Ymdrin ag anghenion unigolion yn ystod ymatebion cychwynnol i argyfyngau

URN: SFJCCAG4
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion yn ystod cyfnodau cychwynnol argyfyngau.  Mae'n cynnwys galluogi unigolion i ddiwallu eu hanghenion uniongyrchol, darparu gwybodaeth a hwyluso mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau tymor hir. 


Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n debygol o ymwneud â chyfnodau cychwynnol argyfyngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu agwedd ddynol sefyllfaoedd argyfwng a chanfod unigolion neu grwpiau y gellid effeithio arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. trin y rhai y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. galluogi unigolion i ddiwallu eu hanghenion corfforol uniongyrchol, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. galluogi unigolion i gael mynediad i fannau dynodedig lle gallant gysgodi ac ymadfer, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. cyfathrebu ag unigolion mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. darparu gwybodaeth am argyfyngau i unigolion yr effeithiwyd arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. darparu gwybodaeth a chymorth i gysylltu â theulu a ffrindiau, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. cofnodi manylion hunaniaeth unigolion yr effeithiwyd arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. cefnogi unigolion i ymdrin â'u hanghenion lles uniongyrchol, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. darparu gwybodaeth i'r rhai sy'n holi ynghylch unigolion a allai fod wedi dioddef effaith, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. cysylltu ag ymatebwyr eraill, i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn gyson, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. galluogi unigolion i gael mynediad i sefydliadau a all ddarparu gofal a chymorth, yn unol â gofynion sefydliadol
  13. cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau sy'n ymwneud â darparu gofal a chymorth, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. monitro a chynnal iechyd a diogelwch personol yn ystod ymatebion, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  15. nodi ble gellid gwella systemau, gwasanaethau neu seilwaith i ddiwallu anghenion y dyfodol, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​yr ystod o unigolion y gallai argyfyngau effeithio arnynt
  2. anghenion penodol unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan argyfyngau
  3. effaith bosibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed, yn cynnwys: 3.1 diffiniadau o fod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 3.2 natur ddeinamig bod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 3.3 y materion sy'n benodol i grwpiau agored i niwed yn sgîl effeithiau argyfyngau
  4. mathau o gymorth y gall fod eu hangen ar y rhai yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn cynnwys cymorth meddygol, seico-gymdeithasol ac ymarferol
  5. sut mae cyfathrebu ag unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  6. sut mae cofnodi manylion yr unigolion yr effeithiwyd arnynt, yn unol â phrotocolau cytunedig
  7. rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy'n ymwneud â darparu gofal a chymorth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  8. y mathau o gyfleusterau a sefydlir i ddarparu gofal a lles i oroeswyr argyfyngau
  9. cynlluniau a threfniadau argyfwng
  10. nodweddion ardaloedd lleol a all ddylanwadu ar effaith argyfyngau
  11. sut mae monitro a chynnal iechyd a diogelwch personol yn ystod ymatebion
  12. effeithiau emosiynol ac adweithiau a brofir gan y rhai sy'n ymwneud ag ymatebion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 bod yn ofalgar
2 ystyriaeth gymunedol
3 bod yn benderfynol
4 meddu ar empathi
5 bod yn hyblyg
6 datrys problemau
7 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 cyfathrebu                                                      
2 gwneud penderfyniadau
3 dylanwadu
4 cysylltu
5 ysgogi
6 cyd-drafod                                                            
7 rhwydweithio                                                              
8 trefnu
9 arweinyddiaeth
10 blaenoriaethu
11 cefnogi eraill


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Sefydliadau   *         
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


Dolenni I NOS Eraill

​1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
3 CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAG4

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; rhannu; hysbysu; cynghori; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau; cynllunio