Rheoli rheithwyr a diogelu eu huniondeb yn y llys
URN: SFJDD3
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â pharatoi a chynorthwyo rheithwyr yn y llys yn ystod gwasanaeth rheithgor. Mae'n cynnwys eu cyflwyno a'u paratoi ar gyfer yr ystafell llys ac wedyn eu cynorthwyo tra byddant yn rhan o'r rheithgor.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyflwyno gwybodaeth i reithwyr, gan gynnwys achosion llys a chodau ymddygiad, ac:
1.1 annog cwestiynau
1.2 gwirio dealltwriaeth
1.3 rhoi eglurhad
2. defnyddio technegau cyfathrebu priodol i dawelu meddwl rheithwyr, ac ateb ymholiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
3. mynd i’r afael â gofynion gan reithwyr ar gyfer trefniadau arbennig, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
3.1 mynediad i ystafelloedd llys
4. cadarnhau bod rheithwyr yn ymwybodol o leoliad cyfleusterau mewn adeiladau, ac yn delio ag unigolion mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cadarnhaol
5. nodi nifer y rheithwyr sydd eu hangen ym mhob llys yn eich maes cyfrifoldeb, yn unol ag amserlenni a bwrw ymlaen ag achosion
6. cadarnhau bod darpar reithwyr ar gael ar gyfer pob achos ac yn cyfeirio ceisiadau i gael eu hesgusodi o wasanaeth rheithgor, yn unol â gofynion sefydliadol
7. cofnodi'r camau y dylid eu cymryd pan na fydd rheithwyr yn mynychu, yn unol â gofynion sefydliadol
8. dewis rheithgor a chadarnhau bod gwarcheidwaid rheithgor yn eu lle, yn unol â gofynion deddfwriaethol
9. hysbysu rheithwyr am y cyhuddiadau y bydd y llys y maent yn ei fynychu yn mynd i’r afael â nhw, yn unol â gofynion sefydliadol
10. monitro anghenion rheithwyr unigol yn y llys
11. mynd i’r afael ag anghenion rheithwyr unigol, yn unol â gofynion sefydliadol
12. sicrhau bod rheithwyr na ddewiswyd yn cael gwybod beth yw’r camau nesaf yn y broses
13. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
14. monitro a chynnal diogelwch a diogeledd rheithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer paratoi, cynorthwyo a mynd i’r afael ag anghenion rheithwyr
2. achosion llys yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt, gan gynnwys prif rolau swyddogion llys
3. rôl a chyfrifoldebau rheithwyr
4. mathau o drefniadau arbennig a allai fod yn ofynnol gan reithwyr, a sut i ddarparu’r rhain
5. yr amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael i reithwyr mewn adeiladau llys
6. treuliau sy’n cael eu hawlio gan reithwyr a phrosesau ar gyfer hawlio ac ad-dalu treuliau
7. gweithdrefnau i ddewis rheithwyr ar gyfer gwahanol lysoedd yn eich maes cyfrifoldeb
8. amserlen yr achosion hynny yr ydych chi’n gyfrifol am ddarparu rheithwyr ar eu cyfer
9. pwysigrwydd monitro cynnydd yn unol ag amserlenni, a sut i wneud hyn
10. pwysigrwydd sicrhau bod rheithwyr yn ymwybodol o’r cyhuddiadau yr eir i’r afael â nhw yn yr achosion llys y maent yn eu mynychu, a sut i wneud hyn
11. achosion o dorri rheolau uniondeb rheithgor a sut i ddelio â’r rhain, gan gynnwys yr angen i reithwyr beidio â chyfathrebu ag aelodau o’r cyhoedd yn ystod achosion
12. pwysigrwydd monitro diogelwch a diogeledd rheithwyr a sut i wneud hyn, gan gynnwys;
12.1 gweithdrefnau ar gyfer gwacáu adeiladau llys
12.2 rolau a chyfrifoldebau mewn argyfwng
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DD3
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; achos; rheithwyr; gwasanaeth rheithgor; ystafell llys; rheithgor