Darparu gofal a chymorth i fodloni anghenion uniongyrchol a thymor hwy unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gofal a chymorth i fodloni anghenion pobl y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt. Mae’n berthnasol i unigolion sy’n gweithio ar draws sefydliadau sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n ymwneud â chefnogi pobl yn ystod ymateb ac adfer.
Mae’n cwmpasu asesu anghenion, darparu gwybodaeth, a sicrhau mynediad cynnar at wasanaethau cymorth, gan gydlynu ymagwedd integredig a hyblyg sy’n addasu yn wyneb anghenion sy’n esblygu.
Mae’r safon yn pwysleisio bod angen darparu cymorth priodol yn lleol, llywodraethu cadarn ac atebolrwydd.
Mae’n amlygu pwysigrwydd cynnwys pobl sydd wedi’u heffeithio mewn llunio gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar y gymuned, gan sicrhau atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys adfer rhwydweithiau cymdeithasol, rheoli rhoddion cyhoeddus a hwyluso gwylnosau a digwyddiadau coffa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso deddfwriaeth, dyletswyddau a chanllawiau i bennu cyfrifoldebau, blaenoriaethau ac ymagweddau at gynorthwyo unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt
- gweithio’n gydweithredol â sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gynorthwyo unigolion sydd wedi cael eu heffeithio a rheoli ymyriadau adfer yn effeithiol
- arddangos gwydnwch personol trwy reoli straen, cynnal lles, ceisio cymorth pan fydd ei angen, a chynorthwyo pobl eraill i wneud yr un peth
- rhagweld anghenion uniongyrchol gan ddefnyddio adroddiadau cynnar, senarios risg, a phroffiliau risg, a dosbarthu galluoedd yn rhagweithiol
- sicrhau bod asesiadau anghenion yn cael eu hintegreiddio ar draws gwasanaethau, gan leihau dyblygu i unigolion sydd wedi’u heffeithio trwy rannu gwybodaeth yn ddiogel
- cydlynu arbenigwyr i gynghori ar ymyriadau gofal a lles
- cydlynu ymagwedd integredig a hyblyg sy’n addasu yn wyneb anghenion sy’n esblygu
- rheoli rhoddion gan y cyhoedd, gan gynnwys darparu negeseuon perthnasol i’r cyhoedd i lywio rhoi
- hwyluso prosesau cymorth ariannol amserol er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen
- rhagweld a gweithio gydag unigolion sydd wedi’u heffeithio er mwyn rheoli gwylnosau a digwyddiadau coffa yn sensitif
- gweithio’n gydweithredol i adfer rhwydweithiau cymdeithasol a hybiau fel dull cymorth
- cydbwyso gofynion eithriadol â chynnal gwasanaethau busnes yn ôl yr arfer
- diwygio asesiadau risg a pharodrwydd ar gyfer digwyddiadau sy’n cyd-ddigwydd, gan ystyried effeithiau diweddar
- sefydlu fframweithiau llywodraethu a monitro, gwerthuso ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd, perfformiad a deilliannau rhaglen
- cynllunio ar gyfer cau ffrydiau gwaith brys dros dro neu eu trosglwyddo i fusnes yn ôl yr arfer, a rhoi hynny ar waith, lle bo hynny’n briodol
- ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu arfer da ac arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth gyda phartneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, polisi, canllawiau, arfer da a chynlluniau perthnasol i lywio’r cymorth i bobl y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt
- rolau, cyfrifoldebau a galluoedd gofal a lles eich sefydliad, sefydliadau partner a rhanddeiliaid
- cysyniad risg, termau cysylltiedig a sut maent yn cael eu defnyddio mewn sectorau perthnasol
- ffactorau sy’n dylanwadu ar alluoedd, bregusrwydd ac anghenion pobl, a dulliau o’u hasesu
- rolau, swyddogaethau a gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n gyffredin gan ganolfannau cymorth
- ymagweddau sy’n canolbwyntio ar bobl, sy’n seiliedig ar asedau ac sy’n ystyriol o drawma
- sut mae effeithiau’n creu bregusrwydd ar gyfer argyfyngau dilynol ac yn lleihau’r gallu i ymdopi
- cysyniad adfer, ffactorau sy’n dylanwadu ar ei gyflymder ac egwyddorion rheoli adfer yn dda
- yr angen am strategaethau addasol i fodloni anghenion sy’n newid mewn ymateb ac adfer
- deddfwriaeth, polisïau a phrosesau ar gyfer rheoli, dosbarthu a sicrhau tryloywder mewn rhoddion a chyllid
- cydbwyso cynnydd gweladwy â disgwyliadau’r cyhoedd a’r angen am ymgysylltu ag unigolion sydd wedi’u heffeithio
- effaith gofynion adfer ar risgiau strategol, parhad ac ymateb i ddigwyddiadau cydamserol
- dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso effaith ymyriadau cyhoeddus a chymunedol, a’r prosesau ar gyfer sicrhau atebolrwydd
- rôl ymarfer f fyfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymorth seicogymdeithasol
Amrediad o wasanaethau cymorth iechyd meddwl ac emosiynol sy’n anelu at helpu unigolion a chymunedau i adfer.
Gwasanaethau Cymorth ag Adfer
Cymorth hanfodol sy’n cael ei ddarparu i sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heffeithio yn gallu cael at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt yn gyflym er mwyn adfer
Asesiad o Anghenion
Proses aml-sectoraidd, aml-randdeiliad, y mae amser yn dyngedfennol iddi, o gasglu, dadansoddi a dehongli data er mwyn asesu anghenion a llywio penderfyniadau ar ymyriadau adfer dyngarol a chynnar