Cefnogi plant a phobl ifanc i fynd i'r afael â'u hymddygiad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu plant a phobl ifanc sydd wedi troseddu, neu sydd mewn perygl o droseddu, i ddeall pam y gellid ystyried bod agweddau ar eu hymddygiad yn heriol, a manteision mynd i'r afael ag agweddau felly.
Mae hyn yn cynnwys herio eu hymddygiad a’u cefnogi a’u hannog i newid. Mae angen i chi gydnabod yr ystod gymhleth o ffactorau a allai arwain at droseddu a gallu helpu plant a phobl ifanc i werthfawrogi eu hunain ac eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cyfathrebu ar gyflymder a lefel sy'n briodol i'r plentyn neu'r person ifanc a
sicrhau’r diogelwch, hawliau ac urddas gorau posibl i’r rhai dan sylw wrth ddelio â'u hymddygiadhwyluso modd agored ac adeiladol o gyfnewid barn a gwybodaeth
cefnogi plant a phobl ifanc i fyfyrio ar eu hymddygiad ac i nodi'r agweddau heriol a'r canlyniadau cysylltiedig
helpu plant a phobl ifanc i ystyried effaith bosibl eu hymddygiad:
- arnynt eu hunain
- ar y cyhoedd, gan gynnwys dioddefwyr troseddau gwirioneddol a phosibl
- ar bobl sy’n bwysig iddynt
- ar bobl sy'n gweithio gyda nhw
cynnig gwybodaeth a chyngor ar fanteision newid cadarnhaol, gan gydnabod cymhlethdod y sefyllfa
archwilio gyda'r plentyn neu'r person ifanc ei agweddau at droseddu a'i gymhelliant i newid
herio agweddau ac ymddygiad sy'n gamdriniol, ymosodol neu wahaniaethol, gan ystyried eich diogelwch personol
rhoi cymorth i'r plentyn neu'r person ifanc ac eraill sy'n rhan o achosion o ymddygiad heriol
ystyried anghenion a theimladau’r plentyn neu'r person ifanc, a’i ymatebion i ymyriadau
nodi lle y gallai fod angen asesiad arbenigol ac esbonio'r angen am hyn i'r plentyn neu'r person ifanc, ei deulu neu ofalwr
helpu plant a phobl ifanc i werthfawrogi eu hunain yn gadarnhaol ac i gydnabod eu cryfderau a'u gallu i newid
cefnogi plant a phobl ifanc i ddewis opsiynau y gallant eu rhoi ar waith ac ymrwymo iddynt
ystyried ffactorau, gan gynnwys rhai hanesyddol, seicolegol a sefyllfaol, a allai fod wedi cyfrannu at ymddygiad heriol gyda'r plentyn neu'r person ifanc ac eraill dan sylw
cytuno ar nodau a ffiniau sy'n briodol i amgylchiadau'r plentyn neu'r person ifanc a’u hegluro gan ddefnyddio cyflymder a lefel sy'n briodol i'w ddealltwriaeth a'i ofynion
nodi pryd mae ymddygiad plentyn neu berson ifanc y tu allan i'r nodau a'r ffiniau derbyniol y cytunwyd arnynt mewn ffyrdd sy'n bodloni ei ofynion
rhannu gwybodaeth gyda'r rhai sydd â'r hawl i'w gweld wrth gytuno ar strategaethau i alluogi plant a phobl ifanc i reoli eu hymddygiad
cydnabod gwrthdaro a thensiynau heb eu datrys rhwng y plentyn neu'r person ifanc a phobl eraill berthnasol a thrafod sut y gellir nodi, datrys a bwrw ymlaen â'r rhain
ceisio cymorth, gwybodaeth a chyngor perthnasol i helpu i ddatrys anawsterau yn unol â'r amserlenni gofynnol
cwblhau a chadw cofnodion yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol
i’ch sefydliad eich hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneudeffaith datblygiad corfforol, cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol ar ymddygiad plant a phobl ifanc
sut y gall cydraddoldeb ac anghydraddoldeb effeithio ar blant a phobl ifanc
yr effaith y gall troseddu ei chael ar ddioddefwyr a'u hangen i gael eu hamddiffyn, eu parchu, eu cydnabod a chael gwybodaeth
ffyrdd o annog plant a phobl ifanc i weld yr angen i newid eu hymddygiad a datblygu'r cymhelliant i wneud hynny
y rhwystrau rhag newid a allai fodoli i blant a phobl ifanc a'r dulliau o'u goresgyn
pam mae’n bwysig helpu plant a phobl ifanc i ystyried effeithiau eu dewisiadau ar eraill ac i fod â pherchnogaeth ar y penderfyniadau y maent yn eu gwneud a bod yn gyfrifol amdanynt
y dystiolaeth am effeithiolrwydd gwahanol ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc i newid eu hymddygiad
sut i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc a sut i addasu yn briodol
sut i gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwrth-wahaniaethol i'ch gwaith
sut i werthuso eich cymhwysedd pan fyddwch yn y gwaith ac i benderfynu pryd mae angen cymorth ac arbenigedd pellach
12. mathau o gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc
datblygiad plant gan gynnwys sgiliau corfforol, gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chyfathrebu
sut i hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant trwy weithio gyda phlant a phobl ifanc
egwyddorion ymarfer sy’n ystyriol o drawma a’i effaith ar ymddygiad
egwyddorion cyfiawnder adferol
pwysigrwydd cadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer
polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion a rhannu gwybodaeth