Dyrannu, rhestru a threfnu adnoddau ar gyfer achosion llys, tribiwnlys ac erlyn
URN: SFJDB2
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â dyrannu, rhestru a threfnu adnoddau i fwrw ymlaen ag achosion i wrandawiadau. Mae'n cynnwys sefydlu bod cyfleusterau ac adnoddau ar gael a bod swyddogion yn cael eu hysbysu.
Gall achosion fod naill ai'n droseddol neu'n sifil mewn llysoedd, tribiwnlysoedd neu erlyniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwneud yn siŵr fod gwybodaeth ar gael i restru achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
2. mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
3. cadarnhau bod awdurdodaeth achosion wedi cael ei nodi, yn unol â gofynion sefydliadol
4. cofnodi a chynnal gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
5. amcangyfrif hyd achosion, yn unol â gweithdrefnau awdurdodaethol
6. nodi gofynion achosion, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
6.1 personél
6.2 lleoliad
6.3 hyd disgwyliedig
7. cadarnhau bod adnoddau ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
7.1 cyfleusterau
7.2 personél
8. rhestru achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
9. dyrannu adnoddau angenrheidiol i glywed achosion, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
9.1 cyfleusterau
9.2 personél
10. cadarnhau bod dyddiadau rhestru ar gyfer achosion yn cyd-fynd â’r graddfeydd amser gofynnol
11. hysbysu partïon mewnol ac allanol am unrhyw anawsterau posibl o ran bodloni graddfeydd amser gofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
12. hysbysu partïon mewnol ac allanol am fanylion achosion, yn unol â gofynion sefydliadol
13. hysbysu awdurdodau am yr hyn sy’n rhwystro tystion a phobl eraill berthnasol rhag mynychu, yn unol â gofynion sefydliadol
14. cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion a gweithdrefnau gofynion sefydliadol presennol o ran dyrannu a rhestru achosion
2. pwysigrwydd dyrannu a rhestru achosion yn gywir, a’r materion sy’n codi pan na wneir hyn
3. awdurdodaethau llysoedd a thribiwnlysoedd yn eich maes cyfrifoldeb a’r mathau o achosion y gallant eu clywed
4. ffactorau i’w hystyried wrth asesu hyd achosion
5. gwahanol bersonél ac adnoddau sydd eu hangen i glywed achosion yr ydych yn gyfrifol amdanynt
6. y graddfeydd amser gofynnol y mae’n rhaid clywed achosion ynddynt
7. yr unigolion i’w hysbysu am ddyddiadau gwrandawiadau, a sut i wneud hyn
8. gofynion sefydliadol ar gyfer cofnodi a chynnal gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ DB2
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Llys, Swyddog erlyn, Swyddog Tribiwnlys
Cod SOC
4131
Geiriau Allweddol
llys; tribiwnlys; achosion; dyrannu; rhestr; adnoddau; dilyniant; gwrandawiadau; cyfleusterau; adnoddau; panel; erlyniadau