Ymateb i argyfyngau

URN: SFJCCAG1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymateb i argyfyngau mewn modd strwythuredig, cydlynedig ac addasol. Mae’n berthnasol i’r rhai sy’n ymwneud â rheoli a chefnogi digwyddiadau ar lefelau gweithredol, tactegol a strategol ar draws sefydliadau sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. 

Mae’n cynnwys arddangos arweinyddiaeth, gorchymyn, rheolaeth a chydlyniad effeithiol, gan sicrhau ymateb cymesur. Mae’r safon hon yn cynorthwyo ymatebwyr â chynnal ymwybyddiaeth sefyllfaol gyffredin, gwneud penderfyniadau mewn cyfnodau o ansicrwydd, a chydlynu ymdrechion wrth reoli risgiau, canlyniadau ac anghenion sy’n esblygu.

Mae’r safon yn amlygu pwysigrwydd cefnogi gofal a lles ymatebwyr ac unigolion sydd wedi’u heffeithio, a sicrhau bod camau gweithredu yn lleihau effeithiau ar unigolion, seilwaith, yr amgylchedd a’r economi. Mae’n pwysleisio sefydlogi systemau sydd wedi’u heffeithio, monitro cynnydd a gwerthuso deilliannau i lywio gwneud penderfyniadau a gwelliant parhaus.

Yn olaf, mae’n atgyfnerthu’r angen am gychwyn cynllunio ar gyfer adfer yn gynnar a chefnogi pontio strwythuredig o ymateb i adfer, a busnes yn ôl yr arfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a pherthnasoedd cynhyrchiol wrth weithio dan bwysau
  • gweithredu o fewn rôl a haen digwyddiad, gan weithredu i fynd i’r afael â bylchau critigol fel bo angen
  • arddangos arweinyddiaeth mewn argyfwng, yn briodol i rôl a haen digwyddiad
  • cynorthwyo ag ysgogi a chynnal system rheoli digwyddiadau strwythuredig ar raddfa briodol
  • galluogi gwybodaeth i lifo a chreu cynhyrchion sy’n sicrhau ymwybyddiaeth sefyllfaol gyffredin mewn sefyllfaoedd dynamig ac ansicr
  • cefnogi rhythm gweithredol cyfarfodydd, briffiau ac adrodd sy’n cyd-fynd â chyflymder yr argyfwng
  • ymgysylltu ag arbenigedd perthnasol, arbenigwyr a phobl sydd â gwybodaeth leol i lywio gwneud penderfyniadau
  • rhagweld, asesu a monitro effeithiau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, amgylcheddol a chyfreithiol, a chanlyniadau cyd-ddibynnol yn ystod ymateb ac adfer
  • gwneud penderfyniadau sy’n gallu cael eu hamddiffyn o dan gyfyngiadau amser ac ansicrwydd
  • addasu cynlluniau a threfniadau sydd wedi’u paratoi, gan gynnwys cynlluniau parhad busnes, cyfathrebu a’r cyfryngau, a chynlluniau adfer, i ddatblygu a gweithredu cynlluniau penodol i ddigwyddiad
  • gweithredu’n gynnar i reoli risgiau a lleihau effeithiau a chanlyniadau
  • blaenoriaethu a rheoli adnoddau a chyllidebau yn unol â chyfrifoldebau rôl a gofynion digwyddiad
  • adolygu ac addasu blaenoriaethau, strwythurau, cynlluniau ac adnoddau i fodloni anghenion a gofynion dynamig ymateb ac adfer
  • darparu gofal a chymorth lles i unigolion sydd wedi’u heffeithio ac ymatebwyr, gan reoli eich lles eich hun hefyd
  • cofnodi penderfyniadau, camau gweithredu a chyd-destun mewn modd y gellir ei archwilio, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  • cydlynu gweithgareddau ar draws timau, swyddogaethau a sefydliadau i gysoni ymdrechion, datrys problemau ac atal bylchau neu ddyblygu
  • monitro ac adolygu addasrwydd, cynnydd ac effaith gweithredoedd ymateb yn erbyn amcanion, gan sicrhau bod adroddiadau’n cynorthwyo â gwneud penderfyniadau
  • cynorthwyo â sefydlogi asedau, cyfleusterau, swyddogaethau a gwasanaethau sydd wedi’u difrodi
  • cefnogi cynllunio cynnar ar gyfer adfer a busnes yn ôl yr arfer, a phontio strwythuredig i hynny.
  • ymgysylltu’n rhagweithiol â’r gwerthusiad ar ôl y digwyddiad, gan gyfrannu at ddysgu, gwella ac atebolrwydd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • effeithiau argyfyngau ar unigolion, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd a sefydliadau
  • ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol sy’n dylanwadu ar gyd-destunau ymateb mewn argyfwng
  • blaenoriaethau adfer ac ymateb cyffredin a deilliannau bwriadedig ar gyfer risgiau a nodwyd
  • cymhwyso cynlluniau argyfwng, parhad ac adfer yn ystod digwyddiad
  • ymagweddau arweinyddiaeth ar gyfer ymateb i argyfwng a digwyddiad
  • rolau, cyfrifoldebau a galluoedd eich sefydliad, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol mewn ymateb ac adfer
  • ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a chydymffurfio, gan gynnwys dyletswydd gofal, mewn ymateb ac adfer
  • egwyddorion a strwythurau gorchymyn, rheoli a chydlynu a sut maen nhw’n cefnogi ymateb traws-sefydliadol
  • anghenion gwybodaeth a deallusrwydd ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol wrth ymateb
  • risgiau sydd â photensial o ran bod yn barod a gweithredu cynnar
  • meini prawf ar gyfer cynyddu a gostwng lefelau ymateb
  • dulliau ar gyfer asesu effeithiau, risgiau, canlyniadau ac anghenion
  • cymwyseddau diwylliannol ar gyfer ymgysylltu cynhwysol ac effeithiol
  • egwyddorion a phrosesau ar gyfer herio, adolygu ac atebolrwydd mewn ymateb i argyfwng, gan gynnwys sut i gynnwys rhanddeiliaid mewn goruchwylio a gwneud penderfyniadau
  • dulliau o wneud penderfyniadau mewn cyd-destunau dynamig, ansicr, lle mae llawer yn y fantol ac mae amser yn dyngedfennol
  • ystyriaethau iechyd, diogelwch a lles i ymatebwyr ac unigolion sydd wedi’u heffeithio yn ystod ymateb
  • egwyddorion rheoli adnoddau ar gyfer ymateb yn effeithiol mewn argyfwng
  • strategaethau cyfathrebu effeithiol i ymgysylltu ag ymatebwyr, unigolion sydd wedi’u heffeithio, y cyhoedd a’r cyfryngau, a’u hysbysu
  • technoleg ac offer digidol ar gyfer ymateb mewn argyfwng
  • prosesau ar gyfer monitro, gwerthuso ac adrodd ar gynnydd ac effaith ymateb
  • strategaethau ar gyfer cynnal parhad gweithredol mewn amodau sy’n esblygu
  • cadw cofnodion a rheoli dogfennau at ddiben archwilio, atebolrwydd a dysgu
  • gwelliant parhaus drwy ôl-drafodaethau, adolygiadau ar ôl gweithredu, a rhoi gwersi ar waith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gorchymyn, Rheoli a Chydlynu (C3)

Gorchymyn, Rheoli a Chydlynu: System hierarchaidd ar gyfer rheoli argyfyngau, wedi’i strwythuro ar draws tair lefel esgynnol – Gweithredol, Tactegol, a Strategol. Mae’r fframwaith hwn yn sicrhau bod awdurdod yn cael ei weithredu ar y lefel ymarfer isaf (sybsidiaredd), gan gydlynu ar lefel uwch yn ôl yr angen. Mae cydlynu effeithiol yn ymestyn y tu hwnt i asiantaethau ymatebwyr i gynnwys sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, gan fanteisio ar eu gwybodaeth a’u rhwydweithiau lleol.

Rhythm Gweithredol

Mae cylch strwythuredig briffiau, diweddariadau a phrosesau gwneud penderfyniadau hefyd yn cael ei alw’n rhythm brwydr, sy’n cynnal ymwybyddiaeth sefyllfaol ac yn sicrhau bod gweithgareddau ymateb yn cyd-fynd â hynt esblygol argyfwng.

Ymwybyddiaeth Sefyllfaol

Cyflwr gwybodaeth unigol a chyfunol yn gysylltiedig â digwyddiadau yn y gorffennol a digwyddiadau cyfredol, eu goblygiadau a datblygiadau posibl yn y dyfodol. Mae proses meithrin ymwybyddiaeth sefyllfaol yn cynnwys amgyffred a deall gwybodaeth sydd ar gael, ei gwerthuso a rhagamcanu at y dyfodol. Mae cyflawni safbwynt cyffredin o fewn grwpiau yn gofyn am dryloywder, er enghraifft, o ran y cysyniadau, y tybiaethau, yr iaith a’r fframweithiau sy’n cael eu defnyddio i feithrin ymwybyddiaeth sefyllfaol unigol.

Protocolau

Cyfarwyddiadau neu weithdrefnau diffiniedig sy’n safoni tasgau a chamau gweithredu sy’n cynnwys cydlynu rhwng endidau niferus. Mae protocolau’n sicrhau cysondeb, gallu i ryngweithredu, a gweithio effeithiol ar y cyd, yn enwedig yn ystod sefyllfaoedd cymhleth neu argyfwng.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAG1, SFJCCAG2, SFJCCAG3

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; datblygu; cynnal; gwerthuso; cynlluniau ar gyfer argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng