Sicrhau presenoldeb mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
URN: SFJDB5
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon ynglŷn â hysbysu aelodau o’r cyhoedd y mae’n ofynnol iddynt fynychu gwrandawiadau llys a thribiwnlys, gan gynnwys y rheiny sy’n cael eu herlyn, tystion ac unigolion eraill.
Mae’n cynnwys delio ag ymholiadau ynglŷn ag achosion a chymryd camau i fynd i’r afael â rhwystrau rhag mynychu. Mae’r safon hon yn eithrio hysbysu rheithwyr wrth ddelio ag achosion mewn llysoedd.
Gall achosion naill fod naill ai’n droseddol neu’n sifil mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. penderfynu pa unigolion y mae’n ofynnol iddynt fynychu gwrandawiadau, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
2. hysbysu unigolion am ddyddiadau a lleoliadau gwrandawiadau o fewn amserlenni, yn unol â gofynion sefydliadol
3. rhoi gwybodaeth i unigolion i esbonio gweithdrefnau, yn unol â gofynion sefydliadol
4. cyfeirio anawsterau o ran cael cadarnhad am bresenoldeb, yn unol â gofynion sefydliadol
5. adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
6. nodi rhwystrau rhag mynychu ar yr amser a drefnwyd, yn unol â gofynion sefydliadol
7. ymateb i ymholiadau a godwyd gan y rheiny y mae’n ofynnol iddynt fynychu llysoedd a thribiwnlysoedd, yn unol â gofynion sefydliadol
8. delio ag unigolion, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
9. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol presennol ar gyfer hysbysu’r rheiny sy’n mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd
2. y prif rwystrau rhag mynychu llysoedd a thribiwnlysoedd
3. mathau o gymorth sydd ar gael, a sut i fwrw ymlaen â’r rhain
4. asiantaethau ac unigolion trydydd parti sy’n darparu cymorth, a sut y dylid dechrau eu cynnwys
5. y camau y dylid eu cymryd pan fyddwch yn pryderu am rwystrau rhag mynychu neu fwriad unigolyn i fynychu
6. y mathau o ymholiadau gan y rheiny y mae’n ofynnol iddynt fynychu llysoedd a thribiwnlysoedd a sut i ddelio â’r rhain
7. gwybodaeth sy’n gyfrinachol
8. y rheiny sydd â mynediad at wybodaeth gyfrinachol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DB5
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achosion; presenoldeb; mynychu; gwrandawiadau; tystion; erlyn