Bwrw ymlaen â cheisiadau ar gyfer aildrefnu achosion llys a thribiwnlys
URN: SFJDB3
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â bwrw ymlaen â cheisiadau ar gyfer aildrefnu achosion. Mae'n cynnwys hysbysu personél perthnasol, dyrannu, rhestru a threfnu adnoddau fel y gellir ail-alw achosion cyn gynted ag y bo'n briodol i allu gwneud hynny.
Mae'r term aildrefnu yn cynnwys achosion sydd wedi cael eu gohirio neu'u hoedi.
Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi ceisiadau i aildrefnu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
2. gwneud yn siŵr fod yr holl wybodaeth ar gael er mwyn gallu aildrefnu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
3. hysbysu pawb am yr aildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol
4. nodi dyddiadau ar gyfer aildrefnu achosion, yn unol â phenderfyniadau i ohirio
5. cadarnhau bod dyddiadau ar gyfer achosion yn bodloni’r graddfeydd amser gofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
6. amcangyfrif hyd achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
7. nodi personél perthnasol i glywed achosion wedi’u haildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol
8. cadarnhau bod adnoddau ar gael ar gyfer achosion wedi’u haildrefnu, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
8.1 cyfleusterau
8.2 personél
9. aildrefnu achosion, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
9.1 trefnu cyfleusterau
9.2 trefnu personél
10. hysbysu partïon mewnol ac allanol am anawsterau posibl o ran bodloni’r graddfeydd amser gofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
11. hysbysu awdurdodau am dystion a phobl eraill berthnasol sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
12. cynnal cofnodion cywir a chyfoes, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion sefydliadol a deddfwriaethol presennol sy’n ymwneud ag aildrefnu achosion yn eich maes cyfrifoldeb
2. awdurdodaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn eich maes cyfrifoldeb a mathau o achosion y gallant eu clywed
3. rhesymau pam y caiff achosion eu haildrefnu
4. pwysigrwydd dyrannu a rhestru achosion wedi’u haildrefnu yn gywir a chyn gynted ag y bo modd
5. ffactorau i’w hystyried wrth asesu hyd tebygol achosion
6. y gwahanol bersonél sydd eu hangen i glywed achosion yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt
7. graddfeydd amser y mae’n rhaid clywed achosion ynddynt
8. y partïon i’w hysbysu am ddyddiadau gwrandawiadau wedi’u haildrefnu a sut i wneud hyn
9. terfynau eich cyfrifoldeb ac at bwy i gyfeirio os eir y tu hwnt i’r rhain
10. gofynion sefydliadol ar gyfer creu a chynnal cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DB3
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achos; cynnydd; dilyniant; gohirio; aildrefnu; oedi; dyraniad; dyrannu; rhestru; adnoddau