Darparu cefnogaeth barhaus i ddiwallu anghenion unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau

URN: SFJCCAH1
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth i unigolion yn ystod adferiad parhaus wedi argyfyngau.  Mae'n cynnwys cefnogi unigolion i ymdrin ag anghenion meddygol, seico-gymdeithasol neu ymarferol, galluogi unigolion i ganfod a chael mynediad i wasanaethau, gan gynnwys pontio o ddarpariaeth argyfwng i wasanaeth prif ffrwd.


Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio i ddarparu cefnogaeth barhaus i unigolion, y tu hwnt i'r ymateb argyfwng sy’n digwydd ar unwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi'r unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, gan gynnwys pobl agored i niwed, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. nodi sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol a all ddarparu gofal a chymorth parhaus, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau sy'n ymwneud â darparu gofal a chymorth, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. cynllunio i ddiwallu anghenion unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. trin unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. cyfathrebu ag unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. cefnogi unigolion i ymdrin â'u hanghenion gofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. cynyddu ymwybyddiaeth unigolion o wasanaethau ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, a sut gellir eu cyrchu, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. grymuso unigolion i reoli eu hadferiad eu hunain gymaint â phosibl, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. nodi opsiynau realistig ar gyfer datblygu gwasanaethau ymhellach ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. casglu data gan unigolion sy'n cyrchu gwasanaethau, i gynnig gwasanaethau dilynol yn unol â gofynion sefydliadol
  12. gwirio bod parhad a phontio wrth gyflwyno gwasanaeth yn ystod gwahanol gyfnodau adferiad yn cael ei gyfathrebu a'i ddeall, yn unol â gofynion sefydliadol
  13. darparu gwybodaeth i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau a'i gefnogi ar lefelau strategol, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. nodi cefnogaeth ychwanegol sy'n berthnasol i adferiadau tymor hir, yn unol â gofynion sefydliadol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau sy'n berthnasol i adferiad wedi argyfyngau
  2. rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n ymwneud â darparu gofal a chymorth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  3. pobl y gall argyfyngau effeithio arnynt
  4. anghenion unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan argyfyngau
  5. effaith bosibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed, yn cynnwys: 5.1 diffiniadau o fod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 5.2 natur ddeinamig bod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 5.3 y materion sy'n benodol i grwpiau agored i niwed yn sgîl effeithiau argyfyngau
  6. sut mae cyfathrebu ag unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  7. sut mae grymuso unigolion i reoli eu hadferiad eu hunain
  8. sut mae rheoli disgwyliadau a phryder unigolion
  9. yr ystod o gymorth sy'n ofynnol gan y rhai yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn cynnwys cymorth meddygol, seico-gymdeithasol ac ymarferol
  10. yr ystod o gyfleusterau y gellir eu darparu, gan gynnwys canolfannau ffisegol a gwasanaethau rhithiol, megis llinellau cymorth a gwefannau
  11. sut mae galluogi unigolion i gael mynediad i gymorth arbenigol neu driniaeth
  12. sut mae dylanwadu ar wneud penderfyniadau a chefnogi hynny ar lefelau strategol, gan gynnwys trwy werthuso'r gwasanaethau a ddefnyddiwyd
  13. ffynonellau cyngor a chymorth ariannol, gan gynnwys cymorth elusennol, cynlluniau iawndal ac yswiriant

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 bod yn ofalgar
2 ystyriaeth gymunedol
3 canolbwyntio ar y cwsmer
4 bod yn benderfynol
5 meddu ar empathi
6 bod yn hyblyg
7 bod â meddwl agored
8 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 gwrando gweithredol                                                       
2 cyfathrebu                                                   
3 gwneud penderfyniadau                                                  
4 arweinyddiaeth                                                              
5 cysylltu                                                                     
6 ysgogi                                                               
7 cyd-drafod                                                             
8 trefnu                                                              
9 blaenoriaethu
10 cefnogi eraill
11 adeiladu tîm


Geirfa

​Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Sefydliadau    *
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
3 CCAG4 Ymdrin ag anghenion unigolion yn ystod yr ymateb cychwynnol i argyfyngau
4 CCAH2 Rheoli adferiad cymunedol wedi argyfyngau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAH1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithio; rhannu gwybodaeth; rheoli; cefnogaeth; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau; cynllunio