Rheoli rhaglenni neu ffrydiau gwaith adfer

URN: SFJCCAH2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag arwain a rheoli rhaglenni neu ffrydiau gwaith adfer, i sicrhau ymagwedd gydlynus a deilliannau gwydn. Mae’n ymwneud â sefydlu sefydliadau arweiniol, gosod polisi, diffinio fframweithiau strategol, a gweithredu strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd. Hefyd, mae’n pwysleisio galluogi unigolion sydd wedi’u heffeithio i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, monitro a gwerthuso ar bob lefel.

Mae’n mynd i’r afael â’r angen am reoli risgiau, cyllid ac adnoddau, gan gydbwyso gofynion adfer â gwasanaethau hanfodol. Mae’n rhaid i’r bobl sydd ynghlwm addasu cynlluniau i fodloni anghenion sy’n esblygu a sensitifrwydd gwleidyddol, sefydlu fframweithiau gwerthuso, a monitro effaith er mwyn sicrhau atebolrwydd. Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â chau rhaglenni, gan sicrhau bod amcanion adfer wedi’u bodloni a bod buddion wedi’u gwireddu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • asesu heriau ac anghenion adfer tymor byr a thymor hir ar draws parthau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol
  • dehongli deddfwriaeth a chanllawiau i nodi cyfrifoldebau, blaenoriaethau ac ymagweddau at raglennu adfer
  • nodi partneriaid a rhanddeiliaid mewn adfer, gan gyfeirio at strategaethau ymgysylltu â phartneriaethau, cyfathrebu ac atebolrwydd perthnasol, a’u diweddaru, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol
  • cydlynu arbenigwyr adfer medrus i gynghori ar bolisi a rheoli rhaglen
  • sefydlu sefydliad arweiniol, polisi adfer a fframwaith cyflawni strategol i reoli rhaglenni adfer
  • darparu arweinyddiaeth trwy rolau a strwythurau sydd wedi’u diffinio’n glir
  • diffinio risgiau i’r rhaglen adfer a chyflawni deilliannau bwriadedig, gan gynnwys galluoedd llywodraethu a rheoli
  • gweithredu asesiadau integredig, systemau rheoli data a systemau diogeled data i alluogi’r ffrydiau gwaith adfer i gael eu rheoli a’u cydlynu
  • cydbwyso gofynion adfer â chynnal gwasanaethau hanfodol a lleihau gweithrediadau nad ydynt yn hanfodol
  • rheoli sensitifrwydd ac ystyriaethau gwleidyddol ym maes adfer
  • galluogi cymunedau yr effeithiwyd arnynt i gymryd rhan mewn polisi, cyflawni, monitro a gwerthuso adfer
  • addasu blaenoriaethau, cynlluniau ac ymagweddau ar sail anghenion a gofynion sy’n newid
  • rheoli adnoddau, cadwyni cyflenwi a mecanweithiau ariannol i sicrhau effeithlonrwydd, tryloywder ac effaith mewn gweithrediadau adfer
  • gweithio’n gydweithredol i gynnal asesiadau risg dynamig a pharodrwydd ar gyfer digwyddiadau sy’n gydamserol, gan gyfleu risgiau i bartneriaid a rhanddeiliaid yn rhagweithiol ar yr un pryd
  • sefydlu fframweithiau, a monitro a gwerthuso yn rheolaidd i asesu effaith adfer a sicrhau atebolrwydd
  • datblygu a gweithredu strategaeth ymadael ar gyfer cau rhaglenni adfer, gan gynnwys adolygiadau gwireddu buddion
  • ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu arfer da ac arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth gyda phartneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • deddfwriaeth, polisi, canllawiau ac arfer da perthnasol ym maes rheoli adfer
  • rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner a rhanddeiliaid ym maes adfer
  • cysyniad risg, termau cysylltiedig a sut maent yn cael eu defnyddio mewn gwahanol sectorau
  • cysyniad adfer, ffactorau sy’n effeithio ar gyflymder ac effeithiolrwydd adfer, ac egwyddorion rheolaeth dda ar adfer
  • yr amrediad o weithgareddau a ffrydiau gwaith adfer y mae angen eu rheoli
  • ystyriaethau gwleidyddol ym maes adfer a strategaethau i’w rheoli
  • ymagwedd systemau at bolisi, cynllunio a gwerthuso adfer
  • egwyddorion rheoli data, diogeledd data ac asesiadau integredig ar gyfer cydlynu rhaglen adfer yn effeithiol
  • effaith gofynion adfer ar risgiau strategol, parhad ac ymateb i ddigwyddiad cydamserol
  • dulliau o fonitro anghenion adfer sy’n esblygu ac addasu blaenoriaethau rhaglenni
  • sut i gynnal asesiadau risg cymunedol perthnasol yn ystod adfer ddynamig
  • egwyddorion rheoli adnoddau, caffael, cydlynu’r gadwyn gyflenwi, a goruchwyliaeth ariannol mewn rhaglenni adfer
  • ymagweddau at ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd ar lefelau rhaglen a pholisi, a sut i integreiddio ymgysylltu lleol
  • tensiynau posibl rhwng y gofyn am gynnydd gweladwy a chyflymder gweithgareddau adfer, a sut i sicrhau amserlenni rhesymol a rheoli disgwyliadau
  • dulliau o fonitro a gwerthuso effaith ymyriadau cyhoeddus a chymunedol, a’r prosesau ar gyfer sicrhau atebolrwydd
  • rôl ymarfer myfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cymorth Ariannol

Cymorth ariannol sy’n cael ei ddarparu i unigolion, aelwydydd a busnesau yr effeithiwyd arnynt i dalu costau adfer. Gall ddod o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys rhaglenni llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, elusennau a sefydliadau, neu roddion gan y cyhoedd.

Asesiad Effaith

Y gwerthusiad o effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol – colled a difrod – ar unigolion, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd a sefydliadau. Mae’n cynorthwyo â gwneud penderfyniadau ar weithredoedd ymateb a chynllunio adfer.

Rhaglenni Adfer

Mentrau sy’n canolbwyntio ar adnewyddu a gwella asedau, seilwaith ac amodau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd cymunedau sydd wedi’u heffeithio. Nod y rhaglenni hyn yw gwella gwydnwch trwy sicrhau cynaliadwyedd ac egwyddorion “Ailgodi’n Gryfach” i leihau risgiau yn y dyfodol.

Gwasanaethau Cymorth ag Adfer

Cymorth hanfodol sy’n cael ei ddarparu i sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heffeithio yn gallu cael at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt yn gyflym er mwyn adfer


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAH2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; rhannu; rhybuddio; hysbysu; rheoli; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng; cynllunio