Ymateb i argyfyngau fel rhan o ymateb amlasiantaeth ar y lefel strategol (aur) LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli ymateb i argyfwng ar y lefel strategol. Yn y cyd-destun hwn, aur yw'r lefel (uwchlaw'r lefel arian a'r lefel efydd) lle caiff polisi a'r fframwaith ymateb cyffredinol eu pennu a'u rheoli (Cyf: Rhestr Termau Rheolaeth Amlasiantaeth ar Argyfyngau). Mae'n cynnwys pennu ac adolygu'r polisi a'r strategaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer ymateb cydlynus (amlasiantaeth yn aml) a sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyfathrebu i ymatebwyr ar lefel dactegol a gweithredol.
Grŵp Targed
Mae’r safon hon wedi’i bwriadu ar gyfer y rhai sy'n darparu arweinyddiaeth mewn ymateb i argyfwng ar y lefel strategol (aur). Gallai hyn fod oddi mewn i senario amddiffyniad sifil / golau glas neu oddi mewn i senarios eraill megis y rhai a geir oddi mewn i'r ystâd rheoli troseddwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu a dadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael i hysbysu gwneud penderfyniadau yn unol â gofynion sefydliadol
- gwneud penderfyniadau effeithiol ar sail yr wybodaeth orau sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
- cytuno ar fframweithiau polisi a strategol y bydd y lefel dactegol (arian) yn gweithio oddi mewn iddynt
- cadarnhau sefydlu cyfathrebu dwyffordd effeithiol gyda'r lefel dactegol, yn unol â gofynion sefydliadol
- gweithio'n effeithiol mewn cydweithrediad gyda sefydliadau partner ar lefel strategol yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau penderfyniadau strategol y cytunir arnynt gydag ymatebwyr a sut rhoddir y rhain ar waith, yn unol â gofynion sefydliadol
- cymryd camau i adolygu strategaethau, diweddaru neu amrywio strategaethau mewn ymateb i sefyllfaoedd neu wybodaeth newidiol, yn unol â gofynion sefydliadol
- casglu a darparu cyngor technegol a phroffesiynol o ffynonellau addas i hysbysu gwneud penderfyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod strategaethau'n adlewyrchu polisi, fframweithiau cyfreithiol neu brotocolau
- cadarnhau bod strategaethau'n rhoi sylw i effeithiau ar unigolion, cymunedau a'r amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
- ymgysylltu â'r broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol, yn unol â gofynion sefydliadol
- adolygu graddfa'r adnoddau sy'n ofynnol a chadarnhau eu hargaeledd, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod gan sefydliadau perthnasol wybodaeth ddigonol, gywir, gyda lefel addas o frys i ganiatáu cydlynu ymateb yn effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
- goruchwylio datblygiad a gweithrediad strategaethau cyfathrebu effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
- ymdrin â blaenoriaethau tymor canolig a hir i hwyluso adferiad cymunedau yr effeithiwyd arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau y darperir cefnogaeth barhaus i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- dirprwyo i'r lefel dactegol, yn unol â gofynion sefydliadol
- gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau a defnyddio'r wybodaeth hon i hysbysu arfer yn y dyfodol, yn unol â chanllawiau sefydliadol
- cofnodi'n llawn benderfyniadau, camau gweithredu, opsiynau a rhesymeg, yn unol â gwybodaeth, polisi a deddfwriaeth gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth polisïau, gweithdrefnau, codau ymarfer a chanllawiau cyfredol, perthnasol, yng nghyswllt ymateb i argyfwng
- egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
- egwyddorion ymateb effeithiol ac adferiad
- egwyddorion gorchymyn, rheoli a chydsymud
- rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy'n ymwneud ag ymateb ac adfer
- sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; eu strwythurau cyffredinol, eu dulliau cyfathrebu a'u prosesau gwneud penderfyniadau
- diwylliant, blaenoriaethau a chyfyngiadau sefydliadau partner
- cynlluniau a threfniadau argyfwng perthnasol, gan gynnwys gweithdrefnau a ragbenderfynwyd ar gyfer cynnwys sefydliadau eraill
- sut mae ymgysylltu'n effeithiol â'r broses wleidyddol o wneud penderfyniadau
- sut mae sefydlu'r fframweithiau strategol a pholisi y bydd y lefel dactegol (arian) yn gweithio oddi mewn iddynt
- sut mae adolygu effeithiolrwydd strategaethau a'u diweeddaru neu eu hamrywio mewn ymateb i sefyllfaoedd neu wybodaeth newidiol
- ffactorau sy'n berthnasol i bennu ac adolygu strategaethau, gan gynnwys asesiadau risg, effaith gymunedol a'r broses tymor hwy o adferiad
- argaeledd adnoddau perthnasol
- y trefniadau ariannol y mae angen iddynt fod yn eu lle ar gyfer ymateb i argyfyngau
- ffynonellau cyngor technegol a phroffesiynol
- sut mae datblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol
- sut gellir defnyddio'r cyfryngau i ddarparu gwybodaeth i gymunedau
- sut mae casglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol ar lefel strategol
- goblygiadau strategol posibl argyfyngau, e.e. adferiad tymor hir neu faterion ardal eang
- effeithiau posibl argyfyngau ar yr amgylchedd
- sut mae asesu effeithiau dynol tymor byr a thymor hir argyfyngau, a chanfod y grwpiau mwyaf agored i niwed
- sut mae sicrhau y darperir cefnogaeth barhaus i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau
- diben cofnodi gwybodaeth a'r cofnodion y mae'n rhaid eu cadw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- natur bendant
- natur gydweithredol
- ystyriaeth gymunedol
- bod yn adeiladol
- bod yn hyblyg
- natur arloesol
- bod â meddwl agored
- bod yn rhagweithiol
- bod yn realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- dadansoddi
- cyfathrebu
- cysyniadoli
- gwneud penderfyniadau
- arweinyddiaeth
- cysylltu
- cyd-drafod
- rhwydweithio
- gweithio mewn partneriaeth
- cynllunio
- blaenoriaethu
- datrys problemau
- meddwl yn strategol
- rheoli straen
- adeiladu tîm
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
Cymunedau
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.
Amgylchedd
Amgylchiadau, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid.
Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
Agwedd at atal a rheoli argyfyngau sy'n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol - rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac adferiad. Mae IEM yn troi o gwmpas y syniad o adeiladu gwytnwch cyffredinol uwch yn wyneb ystod eang o heriau sy'n amharu. Mae'n galw am ymdrech amlasiantaeth gydlynus.
Sefydliadau
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Adnoddau
Pobl, cyfarpar, deunyddiau, cyllid ac ati.
Risg
Mesur arwyddocâd digwyddiad neu sefyllfa a allai ddigwydd o ran tebygolrwydd ac effaith.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
- CCAG2 Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)
- CCAG3 Ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd)
- CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
- CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
- CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau
- CCAH1 Darparu cefnogaeth barhaus i ddiwallu anghenion unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau
- CCAH2 Rheoli adferiad cymunedol wedi argyfyngau
- MLD1 Arwain cyfarfodydd
- CC1 Gosod, monitro ac adolygu strategaethau ar gyfer plismona gweithrediadau (yr Heddlu)
- EFMS1 Darparu cyngor a chefnogaeth strategol i ddatrys digwyddiadau gweithrediadol (y Gwasanaeth Tân)