Rhoi tystiolaeth arbenigol i lysoedd a gwrandawiadau
Trosolwg
Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar ddisgwyliadau a gofynion tyst arbenigol a'r gofynion cysylltiedig yn ymwneud â chyflenwi tystiolaeth arbenigol gan dyst o'r fath.
Mae'r diffiniad diweddaraf o dyst arbenigol yn datgan:
Person y mae ei dystiolaeth wedi ei bwriadu i gael ei chyflwyno gerbron llys ac sydd â'r sgil neu'r wybodaeth berthnasol a gyflawnwyd trwy ymchwil, profiad neu gymhwysiad proffesiynol mewn maes penodol i roi hawl iddynt roi tystiolaeth o'u barn ac y gall y llys fod angen cymorth annibynnol yn ei chylch.
Er mwyn cynnal statws o'r fath, mae'n rhaid i dystion arbenigol gynnal gwerthfawrogiad diweddar a pherthnasol o'u maes gwybodaeth a diweddaru eu curriculum vitae er mwyn dangos i'r llys eu bod yn gymwys ac yn hygred i gyflwyno fesul achos.
Mae'n rhaid i dystion arbenigol baratoi tystiolaeth yn seiliedig ar lwyfan o degwch, gan ddefnyddio eu gwybodaeth, ymchwil ac ymholiadau ynghylch tystiolaeth achos heb ymateb i ddylanwadau gan bobl eraill sy'n wedi eu hysgogi'n fwy tuag at ganlyniad dymunol. Yn seiliedig ar hyn, dylid paratoi a chyflwyno'r holl dystiolaeth gan arbenigwr yn dryloyw, dylai fod yn atebol, wedi ei ategu gan ddata neu ddeunydd arall lle y bo'n bosibl a'i gyflwyno i'r llysoedd â'r un lefel o annibyniaeth a thegwch, gan ystyried yr holl dystiolaeth ddylanwadol, y ffeithiau a'r amgylchiadau. Os caiff ei herio, dylai tyst arbenigol allu darparu gwybodaeth ategol i egluro eu cysylltiad annibynnol â'r achos i gefnogi eu tegwch.
Ceir tair elfen
1 Paratoi i weithredu fel tyst arbenigol
2 Paratoi i gyflwyno tystiolaeth yn ymwneud ag achos penodol
3 Cyflwyno tystiolaeth arbenigol i lys neu wrandawiad
Grŵp Targed
Mae'r uned hon wedi ei hanelu at unrhyw un y mae'n ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth tyst arbenigol i lys neu wrandawiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi i weithredu fel tyst arbenigol
P1 cael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a datblygiadau perthnasol ym maes eich arbenigedd
P2 cynnal curriculum vitae sy'n benodol i faes eich arbenigedd sy'n cefnogi eich hygrededd i gyflenwi tystiolaeth arbenigol
P3 cydymffurfio â rheolau tystiolaeth a gweithdrefnau llys
P4 cydymffurfio â chyfraith achosion a chanllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer tystion arbenigol
P5 cydymffurfio â rheolau datgelu, yn arbennig y rheiny sy'n benodol i dystion arbenigol
P6 cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol sy'n cynnwys hil, amrywiaeth a hawliau dynol
Paratoi i gyflwyno tystiolaeth arbenigol yn ymwneud ag achos penodol
P7 llunio'r holl dystiolaeth yn unol â chyfraith achosion a chanllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer tystion arbenigol
P8 llunio'r holl dystiolaeth yn ddiduedd, gan adlewyrchu eich safbwynt am yr hyn y credwch sydd fwyaf tebygol, yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth
P9 cymryd camau rhesymol i sicrhau eich bod wedi gweld yr holl ddeunydd a allai ddylanwadu'n rhesymol ar ganlyniad eich canfyddiadau a'ch rhesymeg eich hun
P10 cymryd camau rhesymol i gael mynediad i ddeunydd ychwanegol a allai gefnogi honiadau, rhesymeg neu ganfyddiadau yn eich tystiolaeth eich hun
P11 cynnal, er mwyn darparu llwybr archwilio ar gyfer arolygu, cofnod cyflawn a chywir o
P11.1 geisiadau am ddeunydd a wnaed gennych chi
P11.2 deunydd a ddarparwyd ar eich cyfer chi
P11.3 deunydd y gwnaethpwyd cais amdano gennych chi, a
P11.4 deunydd a ddarparwyd gennych chi
P12 dogfennu a labelu unrhyw arddangosiadau a grëwyd gennych chi neu o dan eich goruchwyliaeth chi yn briodol
P13 llunio datganiad(au) clir, cywir a dealladwy yn nodi
P13.1 eich cymwysterau, profiad ac arbenigedd sy'n berthnasol i'r achos
P13.2 y deunydd yr ydych wedi ei ddefnyddio wrth ffurfio eich safbwynt(iau)
P13.3 deunydd yr ydych wedi ei ystyried ond nad ydych wedi ei ddefnyddio wrth ffurfio eich safbwynt(iau)
P13.4 eich safbwynt(iau) a'ch rhesymeg yn cyrraedd y safbwynt(iau) hyn
P13.5 pan fyddwch wedi rhoi safbwyntiau cymwys, manylion y cymwysterau
P13.6 crynodeb o'ch holl gasgliadau
P14 paratoi unrhyw ddatganiadau neu wybodaeth arall sy'n ofynnol gan y llys
P15 cynnal cyswllt â'r rheiny sydd wedi eich ymgysylltu fel tyst arbenigol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaethddiweddaraf, yn cael cyfle i ymateb i unrhyw ddatblygiadau a'ch bod ar gael i fynychu'r llys pan fo angen
P16 ymateb yn brydlon gan ystyried rhybuddion tystion
P17 paratoi cyn y gwrandawiad er mwyn sicrhau eich bod yn gyfarwydd â holl elfennau eich tystiolaeth
P18 cadw'r holl nodiadau a'r deunydd iddynt gael eu harchwilio wrth i chi fynychu'r llys os oes angen
Cyflwyno tystiolaeth arbenigol i lys neu wrandawiad
P19 cyrraedd y lleoliad mewn pryd i ganiatáu ymgynghori ymlaen llaw â thîm yr achos a'r rheiny sy'n gyfrifol am gyflwyno eich tystiolaeth fel Cwnsler
P20 sicrhau bod eich ymddangosiad personol yn adlewyrchu eich cyfrifoldebau proffesiynol a'ch rôl fel tyst arbenigol
P21 meddu ar yr holl ddeunydd yr ydych wedi ei ddefnyddio i lunio eich tystiolaeth, ar fformat sy'n addas i gael ei archwilio neu ei gyflwyno yn y llys
P22 cyflwyno eich tystiolaeth yn glir ac yn unol â'r ffiniau sy'n gysylltiedig â thystiolaeth arbenigol, gan sicrhau bod eich atebion yn cyd-fynd â'ch cyfrifoldebau proffesiynol
P23 sicrhau bod eich tystiolaeth yn cyd-fynd â'r dystiolaeth yn eich datganiad ac, os ydych yn cael eich denu oddi wrth eich tystiolaeth ysgrifenedig, gofalwch osgoi unrhyw wrth-ddweud posibl
P24 os ydych yn cael mwy o dystiolaeth sy'n gwrth-ddweud eich safbwyntiau a/neu eich rhesymeg, dylech gydnabod hynny
P25 os nad ydych yn gallu ateb cwestiynau penodol trwy ddiffyg gwybodaeth neu ymwybyddiaeth, esboniwch y rhesymau am hyn yn glir
P26 byddwch yn barod, os yw'r dystiolaeth yn cefnogi hynny, i ildio ar bwyntiau a allai fod yn niweidiol i'r parti sydd wedi eich cynnwys fel tyst arbenigol
P27 cyflwyno eich tystiolaeth mewn ffyrdd fydd o gymorth i eraill ddod i'w casgliadau eu hunain, gan ofalu peidio bod yn rhy gadarn o ran safbwynt
P28 bod ar gael yn y lleoliad nes eich bod yn cael eich rhyddhau yn ffurfiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a sefydliadol
G1 rheolau tystiolaeth, tystiolaeth arbenigol a chyfraith achosion cysylltiedig
G2 gweithdrefnau a phrotocolau mewn llysoedd a gwrandawiadau
G3 deddfwriaeth benodol a dylanwadau cyfreithiol sy'n berthnasol i'r achos penodol
G4 rheolau datgelu a chanllawiau wedi eu cyhoeddi i arbenigwyr ar dystiolaeth a deunydd heb ei ddefnyddio
G5 canllawiau penodol a ddefnyddir gan y sefydliad yr ydych yn cyflwyno eich tystiolaeth arbenigol ar ei gyfer gan ystyried rheolaeth tystion arbenigol
G6 deddfwriaeth bresennol, polisïau, gweithdrefnau, codau ymarfer a chanllawiau mewn perthynas â hil, amrywiaeth a hawliau dynol
Paratoi i weithredu fel tyst arbenigol
G7 pwysigrwydd cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch tueddiadau perthnasol a datblygiadau ym maes eich arbenigedd, a sut i wneud hynny
G8 pwysigrwydd cynnal curriculum vitae sy'n benodol i faes eich arbenigedd sy'n cefnogi eich hygrededd i gyflenwi tystiolaeth arbenigol, a sut i wneud hynny
G9 pwysigrwydd cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth bresennol, rheolau a chanllawiau'n ymwneud â gweithredu fel tyst arbenigol a sut i wneud hynny
G10 sut i lunio datganiad safbwynt arbenigol
G11 sut i labeli a chofnodi arddangosion
G12 sut i asesu tystiolaeth achos a chymhwyso eich gwybodaeth er mwyn dehongli materion amhendant
G13 sut i gadw, cofnodi a datgelu deunydd heb ei ddefnyddio
G14 sut i baratoi datganiadau clir, cywir a dealladwy fel sy'n ofynnol gan y llys neu'r gwrandawiad
G15 pwysigrwydd sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'ch tystiolaeth er mwyn paratoi ar gyfer y llys neu'r gwrandawiad, a sut i wneud hynny
G16 buddion cadw cyswllt rheolaidd â'r rheiny sydd wedi gofyn i chi fod yn dyst arbenigol iddynt
G17 sut i roi tystiolaeth yn effeithiol mewn llys neu wrandawiad
G18 sut a phryd y gallwch gyfeirio at nodiadau neu arddangosion gwreiddiol
G19 yr amgylchiadau y gellir cyflwyno tystiolaeth safbwynt
G20 dylanwadau yn ymwneud â'r ffordd y gellir cyflwyno tystiolaeth safbwynt
G21 protocolau yn ymwneud â chyswllt â swyddogion llys neu wrandawiad
G22 gweithdrefnau a phrotocolau llys
Cwmpas/ystod
Paratoi i gyflwyno tystiolaeth arbenigol yn ymwneud ag achos arbennig
- deunydd
1.1 gwybodaeth
1.2 deallusrwydd
1.3 tystiolaeth
1.4 deunydd heb ei ddefnyddio
1.5 deunydd amherthnasol
Cyflwyno tystiolaeth arbenigol i lys neu wrandawiad
2. deunydd
2.1 gwybodaeth
2.2 deallusrwydd
2.3 tystiolaeth