Cynorthwyo unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol i ddarparu tystiolaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol i ddarparu tystiolaeth. Mae’n cynnwys casglu tystiolaeth a darparu gwybodaeth i unigolion ynghylch archwiliadau meddygol fforensig a chymryd samplau cyn proses y llys. Mae’n cynnwys cael cydsyniad gan yr unigolyn i ddarparu tystiolaeth. Hefyd, mae’n cynnwys trefnu’r cyfarpar ar gyfer casglu tystiolaeth a chymryd camau i atal tystiolaeth rhag cael ei halogi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio asesiad risg ac anghenion priodol i gynorthwyo unigolion i ddarparu tystiolaeth, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- casglu tystiolaeth mewn ffyrdd nad yw’n cymryd blaenoriaeth dros les unigolion
- darparu gwybodaeth gywir i unigolion am:
• sut i ddiogelu tystiolaeth fforensig
• pa samplau y gellir eu cymryd, yn unol ag anghenion unigolion
• proses yr heddlu ar gyfer cyflawni’r dystiolaeth orau - trafod a chytuno ag unigolion ar eu dealltwriaeth o’r wybodaeth a ddarparwyd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cynnal cyfrinachedd unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- darparu gwybodaeth am y broses archwilio feddygol fforensig i unigolion mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion
- esbonio wrth unigolion y broses o gymryd a storio samplau
- asesu gallu unigolion i roi cydsyniad gwybodus i gasglu tystiolaeth yn gynnar
- cael cydsyniad gan unigolion, lle bo hynny’n briodol, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gwirio bod y cyfarpar a’r cyflenwadau priodol ar gael a’u bod yn gweithredu’n gywir er mwyn hwyluso’r broses gasglu tystiolaeth
- cymryd camau i atal y dystiolaeth rhag cael ei halogi, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- pennu a oes angen cynnal yr archwiliad fforensig a threfnu hyn, lle bo hynny’n briodol
- darparu cymorth yn ystod yr archwiliad fforensig, lle bo hynny’n briodol
- casglu a selio’r samplau fforensig, a’u labelu’n glir, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- storio samplau fforensig yn ôl yr amodau gofynnol, canllawiau cenedlaethol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- diweddaru gwybodaeth gyda chyfathrebiadau parhaus a gwybodaeth newydd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cael cydsyniad
- y canlyniadau a’r opsiynau sydd ar gael pan fydd unigolyn yn gwrthod cydsynio
- camau’r broses cyfiawnder troseddol er mwyn caniatáu i unigolion wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu disgwyliadau
- y gwahanol resymau pam y gall fod angen cofnodion ar y cyd â’r broses cyfiawnder troseddol
- materion diogelu data sy’n ymwneud â’r broses casglu tystiolaeth
- sut i gynnal cofnodion clir, cywir a ffeithiol
- y wybodaeth y gellir ei darparu i unigolion
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn y gymuned
- yr effaith ar bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys unigolion, plant a dibynyddion
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun, a’u heffaith ar eich gallu i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol
- sut i fod yn sensitif ac yn hyblyg eich dull, gan ddefnyddio amrywiol dechnegau sy’n briodol i ymddygiad ac agwedd yr unigolyn
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- y dulliau cywir ar gyfer defnyddio’r pecynnau cyfarpar y mae eich sefydliad yn eu defnyddio
- y canllawiau presennol sydd ar gael ar gasglu tystiolaeth fforensig a sut i’w cymhwyso
- ffyrdd o ymateb i anghenion iechyd corfforol ac iechyd rhywiol posibl
- y dulliau a’r cyfarpar cywir y mae eu hangen i gasglu a diogelu tystiolaeth fforensig
- y ffyrdd cywir o ddelio â chasglu, storio a diogelu tystiolaeth fforensig ddienw
- gofynion eich rôl gymorth yn ystod archwiliad meddygol fforensig a, lle y cytunir ar hynny, y cyfweliad fideo
- pryd mae’n briodol cymryd samplau fforensig a’r cyfyngiadau ar derfynau amser storio
- anghenion meddygol fforensig yr unigolyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.