Dosbarthu adnoddau i ymateb i sefyllfaoedd a digwyddiadau brys
URN: SFJCD203
Sectorau Busnes (Suites): Cyfiawnder Cymunedol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
29 Mai 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dosbarthu'r ymateb cyflymaf, mwyaf priodol, i ddelio â sefyllfaoedd a digwyddiadau brys. Gall aelodau'r cyhoedd neu wasanaethau brys eraill alw ar yr ymateb hwn pan fydd angen cyngor a chymorth arnynt ar gyfer argyfyngau.
Bydd y bobl sy'n ymdrin â galwadau'n delio ag ymholiadau a cheisiadau am help a chymorth o natur amrywiol. Dylai pobl sy'n ymdrin â galwadau ateb galwyr gyda pharch ac urddas, gan gynnig y cyfarwyddyd neu'r wybodaeth ddiweddaraf oll, a sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau a'r protocolau priodol ar gyfer eu gwasanaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gweithredu systemau teleffoni a chyfrifiadurol priodol wrth dderbyn galwadau gan gydweithwyr, partneriaid neu aelodau'r cyhoedd
- Casglu digon o wybodaeth fanwl a pherthnasol am natur y sefyllfa
- Asesu'r wybodaeth a ddarparwyd, blaenoriaethu a phenderfynu ar y dull gweithredu mwyaf priodol yn unol â chylch gwaith eich rôl a gweithdrefnau'r sefydliad
- Darparu gwybodaeth fanwl am y sefyllfa frys i'r bobl a fydd yn bresennol, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
- Dosbarthu adnoddau priodol i'r sefyllfa frys yn amserol, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
- Ceisio cymorth gan bobl berthnasol eraill ar gyfer sefyllfaoedd anghyfarwydd neu gymhleth, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
- Ymgysylltu â chydweithwyr neu bartneriaid i gael diweddariad ar yr ymateb i'r digwyddiad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bobl berthnasol eraill, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
- Atgyfeirio sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i'ch cylch gwaith chi i bobl briodol eraill yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, a gofynion y sefydliad
- Cofnodi manylion y digwyddiad a gwybodaeth ddosbarthu yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
- Storio rhyngweithiadau â galwyr yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a'r gweithgareddau a wneir
- Y canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid mynd atynt
- Y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw wybodaeth a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi'ch hun, i gydweithwyr neu i'ch sefydliad
- Cylch gwaith a chyfyngiadau eich rôl a'ch cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich awdurdod
- Rolau a chyfrifoldebau pobl eraill er mwyn penderfynu ar y dull gweithredu gorau sydd ei angen
- Ble i gael cymorth yn dilyn galwad neu sefyllfa arbennig o anodd neu heriol
- Pam mae'n bwysig rhoi amser i chi'ch hun fyfyrio ar alwadau neu sefyllfaoedd anodd neu heriol
- Gweithdrefnau uwchgyfeirio a phryd i uwchgyfeirio
- Sut i weithredu systemau teleffoni a chyfrifiadurol pwrpasol sy'n berthnasol i'ch sefydliad
- Polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer delio â galwadau ffug a niwsans
- Y cyfraddau amser sy'n ofynnol ar gyfer delio â digwyddiadau
- Sefyllfaoedd a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dosbarthu adnoddau a gwasanaethau brys i ddigwyddiadau
- Pryd ac ym mha sefyllfa y mae'n gywir ac yn briodol dosbarthu adnoddau i ddigwyddiadau
- Sut i ddosbarthu adnoddau, cynnal cyfathrebu a meithrin perthynas gydag ymatebwyr
- Pwysigrwydd rhoi gwybodaeth glir a pherthnasol i ymatebwyr wrth ddosbarthu adnoddau i ddigwyddiadau
- Y math o wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ymatebwyr wrth ddosbarthu adnoddau i ddigwyddiadau, gan gynnwys unrhyw wybodaeth gritigol am ddiogelwch
- Yr ystod o adnoddau sydd ar gael i'w dosbarthu a sut i'w dosbarthu
- Sut i wrando'n weithredol ar y wybodaeth y mae galwyr yn ei darparu a pha wybodaeth allweddol y mae angen i chi ei chofnodi a gweithredu arni
- Diben ymarfer myfyriol a gwerthuso a sut mae'n llywio'ch ymarfer
- Gofynion y sector a chanllawiau arfer da ar gyfer datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
- Gofynion a gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a rhai'r sefydliad, ar gyfer cofnodi, storio ac adalw cofnodion
- Sut i weithredu systemau teleffoni a chyfrifiadurol sy'n berthnasol i'ch sefydliad
- Ble i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau technolegol yn gysylltiedig â systemau teleffoni a chyfrifiadurol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Mai 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Justice
URN gwreiddiol
SFJCD203
Galwedigaethau Perthnasol
Y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel
Cod SOC
7213
Geiriau Allweddol
Galwad; cyngor, digwyddiadau; asesu; sefyllfaoedd; rheoleiddiol; cyfrinachedd; perthynas; galwadau heriol; empathi; cwestiynau; dosbarthu; anfon; adnoddau