Rheoli adferiad cymunedol wedi argyfyngau LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi adferiad cymunedau wedi argyfyngau. Mae'n cynnwys cymryd camau i atal effeithiau argyfyngau rhag esgaladu a sicrhau bod adferiad parhaus yn derbyn sylw yn ystod ymatebion. Mae hefyd yn cynnwys nodi cyngor, cyllido a chymorth arall perthnasol, a chefnogi unigolion a sefydliadau i reoli eu hadferiad parhaus eu hunain.
Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n rheoli gwaith gyda chymunedau i gefnogi eu hadferiad wedi argyfyngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r rhai y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion, sefydliadau a grwpiau agored i niwed, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi effeithiau argyfyngau ar gymunedau a'r amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
- hyrwyddo ystyriaethau adferiad tymor hwy mewn ymateb i argyfyngau yn unol â gofynion sefydliadol
- cymryd camau, lle bo hynny'n ymarferol bosibl, i atal effeithiau argyfyngau rhag esgaladu, yn unol â gofynion sefydliadol
- ymgysylltu â sefydliadau o'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a allai gyfrannu at ymdrechion ymadfer, neu at adfer gwasanaethau yn unol â gofynion sefydliadol
- cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gydag unigolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag ymateb ac adferiad, yn unol â gofynion sefydliadol
- ymgynghori â chymunedau yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- cefnogi unigolion a sefydliadau i reoli eu hadferiad yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau y darperir gwybodaeth a chyngor ar y camau sy'n cael eu cymryd i unioni effeithiau argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- cytuno ar y camau gweithredu sy'n ofynnol a'u blaenoriaethu yn ystod prosesau ymadfer, yn unol â gofynion sefydliadol
- ystyried goblygiadau cyllidebol ac ariannol prosesau ymadfer, yn unol â gofynion sefydliadol
- ceisio'r cyngor, yr ariannu a'r cymorth sy'n angenrheidiol i gefnogi gwaith ymadfer yn unol â gofynion sefydliadol
- gwirio bod y pontio rhwng arweinyddiaeth a chyflwyno gwasanaeth yn ystod gwahanol gyfnodau ymateb ac adferiad yn cael ei gyfathrebu a'i ddeall, yn unol â gofynion sefydliadol
- darparu gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer apeliadau neu gofebau, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi ble gellid gwella systemau, gwasanaethau neu seilwaith i ddiwallu anghenion y dyfodol, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy'n ymwneud ag ymateb ac adferiad ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; eu strwythurau cyffredinol, eu dulliau cyfathrebu a'u prosesau gwneud penderfyniadau
- cynlluniau a threfniadau argyfwng
- nodweddion ardaloedd a all ddylanwadu ar effeithiau argyfyngau, gan gynnwys:
- nodweddion cymdeithasol, yn cynnwys grwpiau arbennig o agored i niwed
- statws iechyd y gymuned a'r cyfleusterau iechyd sydd ar gael
- nodweddion amgylcheddol ardaloedd
- statws economaidd ardaloedd
- seilwaith ardaloedd, gan gynnwys safleoedd, gwasanaethau neu rwydweithiau cyflenwi hollbwysig
- safleoedd a allai fod yn beryglus mewn ardaloedd a'u perthynas â chymunedau neu safleoedd sy'n amgylcheddol sensitif
- y mathau o effeithiau y gall fod angen i unigolion a chymunedau sicrhau adferiad yn eu sgîl, gan gynnwys:
- cymdeithasol
- iechyd
- economaidd
- effeithiau amgylcheddol
- y rhai y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt
- anghenion unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a sut gall y rhain newid dros amser
- effeithiau posibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed, yn cynnwys:
- diffiniadau o fod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau
- materion sy'n benodol i grwpiau agored i niwed
- sut mae cyfathrebu ag unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- sut mae sicrhau bod ystyriaethau adferiad tymor hwy yn cael eu hymgorffori i'r ymatebion i argyfyngau
- sut mae atal effeithiau argyfyngau rhag esgaladu
- sut mae grymuso unigolion, sefydliadau a chymunedau i reoli eu hadferiad eu hunain
- sefydliadau, grantiau a chynlluniau ariannu sy'n gallu cynorthwyo gydag adferiad wedi argyfyngau
- trefniadau ar gyfer rheoli arian a gyfrannwyd gan y cyhoedd mewn ymateb i argyfyngau
- deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i adferiad wedi argyfyngau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- natur gydweithredol
- ystyriaeth gymunedol
- bod yn adeiladol
- bod yn benderfynol
- meddu ar empathi
- bod yn hyblyg
- bod yn realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- cyfathrebu
- ymgynghori
- dylanwadu
- cysylltu
- ysgogi
- cyd-drafod
- rhwydweithio
- trefnu
- blaenoriaethu
- rheoli prosiectau
- arweinyddiaeth
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
Cymuned
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
- CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
- CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
- CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau
- CCAH1 Darparu cefnogaeth barhaus i ddiwallu anghenion unigolion y mae argyfyngau'n effeithio arnynt
- MLF1 Rheoli prosiect
- MLF2 Rheoli rhaglen o brosiectau sy'n cydweddu