Cynnal y drefn gyhoeddus a phrotocolau mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
URN: SFJDC4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â monitro ymddygiad y rheiny sy'n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd a mynd i'r afael ag achosion o anhrefn gyhoeddus neu fethiant i gadw at brotocolau arferol. Nid yw'n cynnwys gafael yn rhywun yn gorfforol i gael ei hebrwng o wrandawiadau.
Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. fonitro ymddygiad y rheiny sy’n mynychu gwrandawiadau, yn unol â gofynion sefydliadol, a:
1.1 bod yn effro i arwyddion o ymddygiad annerbyniol
1.2 nodi achosion o ymddygiad annerbyniol
1.3 cymryd camau i gynnwys achosion o ymddygiad annerbyniol
2. ymateb i broblemau ac amgylchiadau sydd angen sylw, yn unol â gofynion sefydliadol a graddfeydd amser
3. rhoi rhybuddion ar lafar i unigolion sy’n dangos arwyddion cychwynnol ac annerbyniol o ymddygiad, yn unol â gofynion sefydliadol
4. mynd i’r afael ag achosion o ymddygiad annerbyniol, yn unol â gofynion sefydliadol, ac
4.1 adrodd am achosion sydd angen ymyrraeth gorfforol i awdurdodau, yn unol â gofynion sefydliadol
5. cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
6. delio ag unigolion mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cadarnhaol, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
7. cynnal diogelwch y rheiny sy’n mynychu gwrandawiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer cynnal y drefn gyhoeddus mewn gwrandawiadau
2. rolau a chyfrifoldebau’r rheiny sy’n rheoli’r drefn gyhoeddus mewn gwrandawiadau
3. prif fathau o anhrefn gyhoeddus a sut i adnabod y rhain
4. pwysigrwydd adnabod arwyddion o anhrefn bosibl yn gynnar a sut i wneud hyn
5. y camau y dylid eu cymryd i fynd i’r afael ag achosion o dorri rheolau’r drefn gyhoeddus
6. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut i addasu eich arddull i fodloni anghenion y sefyllfa
7. pwysigrwydd aros yn bwyllog wrth ymdrin â sefyllfaoedd anodd
8. eich rôl a’ch cyfrifoldeb o ran cynnal y drefn gyhoeddus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DC4
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achos; y drefn gyhoeddus; ymddygiad; anhrefn; protocol