Ymateb i argyfyngau fel rhan o ymateb amlasiantaeth ar y lefel strategol (aur)

URN: SFJCCAG1
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli ymateb i argyfwng ar y lefel strategol.   Yn y cyd-destun hwn, aur yw'r lefel (uwchlaw'r lefel arian a'r lefel efydd) lle caiff polisi a'r fframwaith ymateb cyffredinol eu pennu a'u rheoli (Cyf: Rhestr Termau Rheolaeth Amlasiantaeth ar Argyfyngau). Mae'n cynnwys pennu ac adolygu'r polisi a'r strategaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer ymateb cydlynus (amlasiantaeth yn aml) a sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyfathrebu i ymatebwyr ar lefel dactegol a gweithredol.


Grŵp Targed
Mae’r safon hon wedi’i bwriadu ar gyfer y rhai sy'n darparu arweinyddiaeth mewn ymateb i argyfwng ar y lefel strategol (aur). Gallai hyn fod oddi mewn i senario amddiffyniad sifil / golau glas neu oddi mewn i senarios eraill megis y rhai a geir oddi mewn i'r ystâd rheoli troseddwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​casglu a dadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael i hysbysu gwneud penderfyniadau yn unol â gofynion sefydliadol
  2. gwneud penderfyniadau effeithiol ar sail yr wybodaeth orau sydd ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. cytuno ar fframweithiau polisi a strategol y bydd y lefel dactegol (arian) yn gweithio oddi mewn iddynt
  4. cadarnhau sefydlu cyfathrebu dwyffordd effeithiol gyda'r lefel dactegol, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. gweithio'n effeithiol mewn cydweithrediad gyda sefydliadau partner ar lefel strategol yn unol â gofynion sefydliadol
  6. cadarnhau penderfyniadau strategol y cytunir arnynt gydag ymatebwyr a sut rhoddir y rhain ar waith, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. cymryd camau i adolygu strategaethau, diweddaru neu amrywio strategaethau mewn ymateb i sefyllfaoedd neu wybodaeth newidiol, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. casglu a darparu cyngor technegol a phroffesiynol o ffynonellau addas i hysbysu gwneud penderfyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. cadarnhau bod strategaethau'n adlewyrchu polisi, fframweithiau cyfreithiol neu brotocolau
  10. cadarnhau bod strategaethau'n rhoi sylw i effeithiau ar unigolion, cymunedau a'r amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. ymgysylltu â'r broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. adolygu graddfa'r adnoddau sy'n ofynnol a chadarnhau eu hargaeledd, yn unol â gofynion sefydliadol 
  13. cadarnhau bod gan sefydliadau perthnasol wybodaeth ddigonol, gywir, gyda lefel addas o frys i ganiatáu cydlynu ymateb yn effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. goruchwylio datblygiad a gweithrediad strategaethau cyfathrebu effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
  15. ymdrin â blaenoriaethau tymor canolig a hir i hwyluso adferiad cymunedau yr effeithiwyd arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
  16. cadarnhau y darperir cefnogaeth barhaus i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  17. dirprwyo i'r lefel dactegol, yn unol â gofynion sefydliadol
  18. gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau a defnyddio'r wybodaeth hon i hysbysu arfer yn y dyfodol, yn unol â chanllawiau sefydliadol
  19. cofnodi'n llawn benderfyniadau, camau gweithredu, opsiynau a rhesymeg, yn unol â gwybodaeth, polisi a deddfwriaeth gyfredol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth polisïau, gweithdrefnau, codau ymarfer a chanllawiau cyfredol, perthnasol, yng nghyswllt ymateb i argyfwng
  2. egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
  3. egwyddorion ymateb effeithiol ac adferiad
  4. egwyddorion gorchymyn, rheoli a chydsymud
  5. rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy'n ymwneud ag ymateb ac adfer
  6. sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; eu strwythurau cyffredinol, eu dulliau cyfathrebu a'u prosesau gwneud penderfyniadau
  7. diwylliant, blaenoriaethau a chyfyngiadau sefydliadau partner
  8. cynlluniau a threfniadau argyfwng perthnasol, gan gynnwys gweithdrefnau a ragbenderfynwyd ar gyfer cynnwys sefydliadau eraill
  9. sut mae ymgysylltu'n effeithiol â'r broses wleidyddol o wneud penderfyniadau
  10. sut mae sefydlu'r fframweithiau strategol a pholisi y bydd y lefel dactegol (arian) yn gweithio oddi mewn iddynt
  11. sut mae adolygu effeithiolrwydd strategaethau a'u diweeddaru neu eu hamrywio mewn ymateb i sefyllfaoedd neu wybodaeth newidiol
  12. ffactorau sy'n berthnasol i bennu ac adolygu strategaethau, gan gynnwys asesiadau risg, effaith gymunedol a'r broses tymor hwy o adferiad
  13. argaeledd adnoddau perthnasol
  14. y trefniadau ariannol y mae angen iddynt fod yn eu lle ar gyfer ymateb i argyfyngau
  15. ffynonellau cyngor technegol a phroffesiynol
  16. sut mae datblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol
  17. sut gellir defnyddio'r cyfryngau i ddarparu gwybodaeth i gymunedau
  18. sut mae casglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol ar lefel strategol
  19. goblygiadau strategol posibl argyfyngau, e.e. adferiad tymor hir neu faterion ardal eang
  20. effeithiau posibl argyfyngau ar yr amgylchedd
  21. sut mae asesu effeithiau dynol tymor byr a thymor hir argyfyngau, a chanfod y grwpiau mwyaf agored i niwed
  22. sut mae sicrhau y darperir cefnogaeth barhaus i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau
  23. diben cofnodi gwybodaeth a'r cofnodion y mae'n rhaid eu cadw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 natur bendant
2 natur gydweithredol
3 ystyriaeth gymunedol
4 bod yn adeiladol
5 bod yn hyblyg
6 natur arloesol
7 bod â meddwl agored
8 bod yn rhagweithiol
9 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 dadansoddi
2 cyfathrebu
3 cysyniadoli
4 gwneud penderfyniadau
5 arweinyddiaeth
6 cysylltu
7 cyd-drafod
8 rhwydweithio
9 gweithio mewn partneriaeth
10 cynllunio
11 blaenoriaethu
12 datrys problemau
13 meddwl yn strategol
14 rheoli straen
15 adeiladu tîm


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Cymunedau   *   
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.


*Amgylchedd  *       
Amgylchiadau, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid.


*Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)  *                              
Agwedd at atal a rheoli argyfyngau sy'n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol - rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac adferiad.  Mae IEM yn troi o gwmpas y syniad o adeiladu gwytnwch cyffredinol uwch yn wyneb ystod eang o heriau sy'n amharu.  Mae'n galw am ymdrech amlasiantaeth gydlynus.


*Sefydliadau   * 
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


*Adnoddau      *      
Pobl, cyfarpar, deunyddiau, cyllid ac ati.


*Risg    *                    
Mesur arwyddocâd digwyddiad neu sefyllfa a allai ddigwydd o ran tebygolrwydd ac effaith.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAG2 Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)
2 CCAG3 Ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd)
3 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
4 CCAA2 Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
5 CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau
6 CCAH1 Darparu cefnogaeth barhaus i ddiwallu anghenion unigolion yr effeithiwyd arnynt gan argyfyngau
7 CCAH2 Rheoli adferiad cymunedol wedi argyfyngau
8 MLD1 Arwain cyfarfodydd
9 CC1 Gosod, monitro ac adolygu strategaethau ar gyfer plismona gweithrediadau (yr Heddlu)
10 EFMS1 Darparu cyngor a chefnogaeth strategol i ddatrys digwyddiadau gweithrediadol (y Gwasanaeth Tân)


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAG1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithio; rhannu; rhybuddio; hysbysu; cynghori; cefnogaeth; rheoli; arwain; monitro; strategol; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau; cynllunio