifol, gan gynnwys
• nifer yr euogfarnau blaenorol
• natur y cam-drin presennol
• patrymau ymddygiad camdriniol
• camddefnyddio cyffuriau ac alcohol - amgylchiadau sy’n mynnu asesiadau ychwanegol a sut i drefnu’r rhain
- amgylchiadau pan ystyrir bod y cyflawnwyr yn bobl uchel eu risg
- amgylchiadau sy’n mynnu atgyfeirio i asiantaethau eraill a sut i symud hyn yn ei flaen
- yr ystod o arddulliau a thechnegau cyfathrebu sydd ar gael a phryd a sut i’w haddasu
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun ei chael wrth weithio gyda chyflawnwyr ac unigolion
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhannu gwybodaeth
- yr amgylchiadau pan fydd angen rhoi gwybod i eraill am gyflawnwyr, gan gynnwys pan fydd gennych bryderon am ddiogelwch pobl eraill oherwydd ymddygiad y cyflawnydd
35.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Unrhyw ymddygiad neu batrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Ffordd o weithio i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei gynnig i rywun sy’n cael profiad o gam-drin domestig yn cael ei gynnig ar sail eu hanghenion a’i fod yn adeiladu ar eu cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’n cydnabod y wybodaeth sydd ganddynt am yr unigolyn sy’n defnyddio camdriniaeth. Gyda’r hawliau, gall y sawl nad yw’n cam-drin feithrin ei annibyniaeth, dod dros y trawma a gafodd a chael ei fywyd yn ôl, a dod o hyd i newid sy’n para.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Trais Rhywiol
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Dull seiliedig ar gryfderau
Dyma ddull gweithio gydag unigolion sy’n cydnabod eu cryfder i oresgyn eu profiadau
Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.