Prosesu hawliadau am dreuliau yn ymwneud â mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd
URN: SFJDC6
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â gwirio a phrosesu hawliadau am dreuliau gan bartïon sy'n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd, er enghraifft tystion a rheithwyr.
Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd ac erlyniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod hawliadau am ad-dalu treuliau yn gyflawn, yn unol â gofynion sefydliadol
2. cadarnhau bod yr hawlwyr wedi mynychu achosion y caiff ad-daliadau eu hawlio amdanynt, yn unol â gofynion sefydliadol
3. cadarnhau bod hawlwyr yn gymwys am ad-daliadau, yn unol â gofynion sefydliadol
4. cadarnhau bod y symiau sy’n cael eu hawlio yn gywir ac yn cyd-fynd â’r symiau sy’n daladwy
5. nodi dogfennau anghyflawn neu anghysondebau, yn unol â gofynion sefydliadol
6. mynd i’r afael â dogfennau anghyflawn neu anghysondebau, yn unol â gofynion sefydliadol
7. cyfeirio ymholiadau ynghylch hawliadau y tu hwnt i’ch awdurdod at eich rheolwr llinell, yn unol â gofynion sefydliadol
8. hysbysu hawlwyr am hawliadau annilys gan amlinellu’r rhesymau pam, yn unol â gofynion sefydliadol
9. mynd i’r afael ag ymholiadau gan bartïon sy’n mynychu achosion o ran cymhwyster am ad-dalu treuliau, yn unol â gofynion sefydliadol
10. prosesu hawliadau dilys am daliadau, yn unol â gofynion sefydliadol
11. cynnal cofnodion o hawliadau a wneir, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer gwirio a phrosesu hawliadau am dreuliau gan y rheiny sy’n mynychu’r llys
2. meini prawf y mae’n rhaid i hawlwyr eu bodloni i gymhwyso ar gyfer hawlio treuliau
3. y mathau o dreuliau y gellir eu hawlio, a lwfansau ar gyfer pob un
4. sut i hysbysu hawlwyr am ddogfennau anghyflawn neu hawliadau annilys, a phwysigrwydd gwneud hyn mewn modd proffesiynol
5. graddfeydd amser ar gyfer prosesu a thalu treuliau
6. gofynion sefydliadol ar gyfer cofnodi hawliadau treuliau
7. terfynau eich awdurdod a sut i ddelio â hawliadau ac ymholiadau y tu allan i hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DC6
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achos; treuliau; traul; hawliadau; tystion; rheithwyr