Cefnogi plant a phobl ifanc i bontio o'r system gyfiawnder
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli pontio effeithiol plant a phobl ifanc o'r system gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys pob math o bontio gan gynnwys pontio gwarchodol lle mae'r person ifanc yn cyrraedd yr oedran sy'n gofyn iddo drosglwyddo i'r system oedolion, a hefyd o'r system ieuenctid i ailsefydlu yn y gymuned a monitro unrhyw ofynion trwydded.
Gall pontio hefyd gynnwys ailsefydlu pobl ifanc sydd wedi bod ar remánd, ond nad ydynt wedi cael dedfryd o garchar. Gall hefyd gynnwys nodi pobl ifanc sydd â risg uchel o aildroseddu yn oedolyn gyda'r nod o'u cynnwys mewn gwaith pontio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth berthnasol am blant a phobl ifanc, gan gynnwys eu
hamgylchiadau ac anghenion ystyried anghenion y plentyn neu'r person ifanc o ran ei:
- addysg a chyflogaeth
- llety
- datblygiad personol
- gofynion ariannol
- iechyd a lles
- ailintegreiddio cymdeithasol
3. nodi unrhyw wybodaeth sydd ar goll, a chymryd y camau angenrheidiol i gael gafael arni
4.sefydlu eich rôl wrth fonitro cydymffurfiaeth, gan gadarnhau hyn gyda'ch rheolwr, cydweithwyr a'r plentyn neu'r person ifanc y byddwch yn ei fonitro
5.nodi'r ystod o wasanaethau neu weithgareddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc ac ystyried parhad y gwasanaethau hyn yn dilyn y pontio
6.cytuno ar gamau gweithredu i leihau unrhyw risgiau a nodwyd
7.nodi opsiynau trosglwyddo mewn partneriaeth â phobl eraill berthnasol ac yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt
8.trafod a chytuno ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â risgiau gyda phlant a phobl ifanc a'r rhai sy'n gyfrifol am eu goruchwylio ar ôl pontio
9.paratoi cynllun pontio sy'n mynd i'r afael ag anghenion y plentyn neu'r person ifanc
10.cytuno â'r cynllun pontio gyda'r plentyn neu'r person ifanc a phobl eraill berthnasol, gan gynnwys unrhyw asiantaethau a fydd yn darparu gwasanaethau
11.cytuno â'r plentyn neu'r person ifanc a phobl eraill berthnasol sut y bydd y cynllun pontio yn cael ei adolygu a'i werthuso
12.cyflwyno'r plentyn neu'r person ifanc ar ddechrau'r pontio i'r rhai a fydd yn gyfrifol am ei oruchwylio wedi’r pontio
13.cytuno ar linellau cyfathrebu rhwng pobl eraill berthnasol
14.cadarnhau gyda'r plentyn neu'r person ifanc ei fod yn deall ei ofynion, a chanlyniadau eu torri
15.cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n addas i anghenion, dewisiadau a galluoedd yr unigolyn
16.cytuno ag unigolion a phobl eraill berthnasol nodau ac amcanion realistig ar gyfer gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag anghenion a nodwyd
17.cadarnhau na fydd gweithgareddau a gynigir yn peryglu diogelwch
18.cael caniatâd ar sail gwybodaeth yr unigolion ar gyfer y rhaglenni arfaethedig
19.monitro cydymffurfiaeth yn unol â thelerau y cytunwyd arnynt a rhoi gwybod am eich canfyddiadau ac unrhyw argymhellion i'r sawl perthnasol
- rhoi gwybod i bobl eraill berthnasol lle nad oes gweithgareddau priodol ar gael i ddiwallu anghenion y plentyn neu'r person ifanc
21.cymryd camau pan nodir achos o gamddefnyddio gweithgareddau neu ymddygiad annerbyniol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
22.cymryd camau i ddarparu gweithgareddau amgen addas, lle nad yw nodau, amcanion a chanlyniadau gweithgaredd yn cael eu cyflawni
23.monitro cynnydd y plentyn neu'r person ifanc drwy raglenni pontio
24.rhoi manylion angenrheidiol i bobl eraill berthnasol am y plentyn neu'r person ifanc a chadarnhau cynnwys a dilyniant y cynllun pontio gyda nhw
25.cytuno â phobl eraill berthnasol y dyddiad pan fydd cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo
26 herio unrhyw agweddau ac ymddygiadau sy'n ymosodol, yn gamdriniol neu'n wahaniaethol wrth ystyried eich diogelwch personol
27.cael a gwirio gwybodaeth pan fo diffyg cydymffurfio amlwg a throsglwyddo hyn i bobl eraill berthnasol o fewn yr amserlenni gofynnol
28.cadarnhau rhesymau dros ddiffyg cydymffurfio gydag unigolion a phobl eraill berthnasol sy'n gweithio gydag unigolion
29, cadw cofnodion cyfredol a chywir yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol
i’ch sefydliad eich hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud - pwysigrwydd cynllun pontio effeithiol er lles y plentyn neu'r person ifanc ac osgoi risg i'r cyhoedd, gan gynnwys yr angen am oruchwyliaeth effeithiol
- pwerau statudol ar gyfer torri trwydded a gwahanol ddulliau y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â diffyg cydymffurfio
- pwysigrwydd cadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer
- yr ystod o wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc, cyn ac ar ôl y pontio ar draws y gwahanol lwybrau ailsefydlu
- gwerth gwaith partneriaeth drwy'r cyfnod pontio a'r angen i hyrwyddo dealltwriaeth rhwng y gwahanol wasanaethau
- nad yw'r pontio o blentyndod i oedolaeth yn benodol i oedran, a goblygiadau hyn ar gyfer pontio o'r system gyfiawnder
- sut i gefnogi pobl eraill berthnasol y mae angen gwybodaeth am bontio arnynt, neu sydd â hawl i wybodaeth felly
- y cynllun a'r effaith a ddymunir ar gyfer pontio plant a phobl ifanc
- yr ystod o weithgareddau sydd ar gael i helpu plant a phobl ifanc i baratoi ar gyfer ailsefydlu neu ailintegreiddio y tu mewn a'r tu allan i'r amgylchedd gwarchodol
- yr ystod o anghenion sydd gan blant a phobl ifanc i'w paratoi ar gyfer pontio o'r system gyfiawnder a sut i nodi'r anghenion hyn
- y goblygiadau ar gyfer diogelwch gweithgareddau, a sut i gadarnhau bod diogelwch yn cael ei gynnal
- sut i baratoi asesiad risg ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â phontio
- camau i'w cymryd mewn achos o gamddefnyddio gweithgareddau neu ymddygiad annerbyniol
- eich lefel o gyfrifoldeb ac awdurdod, ac at bwy i gyfeirio pan aethpwyd heibio i’r lefelau hyn
- ffactorau a gynhwysir o fewn trwydded a sefyllfaoedd lle gellir amrywio trwydded
- diben egluro a sicrhau dealltwriaeth am ofynion y drwydded gydag unigolion, gan gynnwys eu cyfrifoldebau a chanlyniadau tebygol unrhyw ddiffyg cydymffurfio
- egwyddorion ymarfer cydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-wahaniaethol effeithiol a sut i hyrwyddo hyn trwy eich gwaith gyda phlant a phobl ifanc
- sut i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc a sut i addasu yn briodol
- llinellau cyfathrebu rhwng plant a phobl ifanc a phobl eraill berthnasol
- ble i ofyn am gyngor ar arferion cyfredol sy'n ymwneud â niwrowahaniaeth
- sut i gymhwyso ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar gryfderau yn eich maes gwaith
- 23.effaith trawma ar blant a phobl ifanc a sut i sicrhau bod eich ymarfer yn ystyried hyn
- sut i nodi ac ymateb i bryderon diogelu
- egwyddorion cyfiawnder adferol
- mathau o gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc
- datblygiad plentyn gan gynnwys sgiliau corfforol, gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chyfathrebu
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion a rhannu gwybodaeth