Rheoli rhaglenni llys
URN: SFJCP1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer unigolion sy’n rheoli gweithrediadau rhaglen lys effeithiol. Mae’r rôl hon yn cynnwys drafftio, amserlennu, adolygu ac addasu’r rhaglen lys.
Bydd hyn yn berthnasol i lysoedd a thribiwnlysoedd o feintiau amrywiol ac amrywiaeth eang o anghenion o ran adnoddau a busnes.
Weithiau, cyfeirir at y term “rhaglen” fel “rhestr llys” neu “amserlen”, ac fe’i defnyddir weithiau yng nghyd-destun (a) neilltuo sesiynau neu achosion o fewn mathau o lys mewn rhaglen strwythuredig neu (b) rheolaeth weithredol y rhaglen bob wythnos/bob dydd (h.y. dyrannu adnoddau barnwrol/ystafelloedd llys/staff, trefnu busnes ad hoc, trosglwyddo achosion rhwng llysoedd, ac ati).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd o ran rheolaeth weithredol rhaglenni llys
2. darparu a dadansoddi data i lywio amserlennu gweithgareddau rhaglennu llys, i gynnwys:
2.1 y capasiti y mae’n rhaid i’r rhaglen ddelio ag ef
2.2 amlder y mathau o lys sydd eu hangen
2.3 terfynau’r rhaglen o fewn y cyfyngiadau a osodwyd
2.4 yr adnoddau sydd ar gael
3. adolygu a datblygu ystadegau lleol i wella effeithiolrwydd rhaglennu ac at ddibenion adolygu rhaglenni, yn unol â gofynion sefydliadol
4. pennu amlderau gofynnol y mathau o lys, yn unol â gofynion sefydliadol
5. pennu p’un a yw’n ymarferol rhaglennu gwahanol fathau o lys ar wahanol amseroedd ac mewn lleoliadau gwahanol ar yr un diwrnod, yn unol â gofynion sefydliadol
6. paratoi a datblygu rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
7. cysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid i nodi gofynion llys, yn unol â gofynion sefydliadol
8. nodi adnoddau barnwrol a rhanddeiliaid sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
9. dyrannu adnoddau barnwrol, yn unol â gofynion sefydliadol
10. diwygio rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol er mwyn:
10.1 bodloni targedau busnes
10.2 pennu a ellir gwneud arbedion effeithlonrwydd i leihau oedi wrth brosesu busnes llys
10.3 monitro perfformiad a nodi meysydd ar gyfer gwella busnes
10.4 cynnwys unrhyw fusnes ad hoc
11. ceisio cymeradwyaeth rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
12. cadw gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
13. cyfleu rhaglenni llys i gydweithwyr a rhanddeiliaid a’u rhoi ar waith, yn unol â gofynion sefydliadol
14. ymateb i unrhyw ymholiadau am raglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
15. mesur effeithiolrwydd rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
16. ceisio adborth ar effeithiolrwydd rhaglenni llys, yn unol â gofynion sefydliadol
17. darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd rhaglenni llys i gydweithwyr a rhanddeiliaid, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich rôl, eich cyfrifoldebau a’ch cymhwysedd, ac i bwy i ofyn am gymorth a chyngor pan fydd angen
2. deddfwriaeth, arweiniad a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i rôl y swydd
3. gofynion a gweithdrefnau sefydliadol sy’n ymwneud â rheoli rhaglenni llys
4. y data a’r wybodaeth fydd yn cael eu casglu a’u dadansoddi i lywio rhaglennu llys
5. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd
6. y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo rhaglenni llys
7. pwy i hysbysu am newidiadau rhaglen lys
8. amrywiaeth y llysoedd/tribiwnlysoedd o fewn eich maes cyfrifoldeb a’r gweithdrefnau ynddynt
9. amrywiaeth yr adnoddau mewn llysoedd a thribiwnlysoedd o fewn eich maes cyfrifoldeb
10. rolau a chyfrifoldebau defnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd o fewn eich maes cyfrifoldeb
11. argaeledd a safonau adeiladau ac offer cysylltiedig
12. y protocol gweithredu y cytunwyd arno’n lleol neu’n genedlaethol ar lwythiadau ar gyfer mathau penodol o fusnes a’r modd y mae hyn yn effeithio ar raglenni llys
13. argaeledd rhanddeiliaid mewn achosion cymhleth neu hir
14. y targedau sy’n effeithio ar raglenni llys
15. effaith llys uwch yn chwilio am adeiladau o fewn eich cyfleusterau
16. yr angen am Lysoedd Arbenigol
17. achosion wedi’u cyfyngu gan amser a gofynion busnes ad hoc
18. gofynion gwyliau o ran llys gwarchodaeth
19. dulliau amgen mewn rhaglennu llys a sut i ad-drefnu llysoedd
20. yr arweiniad ar raglennu llysoedd a rhoi newid ar waith yn effeithiol
21. protocolau a’r cylchoedd gwaith ar gyfer grwpiau defnyddwyr llys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJ CP1
Galwedigaethau Perthnasol
Clerc Siryf, Rheolwr Llysoedd
Cod SOC
4161
Geiriau Allweddol
Rhaglennu llys, data ystadegol, ystafelloedd llys, achosion llys.