Ymateb i argyfyngau fel rhan o ymateb amlasiantaethol ar y lefel strategol (aur) LEGACY
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli ymateb argyfwng ar y lefel strategol.
Yn y cyd-destun hwn, ar y lefel aur (sydd uwchlaw lefel arian a lefel efydd) y mae polisi a’r fframwaith ymateb cyffredinol yn cael eu sefydlu a’u rheoli (Cyf: Geiriadur Termau Rheoli Argyfyngau Amlasiantaethol). Mae’n cynnwys sefydlu ac adolygu’r polisi a’r strategaeth angenrheidiol ar gyfer ymateb cydlynedig (amlasiantaethol, yn aml) a sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyfleu i ymatebwyr ar lefel dactegol a gweithredol.
Grŵp targed
Mae’r safon hon wedi’i hanelu at y rhai sy’n darparu arweinyddiaeth i ymateb i argyfwng ar y lefel strategol (aur). Gall hyn fod o fewn senario diogelwch sifil / golau glas neu o fewn senarios eraill fel senarios a welir o fewn ystâd rheoli troseddwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael a dadansoddi gwybodaeth sydd ar gael i lywio penderfyniadau yn unol â gofynion y sefydliad
- gwneud penderfyniadau effeithiol ar sail y wybodaeth orau sydd ar gael yn unol â gofynion y sefydliad
- cytuno ar fframweithiau polisi a strategol y bydd y lefel dactegol (arian) yn gweithio ynddynt
- cadarnhau bod cyfathrebu dwyffordd effeithiol wedi’i sefydlu gyda’r lefel dactegol yn unol â gofynion y sefydliad
- gweithio’n effeithiol ar y cyd â sefydliadau partner ar lefel strategol yn unol â gofynion y sefydliad
- cadarnhau cytundeb ag ymatebwyr ar benderfyniadau strategol a sut bydd y rhain yn cael eu gweithredu yn unol â gofynion y sefydliad
- cymryd camau i adolygu strategaethau, gan ddiweddaru neu amrywio strategaethau i ymateb i newidiadau mewn sefyllfaoedd neu wybodaeth yn unol â gofynion y sefydliad
- cael a darparu cyngor technegol a phroffesiynol gan ffynonellau addas i lywio penderfyniadau yn unol â gofynion y sefydliad
- cadarnhau bod strategaethau’n adlewyrchu polisi, fframweithiau cyfreithiol neu brotocolau
- cadarnhau bod strategaethau’n cyfrif am effeithiau ar unigolion, cymunedau a’r amgylchedd yn unol â gofynion y sefydliad
- cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn unol â gofynion y sefydliad
- adolygu graddfa’r adnoddau sy’n ofynnol a chadarnhau eu bod ar gael yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod gan sefydliadau perthnasol ddigon o wybodaeth gywir, gyda brys addas, fel y gellir cydlynu ymateb yn effeithiol yn unol â gofynion y sefydliad
- goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol yn unol â gofynion y sefydliad
- mynd i’r afael â blaenoriaethau tymor canolig a thymor hir er mwyn hwyluso adferiad cymunedau sydd wedi’u heffeithio, yn unol â gofynion y sefydliad
- cadarnhau bod cymorth parhaus yn cael ei ddarparu i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan argyfyngau yn unol â gofynion y sefydliad
- dirprwyo i’r lefel dactegol yn unol â gofynion y sefydliad
- gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau a defnyddio’r wybodaeth hon i lywio ymarfer yn y dyfodol yn unol â chanllawiau’r sefydliad
- cofnodi penderfyniadau, gweithredoedd, opsiynau a sail resymegol yn llawn, yn unol â gwybodaeth, polisi a deddfwriaeth gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol, cyfredol yn gysylltiedig ag ymateb i argyfwng
- egwyddorion Rheoli Argyfyngau yn Integredig (IEM)
- egwyddorion ymateb ac adferiad effeithiol
- egwyddorion gorchymyn, rheoli a chydlynu
- rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy’n ymwneud ag ymateb ac adferiad
- sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; eu strwythurau bras, dulliau cyfathrebu a phrosesau gwneud penderfyniadau
- diwylliant, blaenoriaethau a chyfyngiadau sefydliadau partner
- cynlluniau a threfniadau argyfwng perthnasol, gan gynnwys gweithdrefnau wedi’u pennu ymlaen llaw i sefydliadau eraill gymryd rhan
- sut i gymryd rhan yn effeithiol yn y broses gwneud penderfyniadau gwleidyddol
- sut i sefydlu’r fframweithiau polisi a strategol y bydd y lefel dactegol (arian) yn gweithio ynddynt
- sut i adolygu effeithiolrwydd strategaethau a’u diweddaru neu eu hamrywio mewn ymateb i newidiadau mewn sefyllfaoedd neu wybodaeth
- ffactorau sy’n berthnasol i osod ac adolygu strategaethau, gan gynnwys asesiadau risg, yr effaith ar y gymuned a’r broses adfer hirdymor
- argaeledd adnoddau perthnasol
- y trefniadau ariannol y mae angen iddynt fod ar waith ar gyfer ymateb i argyfyngau
- ffynonellau cyngor technegol a phroffesiynol
- sut i ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol
- sut gellir defnyddio cyfryngau i ddarparu gwybodaeth i gymunedau
- sut i gasglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol ar lefel strategol
- goblygiadau strategol posibl argyfyngau e.e. materion adfer hirdymor neu ardal gyfan
- effeithiau posibl argyfyngau ar yr amgylchedd
- sut i asesu effeithiau dynol tymor byr a thymor hir argyfyngau a nodi’r grwpiau mwyaf agored i niwed
- sut i sicrhau bod cymorth parhaus yn cael ei ddarparu i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan argyfyngau
- diben cofnodi gwybodaeth a’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae’r prif ymddygiadau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- pendant
- cydweithredol
- ymwybodol o’r gymuned
- adeiladol
- hyblyg
- blaengar
- meddwl agored
- rhagweithiol
- realistig
Sgiliau
Mae’r prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- dadansoddi
- cyfathrebu
- cysyniadoli
- gwneud penderfyniadau
- arweinyddiaeth
- cysylltu
- trafod
- rhwydweithio
- gweithio mewn partneriaeth
- cynllunio
- blaenoriaethu
- datrys problemau
- meddwl yn strategol
- rheoli straen
- meithrin tîm
Geirfa
Termau sy’n cael eu defnyddio’n aml a sut dylent gael eu dehongli yng nghyd-destun NOS Argyfyngau Sifil Posibl:
Cymunedau
Unigolion a sefydliadau mewn bröydd, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau, ac ati.
Yr Amgylchedd
Yr amgylchoedd, gan gynnwys bywyd planhigion ac anifeiliaid.
Rheoli Argyfyngau yn Integredig (IEM)
Dull o atal a rheoli argyfyngau sy’n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol – rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac adfer. Mae IEM wedi’i anelu at y syniad o feithrin mwy o wydnwch cyffredinol yn wyneb ystod eang o heriau aflonyddgar. Mae’n gofyn am ymdrech amlasiantaethol cydlynol.
Sefydliadau
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Adnoddau
Pobl, cyfarpar, deunyddiau, cyllid ac ati.
Risg
Mesur o arwyddocâd digwyddiad neu sefyllfa bosibl o ran tebygolrwydd ac effaith.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â:
- CCAG2 Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)
- CCAG3 Ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd)
- CCAA1 Gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill
- CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
- CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori’r gymuned os bydd argyfyngau
- CCAH1 Darparu cymorth parhaus i fodloni anghenion unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan argyfyngau
- CCAH2 Rheoli adferiad cymunedau yn dilyn argyfyngau
- MLD1 Arwain cyfarfodydd
- CC1 Gosod, monitro ac adolygu strategaethau ar gyfer gweithredoedd plismona (Yr Heddlu)
- EFSM1 Darparu cyngor a chymorth strategol i ddatrys digwyddiadau gweithredol (Y Gwasanaeth Tân)