Paratoi ystafelloedd llys a thribiwnlys ar gyfer achosion
URN: SFJDC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â pharatoi ystafelloedd llys a thribiwnlys ar gyfer achosion. Mae'n cynnwys sicrhau bod cyfleusterau ar gael i'w defnyddio.
Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi ystafelloedd a fydd yn cael eu defnyddio a’r cyfleusterau sydd eu hangen, yn unol â gofynion sefydliadol
2. nodi’r rheiny sy’n debygol o fod yn bresennol yn yr ystafelloedd llys a thribiwnlys, yn unol â gofynion awdurdodaethol a sefydliadol
3. gwneud yn siŵr fod trefniadau seddau neu gyfleusterau ar waith, yn unol â gofynion awdurdodaethol a sefydliadol
4. gwneud yn siŵr fod ystafelloedd a chyfleusterau mewn cyflwr da, yn unol â gofynion sefydliadol
5. rhoi gwybod am gyfleusterau wedi’u difrodi a rhai diffygiol, yn unol â gofynion sefydliadol
6. trefnu bod nifer angenrheidiol y gwydrau a’r jygiau llawn dŵr ar gael
7. gwneud yn siŵr fod offer recordio yn barod i’w ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion sefydliadol
8. penderfynu ble mae angen gwneud trefniadau arbennig, yn unol â gofynion sefydliadol
9. sicrhau bod offer a chyfleusterau perthnasol yn cael eu darparu ar gyfer trefniadau arbennig, yn unol â gofynion sefydliadol
10. sicrhau bod ystafelloedd yn cael eu paratoi mewn pryd er mwyn gallu dechrau achosion yn brydlon, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol o ran paratoi ystafelloedd llys a thribiwnlys ar gyfer gwrandawiadau yn eich maes cyfrifoldeb
2. gosod seddau a chyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o wrandawiadau yn eich maes cyfrifoldeb
3. gyda phwy y dylid cysylltu i drefnu bod ystafelloedd yn cael eu gwirio
4. gyda phwy y dylid cysylltu i drefnu bod cyfleusterau’n cael eu cynnal a’u hatgyweirio
5. mathau o drefniadau arbennig
6. gweithdrefnau ar gyfer gwneud trefniadau arbennig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DC1
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achos; ystafell gwrandawiad; achosion; cyfleusterau; gofynion