Cefnogi achosion mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
URN: SFJDC3
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon ynglŷn â darparu cymorth i swyddogion, ymgyfreithwyr a phobl eraill mewn llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae’n cynnwys darparu cyfarwyddyd gweithdrefnol ar ran llysoedd a thribiwnlysoedd a derbyn a chofnodi canlyniadau.
Mae’r safon hon yn eithrio cynnig unrhyw gyngor ar faterion neu achosion barnwrol neu gyfreithiol sy’n gofyn am hyfforddiant neu gymwysterau cyfreithiol.
Gall achosion fod naill ai’n droseddol neu’n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd neu erlyniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. blaenoriaethu achosion fydd yn para am gyfnod byr i gael eu clywed yn gyntaf, yn unol â gofynion sefydliadol
2. cadarnhau bod trefniadau arbennig ar gael sydd eu hangen ar unigolion, yn unol â gofynion sefydliadol
3. cadarnhau bod yr offer sydd ei angen ar gyfer trefniadau arbennig yn gweithio’n gywir, yn unol â gofynion sefydliadol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
4. mynd i’r afael â phroblemau o ran trefniadau arbennig, yn unol â gofynion sefydliadol
5. cadarnhau bod unigolion sy’n defnyddio mesurau arbennig yn deall ac yn gallu gweithio’r offer a ddarperir, yn unol â gofynion sefydliadol
6. gweithio offer recordio, yn unol â gofynion sefydliadol
7. galw achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
8. darparu cymorth a chyfarwyddyd i bartïon, yn unol â gofynion sefydliadol
9. delio ag unigolion mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cadarnhaol, yn unol â gofyniad sefydliadol
10. darparu cyfarwyddyd ar achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
11. ymateb i geisiadau am gyngor ar weithdrefnau, yn unol â gofynion sefydliadol
12. trefnu bod gwybodaeth ar gael i’r rheiny sydd ei hangen ac sydd â hawl i gael y wybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
13. sefydlu a chofnodi canlyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
14. cadarnhau bod y partïon sy’n bresennol yn deall ac yn ymwybodol o ganlyniadau a’u heffaith, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
15. cynnal cofnodion canlyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
16. hysbysu awdurdodau am ganlyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol o ran llysoedd a thribiwnlysoedd yn eich maes awdurdod a chyfrifoldeb, gan gynnwys:
1.1 darparu cymorth a chyfarwyddyd i’r rheiny mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
1.2 darparu cyfarwyddyd a chyngor ar weithdrefnau mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
1.3 derbyn a chofnodi canlyniadau
2. manteision clywed achosion fydd yn para am gyfnod byr yn gyntaf
3. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut i addasu eich arddull i weddu i anghenion unigolion
4. sut i gynnal cofnodion yn ymwneud â llysoedd a thribiwnlysoedd
5. yr amrywiaeth o drefniadau arbennig sydd ar gael, gan gynnwys cyfathrebu ac offer mynediad
6. manteision ac anfanteision trefniadau arbennig ar gyfer y rheiny sy’n eu defnyddio, a phroses y llys a’r tribiwnlys
7. sut i weithio offer sy’n gysylltiedig â threfniadau arbennig
8. yr awdurdodau i’w hysbysu am ganlyniadau achosion a sut i wneud hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DC3
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achos; achosion; cymorth; swyddogion; ymgyfreithwyr; gweithdrefnau