Ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd)
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd). Yn y cyd-destun hwn, 'efydd' yw'r lefel (o dan y lefel Aur a'r lefel Arian) y rheolir y gwaith 'ymarferol' arni ar safle(oedd) y digwyddiad neu yn yr ardaloedd cysylltiedig (Cyf: Rhestr Termau Rheolaeth Amlasiantaeth ar Argyfyngau). Mae'n cynnwys llunio asesiadau cychwynnol o sefyllfaoedd a chadarnhau gofynion yr ymateb uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n effeithiol gydag ymatebwyr eraill, nodi adnoddau y gallai fod angen amdanynt, a defnyddio adnoddau yn unol â'r anghenion.
Grŵp Targed
Mae'r safon hon wedi'i bwriadu ar gyfer y rhai sy'n darparu arweinyddiaeth mewn ymateb i argyfwng ar y lefel weithredol (efydd). Gall hyn fod oddi mewn i senario amddiffyniad sifil / golau glas neu oddi mewn i senarios eraill megis y rhai a geir oddi mewn i'r ystâd rheoli troseddwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio asesiadau cychwynnol o sefyllfaoedd ac adrodd i ymatebwyr eraill yn unol â'r gweithdrefnau sefydledig
- paratoi cynlluniau gweithredu cychwynnol a'u rhoi ar waith yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod camau gweithredu yn cael eu cyflawni, gan roi sylw i effeithiau ar unigolion, cymunedau a'r amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
- cynnal asesu a rheoli risg parhaus mewn ymateb i natur ddeinamig argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- gweithio mewn cydweithrediad a chyfathrebu'n effeithiol ag ymatebwyr eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau argaeledd a lleoliad gwasanaethau a chyfleusterau perthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi'r adnoddau sy'n ofynnol a'u defnyddio i ddiwallu anghenion ymatebion, yn unol â gofynion sefydliadol
- cyfathrebu cyfyngiadau adnoddau i'r bobl berthnasol, neu gael hyd i drefniadau amgen addas, yn unol â gofynion sefydliadol
- monitro ac amddiffyn iechyd, diogelwch a lles unigolion yn ystod ymatebion, yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol
- delio gydag unigolion mewn modd sy'n cefnogi eu hanghenion ac yn sensitif iddynt, yn unol â gofynion sefydliadol
- cysylltu â sefydliadau perthnasol yn ôl y galw i sicrhau ymatebion effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi ble mae'r amgylchiadau'n cyfiawnhau lefel dactegol (arian) o reolaeth ac ymgysylltu â'r lefel dactegol, yn unol â gofynion sefydliadol
- rhoi'r cynllun tactegol (arian) ar waith, oddi mewn i ardaloedd daearyddol neu feysydd cyfrifoldeb swyddogaethol, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod unigolion sy'n rhan o faes eich awdurdod yn cael eu briffio a'u dadfriffio yn llawn, yn unol â gofynion sefydliadol
- cofnodi'n llawn benderfyniadau, camau gweithredu, opsiynau a rhesymeg, yn unol â gwybodaeth, polisi a deddfwriaeth cyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau, codau ymarfer a chanllawiau cyfredol, perthnasol yng nghyswllt ymateb i argyfwng
- deddfwriaeth gyfredol, berthnasol a gofynion sefydliadol yng nghyswllt iechyd, diogelwch a lles
- cynlluniau a threfniadau argyfwng perthnasol
- egwyddorion ymateb effeithiol ac adferiad
- egwyddorion gorchymyn, rheoli a chydsymud, a'r hyblygrwydd posibl rhwng lefelau ymateb
- effaith bosibl argyfyngau ar unigolion, cymunedau a'r amgylchedd
- sut mae gwneud a chymhwyso penderfyniadau, ar sail asesu risgiau
- rolau, cyfrifoldebau ac anghenion gwybodaeth sefydliadau sy'n ymwneud â'r ymateb
- sut mae cyfathrebu ag unigolion y mae argyfyngau wedi effeithio arnynt, mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- mathau o gyfleusterau y gellir eu sefydlu i ddiwallu anghenion unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau
- polisi eich sefydliad ar gyfer delio gyda'r cyfryngau
- camau i'w cymryd pan fydd cyfyngiadau ar argaeledd a defnydd adnoddau
- gweithdrefnau cywir ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb
- sut mae cynnal sesiynau briffio a dadfriffio
- diben cofnodi gwybodaeth a'r mathau o gofnodion y mae'n rhaid eu cadw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 natur gydweithredol
2 ystyriaeth gymunedol
3 bod yn adeiladol
4 bod yn benderfynol
5 meddu ar empathi
6 bod yn hyblyg
7 bod yn realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 cyfathrebu
2 gwneud penderfyniadau
3 cysylltu
4 cyd-drafod
5 trefnu
6 blaenoriaethu
7 datrys problemau
8 arweinyddiaeth
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
*Sefydliadau *
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
*Adnoddau *
Pobl (gan gynnwys gwirfoddolwyr), cyfarpar, deunyddiau, cyllid, ac ati.
*Risg *
Mesur arwyddocâd digwyddiad neu sefyllfa a allai ddigwydd o ran tebygolrwydd ac effaith.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
1 CCAG1 Ymateb i argyfyngau fel rhan o ymateb amlasiantaeth ar y lefel strategol (aur)
2 CCAG2 Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)
3 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
4 CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau
5 CCAG4 Ymdrin ag anghenion unigolion yn ystod yr ymateb cychwynnol i argyfyngau
6 SfJCC3 Cynllunio a defnyddio adnoddau ar gyfer gweithrediadau plismona (Yr Heddlu)
7 WM7 Arwain a chefnogi pobl i ddatrys digwyddiadau gweithredol (y Gwasanaeth Tân)