Rhybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau ynghylch argyfyngau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu gweithdrefnau a systemau ar gyfer rhybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau, a darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol cyn ac yn ystod argyfyngau. Mae'n cynnwys integreiddio cyfathrebu gyda threfniadau eraill i gynllunio ar gyfer argyfwng, a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, gan gynnwys sefydliadau ymateb a'r cyfryngau. I fodloni'r safon, rhaid deall pwysigrwydd a defnydd cynyddol cyfryngau cymdeithasol. Y nod yw sicrhau bod rhybuddion, gwybodaeth a chyngor yn cael eu cyflwyno cyn ac yn ystod argyfyngau, i helpu i liniaru'r effeithiau a chynorthwyo adferiad.
Grŵp Targed
Argymhellir y safon ar gyfer y rhai sy'n pennu'r angen am gynyddu ymwybyddiaeth, ac sy'n datblygu ac yn lledaenu rhaglenni a deunyddiau er mwyn addysgu cymunedau am argyfyngau. Gall cymunedau gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu trefniadau effeithiol ar gyfer cyfathrebu gyda chymunedau mewn sefyllfaoedd argyfwng, yn unol â gofynion sefydliadol
- integreiddio gweithdrefnau ar gyfer rhybuddio a hysbysu cymunedau gyda threfniadau cynllunio eraill ar gyfer argyfwng, yn unol â gofynion sefydliadol
- mapio safleoedd a lleoliadau cymunedol allweddol, yn unol â gofynion sefydliadol a chynlluniau cyfathrebu
- cytuno ar brotocolau ar gyfer rhybuddio a hysbysu cymunedau gydag asiantaethau eraill, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer: 4.1 adnabod yr ymatebwyr arweiniol 4.2 gweithio ar y cyd ag ymatebwyr eraill
- cadw mewn cysylltiad â sefydliadau ymateb eraill i gadarnhau'r camau gweithredu ar gyfer rhybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau pan fydd argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi'r amcanion penodol ar gyfer cyfathrebu â chymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
- datblygu trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio gyda'r cyfryngau cyn, yn ystod ac ar ôl argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- darparu gwybodaeth berthnasol ac amserol ynghylch natur digwyddiad sy'n datblygu, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys: 8.1 trosolwg o'r sefyllfaoedd 8.2 camau gweithredu'n cael eu cymryd ar unwaith gan ymatebwyr i leiafu'r risgiau 8.3 camau gweithredu'n cael eu cymryd gan ymatebwyr i gynorthwyo adferiad 8.4 sut mae modd casglu gwybodaeth bellach
- darparu gwybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol sydd: 9.1 yn gydlynus, yn gyson, yn amserol a heb ddyblygu diangen 9.2 yn hybu dealltwriaeth cynulleidfaoedd targed 9.3 mor gynhwysfawr â phosibl, heb achosi braw diangen
- defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn offeryn monitro ac ymateb, yn unol â gofynion sefydliadol
- gwirio bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn galluogi unigolion i gymryd camau i leiafu effeithiau argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadw llygad ar y gorwel am risgiau a pheryglon yn y dyfodol a allai effeithio ar y trefniadau presennol
- adolygu a gwerthuso trefniadau ar gyfer rhybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae pennu amcanion cyfathrebu, gan roi sylw i wahanol rannau'r gynulleidfa a'u hanghenion, eu galluoedd a'u dewisiadau amrywiol
- dulliau effeithiol o gyflwyno gwybodaeth yn ystod argyfyngau
- mathau o alluoedd cyfathrebu sydd ar gael i'ch sefydliad a sefydliadau partner
- systemau gwybodaeth gyhoeddus ac effaith amharu arnynt yn ystod argyfyngau
- effaith bosibl cyfryngau cymdeithasol a chyfrifoldebau eich sefydliad yn y cyswllt hwnnw
- cynlluniau a threfniadau argyfwng sefydliadol
- trefniadau sefydliadol ar gyfer cyfathrebu'n uniongyrchol gyda chymunedau, gan gynnwys: 7.1 gwefannau 7.2 cyfryngau cymdeithasol 7.3 negeseuon testun 7.4 seirenau 7.5 ymweliadau o ddrws i ddrws
- trefniadau sefydliadol ar gyfer cyfathrebu gyda staff a llunwyr penderfyniadau mewn argyfyngau
- gweithdrefnau ar gyfer profi ac ymarfer trefniadau rhybuddio
- rolau a swyddogaethau'r prif asiantaethau sy'n ymwneud ag amddiffyniad sifil ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- trefniadau sefydliadol ar gyfer gweithio gyda'r cyfryngau yn ystod argyfyngau
- y manteision y gall cysylltiadau cyfryngau effeithiol eu darparu yn ystod argyfyngau
- pwysigrwydd cysylltiadau cyfryngau da yn ystod argyfyngau
- effaith bosibl cyfryngau cyfathrebu cyhoeddus ar y dull o gynnal gweithrediadau argyfwng
- effaith bosibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed
- mesurau y gellir eu cymryd i sicrhau bod yr wybodaeth ofynnol yn cyrraedd pobl agored i niwed, ac yn cael ei deall ganddynt
- sut mae adolygu a gwerthuso'r trefniadau ar gyfer rhybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau
- sut mae elwa o'r gwersi a ddysgwyd ac arfer da sefydliadau eraill
- cyfrifoldebau cyfreithiol am rybuddio mewn argyfyngau ar draws partneriaid amddiffyniad sifil a gweithredwyr safleoedd peryglus
- dyletswyddau statudol sefydliadau ymateb i rybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 ystyriaeth gymunedol
2 bod yn benderfynol
3 meddu ar empathi
4 natur ymchwiliol
5 bod yn realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 dadansoddi
2 briffio
3 cyfathrebu
4 ymgynghori
5 rheoli gwybodaeth
6 marchnata
7 trefnu
8 datrys problemau
9 rheoli prosiectau
10 ymchwil
11 cysylltu
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
*Cymuned *
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
3 CCAF1 Cynyddu ymwybyddiaeth o'r risg, yr effaith bosibl a'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau
4 CCAG4 Ymdrin ag anghenion unigolion yn ystod yr ymateb cychwynnol i argyfyngau