Cyflwyno a gwerthuso cynlluniau wedi'u teilwra i anghenion a ffactorau risg plant a phobl ifanc
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd neu ofalwyr i gydweithio â nhw i lywio dyluniad darpariaeth gwasanaethau.
Mae'n cynnwys gwrando ar gwestiynau, deall ac ymateb i'r hyn maen nhw'n ei ddweud, a'u cynnwys yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i ddeall y camau sy'n cael eu cymryd a'r rhesymau dros hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu gwybodaeth sy'n ymwneud ag amgylchiadau personol y plentyn neu'r person ifanc ac anghenion iechyd a lles cysylltiedig, gan gynnwys unrhyw asesiadau
- cadarnhau galluoedd y plentyn neu'r person ifanc ac unrhyw gynlluniau datblygu cysylltiedig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- cysylltu â phobl eraill berthnasol i bennu dangosyddion a mesurau y gellir asesu effaith cynlluniau a gweithgareddau yn eu herbyn
- cytuno ar amcanion yn unol â strategaeth eich sefydliad
- esbonio i blant a phobl ifanc eich rôl a'ch sefydliad, a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt
- cadarnhau hyd, dilyniant a fformat yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cynlluniau
- nodi pawb sy'n ymwneud â chyflawni cynlluniau a chadarnhau eu bod yn deall rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n cymryd rhan
- sicrhau bod pawb sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau yn deall camau gweithredu ac amserlenni ac yn cytuno arnynt
- cadarnhau bod cynlluniau wedi'u cynllunio a'u datblygu yn unol ag egwyddorion rhaglenni effeithiol
darparu gwybodaeth berthnasol i'r plentyn neu'r person ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun, gan gynnwys:
- y rheswm dros y cynllun
- y nodau
- amserlenni y cytunwyd arnynt
- amseriad a lleoliad sesiynau perthnasol
11.cadarnhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn deall ei gyfrifoldebau wrth gyfranogi
12.cyfathrebu'n briodol ac ar gyflymder addas â'r plentyn neu'r person ifanc, a sicrhau ei fod wedi deall
13.cyfeirio unrhyw gwestiynau y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at y person priodol, gan gynnwys lle mae gennych bryderon
14.cytuno ar y meini prawf y bydd llwyddiant y cynllun yn cael ei werthuso yn eu herbyn, gan gynnwys y dulliau i fonitro'r rhain
15.archwilio opsiynau a ffactorau risg ac amddiffynnol cysylltiedig, a fydd yn annog y plentyn neu'r person ifanc i ystyried yr effaith ar ei fywyd bob dydd
16.annog a chefnogi'r plentyn neu'r person ifanc i wneud dewisiadau gwybodus o'r opsiynau wrth wirio bod modd gweithredu'r opsiynau a bod y plentyn neu'r person ifanc wedi ymrwymo i'r rhain
17.gweithredu cynlluniau yn unol â'r fformat, y dilyniant a'r amserlen y cytunwyd arnynt
18.cydnabod ac ymateb i gyfranogiad y plentyn neu'r person ifanc ac annog ei gyflawniadau tuag at lwyddiant cynlluniau
19. monitro ac asesu ymddygiad a chynnydd plant a phobl ifanc yn ystod gweithgareddau, a darparu adborth adeiladol
20.cytuno â'r plentyn neu'r person ifanc ynghylch sut y bydd cynnydd yn erbyn y cynllun yn cael ei adolygu
21.ystyried a dewis y dull gwerthuso mwyaf addas ar gyfer cynlluniau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
22.cael adborth ac asesu pa mor dda y mae cynlluniau wedi perfformio, gan gynnwys sut maen nhw'n bodloni gofynion plant a phobl ifanc
23.gwerthuso perfformiad cynlluniau allweddol yn erbyn dangosyddion a mesurau y cytunwyd arnynt gan gynnwys llwyddiant cynlluniau yn erbyn amcanion eich sefydliad
24.gwerthuso unrhyw amrywiadau mewn perfformiad ac argymell ymatebion rhesymedig tuag at fynd i'r afael ag unrhyw amrywiadau neu fanteisio arnynt
25.ymateb o fewn amserlen y cytunwyd arni i ddiffyg cydymffurfio gan y plentyn neu'r person ifanc yn unol â gofynion sefydliadol a statudol
26.nodi unrhyw faterion neu newidiadau mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar allu plant a phobl ifanc i gymryd rhan, a mynd i'r afael â'r rhain o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
27.gofyn ac ymateb i adborth gan bobl eraill briodol sy'n ymwneud â chyflawni cynlluniau
28.nodi arferion effeithiol a meysydd i'w gwella, a chyfleu'r rhain i gydweithwyr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
29. cadw cofnodion cywir a sicrhau bod y rhain ar gael i bobl eraill berthnasol sy'n ymwneud â chyflawni cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'ch sefydliad eich hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud
- rôl eich sefydliad a'i wasanaethau, a sut maent yn ymwneud â sefydliadau a gwasanaethau eraill
- polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer rhannu gwybodaeth gydag eraill
- egwyddorion ymarfer cydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-wahaniaethol effeithiol
- y prif asiantaethau ymyrryd ac eraill perthnasol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'ch sefydliad
arferion, cysyniadau a therminoleg allweddol gan gynnwys:
- ymarfer effeithiol
- ymatal
- rhaglenni a gweithgareddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- methodoleg lwyddiannus ar gyfer datblygu cynlluniau
- cyflwyno cynlluniau yn seiliedig ar fodel aml-foddol
7.y ffyrdd y gall datblygiad a gweithrediad corfforol, cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol plant a phobl ifanc effeithio ar eu hymddygiad
8.ystyr cydsyniad ar sail gwybodaeth
9.diben egluro i blant a phobl ifanc nodau ac amcanion y rhaglen, eu cyfrifoldebau a chanlyniadau tebygol diffyg cydymffurfio, a chadarnhau eu bod wedi deall y rhain
10.ffactorau a allai ddylanwadu ar gymhelliant a gallu'r plentyn neu'r person ifanc i newid ei ymddygiad, ei agweddau a'i gredoau
11.sut i adeiladu a chynnal cymhelliant plant a phobl ifanc i newid agweddau, credoau ac ymddygiadau
12.effaith rhianta a theuluoedd ar blant a phobl ifanc mewn perthynas â'u gallu i ffurfio perthnasoedd eraill
13.effaith yr amgylchedd cymdeithasol ehangach ar unigolion, gan gynnwys meysydd amddifadedd materol, troseddu ac ofn troseddu, tai gwael a thlodi
14.y modelau sy'n sail i raglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag ymddygiad heriol plant a phobl ifanc
15.dulliau effeithiol o weithio gyda phlant a phobl ifanc a hyrwyddo eu diddordeb
16.dulliau effeithiol o reoli cynlluniau, gan gynnwys sut i herio'n adeiladol agweddau ac ymddygiadau nad ydynt yn ôl y disgwyl
17.gwahanol ddulliau posibl o weithredu cynlluniau a sut mae hyn yn cefnogi tebygolrwydd lleihau troseddu neu aildroseddu
18.pwysigrwydd monitro a gwerthuso effaith ymyriadau ar berfformiad sefydliadol
19.pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr a phobl eraill berthnasol wrth ddatblygu dangosyddion a mesurau
20.pam mae'n bwysig hyrwyddo llwyddiant gweithgareddau a rhaglenni ymyrryd
21.tueddiadau a datblygiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg mewn ymyriadau ar gyfer y sector cyfiawnder, a ffynonellau gwybodaeth ynghylch tueddiadau a datblygiadau o'r fath
22.dulliau y gellir eu defnyddio i annog cyfranogiad a'r camau y gallwch eu cymryd ynghylch diffyg cydymffurfio
23.dulliau o adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni
24.eich rôl a'ch cyfrifoldebau a ble i ofyn am gymorth a chyngor
25.sut i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc a sut i addasu yn briodol
26.ble i ofyn am gyngor ar ymarfer cyfredol ar niwrowahaniaeth
27.effaith trawma ar blant a phobl ifanc a sut i sicrhau bod eich ymarfer yn ystyried hyn
28.egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar gryfderau
29.sut i nodi ac ymateb i bryderon diogelu
30. egwyddorion cyfiawnder adferol
31.mathau o gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar unigolion
32.datblygiad plant gan gynnwys sgiliau corfforol, gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chyfathrebu
33.sut i hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant trwy eich gwaith
34.pwysigrwydd cadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer
35.polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion