Gweinyddu casglu gorchmynion ariannol a osodir gan lysoedd a thribiwnlysoedd
URN: SFJDG3
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â phrosesu casglu gorchmynion ariannol a godir gan lysoedd a thribiwnlysoedd. Mae'n cynnwys paratoi a chyhoeddi gorchmynion talu a monitro amserlenni talu, gan weithredu i fynd i'r afael ag achosion lle mae diffyg yn y taliadau sy'n ddyledus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi manylion am orchmynion ariannol a osodir gan lysoedd a thribiwnlysoedd, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
1.1 cyfansymiau
1.2 amserlenni talu cytûn
1.3 y rheiny y mae’n ofynnol iddynt dalu cosbau ariannol
1.4 ble dylid gwneud taliadau
2. paratoi hysbysiadau talu, yn unol â gofynion sefydliadol
3. prosesu gorchmynion ariannol, yn unol â gofynion sefydliadol
4. cyhoeddi dogfennau gorchmynion ariannol, yn unol â gofynion sefydliadol
5. monitro’r taliadau a wnaed yn erbyn amserlenni, yn unol â gofynion sefydliadol
6. nodi achosion o dalu’n hwyr a diffyg talu, yn unol â gofynion sefydliadol
7. cofnodi achosion o dalu’n hwyr a diffyg talu, yn unol â gofynion sefydliadol
8. mynd i’r afael ag achosion o dalu’n hwyr a diffyg talu, yn unol â gofynion sefydliadol
9. cyfeirio pobl sy’n talu’n hwyr a phobl nad ydynt yn talu at awdurdodau, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
9.1 eich argymhellion rhesymedig ynglŷn â pha gamau y dylid eu cymryd
10. cyfeirio ceisiadau am ymestyn amserlenni talu i awdurdodau, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
10.1 eich argymhelliad rhesymedig ynglŷn â’r camau y dylid eu cymryd
11. hysbysu ymgeiswyr am ganlyniadau ceisiadau i ymestyn amserlenni talu, yn unol â gofynion sefydliadol
12. cynnal cofnodion taliadau, yn unol â gofynion sefydliadol
13. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol presennol sy’n ymwneud â gweinyddu casglu gorchmynion ariannol
2. gofynion, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol presennol sy’n ymwneud â chyhoeddi gorchmynion ariannol
3. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag achosion o dalu gorchmynion ariannol yn hwyr a pheidio â’u talu
4. pwysigrwydd monitro taliadau a wnaed yn erbyn amserlenni, a sut i wneud hyn
5. pwysigrwydd diweddaru a chynnal cofnodion yn gywir
6. terfynau eich awdurdod, ac at bwy i gyfeirio pan eir y tu hwnt i derfynau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DG3
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achos; ariannol; cyllid; ardoll; ardoll a osodir; gweinyddu; casglu; taliad; gorchymyn talu; amserlen; diffyg