Mynd i’r afael â materion cyn-gwrandawiad o ran achosion llys, tribiwnlys ac erlyn

URN: SFJDB7
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â delio â materion cyn-gwrandawiad, er enghraifft y rheiny sy'n arwain at wrandawiadau llys neu dribiwnlys ac y cyfeirir atynt weithiau fel materion dros dro. Mae'n cynnwys delio ag anawsterau sy'n gysylltiedig ag amseroedd a lleoedd ar gyfer gwrandawiadau a mynd i'r afael ag ymholiadau gan bartïon.

Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd neu erlyniadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. nodi materion cyn-gwrandawiad i fynd i’r afael â nhw, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
2. nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i brosesu materion cyn-gwrandawiad, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol 
3. asesu effaith materion cyn-gwrandawiad ar achosion, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol, gan gynnwys: 
3.1 effeithiau ar ddyddiadau a lleoliadau gwrandawiad a drefnwyd
4. cyfeirio materion cyn-gwrandawiad y tu allan i’ch cyfrifoldeb i awdurdodau, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
4.1 eich argymhellion rhesymedig ynghylch y camau i’w cymryd
5. datrys materion cyn-gwrandawiad, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
6. hysbysu partïon am y camau gweithredu cytûn, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol, a:
6.1 trefnu bod gwybodaeth ar gael i’r rheiny sydd ei hangen
7. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol 
8. cynnal cofnodion o’r holl gamau gweithredu cytûn, yn unol â gofynion sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. gofynion a gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol presennol o ran mynd i’r afael â materion cyn-gwrandawiad  2. pwysigrwydd mynd i’r afael â materion cyn-gwrandawiad a goblygiadau peidio â gwneud hynny   3. mathau o faterion cyn-gwrandawiad a chamau gweithredu sy’n briodol i fynd i’r afael â nhw 4. lefelau cyfrifoldeb ar gyfer delio â gwahanol faterion cyn-gwrandawiad, ac at bwy y dylid cyfeirio os bydd hyn y tu allan i’ch lefel cyfrifoldeb  5. y partïon i’w hysbysu am ganlyniadau materion cyn-gwrandawiad 6. pryd mae angen aildrefnu achosion a sut i wneud hyn 7. pwysigrwydd cadw gwybodaeth yn ddiogel 8. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir, yn unol â gofynion sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ DB7

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys

Cod SOC

4131

Geiriau Allweddol

llys; tribiwnlys; erlyn; achos; cyn-gwrandawiad; gwrandawiad; dros dro; gwrandawiad