Cyfathrebu ag unigolion a chymunedau i alluogi gweithredu ac ymateb cynnar

URN: SFJCCAF2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu â chymunedau a’r cyhoedd ehangach er mwyn galluogi gweithredu cynnar ac ymateb effeithiol i argyfyngau. Mae’n ymwneud â datblygu protocolau a negeseuon gan ddefnyddio senarios risg ar raddfa ac ymgysylltu â’r gymuned i sicrhau ymagweddau sy’n gynhwysol ac yn gydlynus. Hefyd, mae’n cynnwys ymarfer a phrofi’r rhain gyda chymunedau sy’n wynebu risg.

Yn ystod damwain, mae’n pwysleisio cyhoeddi rhybuddion amserol a thargedig, cynorthwyo â gweithredu cynlluniau cyfathrebu penodol i ddigwyddiad, ac arddangos effeithiau a risgiau er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd. Hefyd, mae’n ymwneud ag addasu negeseuon yn ôl risgiau ac anghenion sy’n esblygu a rheoli camwybodaeth er mwyn cynnal hyder y cyhoedd.

Ar ôl digwyddiad, mae’r safon yn atgyfnerthu pwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau sydd wedi’u heffeithio er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd rhybuddio a hysbysu, gan sicrhau atebolrwydd, a nodi meysydd i’w gwella.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • dehongli deddfwriaeth, dyletswyddau a chanllawiau i nodi cyfrifoldebau, blaenoriaethau ac ymagweddau ar gyfer rhybuddio a hysbysu cymunedau er mwyn iddynt fod yn barod ac ymateb
  • nodi partneriaid a rhanddeiliaid wrth rybuddio a hysbysu a diweddaru strategaethau partneriaeth, ymgysylltu ac atebolrwydd
  • defnyddio proffiliau a senarios risg ar raddfa i asesu camau gweithredu tebygol ac anghenion hanfodol cymunedau a grwpiau
  • cyd-gynhyrchu camau gweithredu a negeseuon addas sy’n cyd-fynd ag anghenion a galluoedd grwpiau bregus
  • cytuno ar brotocolau rhybuddio a hysbysu gyda phartneriaid a rhanddeiliaid
  • gwerthuso effeithiolrwydd galluoedd cyfathrebu trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymarferion cymunedol
  • lledaenu rhybuddion ac addasu negeseuon sydd wedi’u paratoi, gan roi gwybodaeth amserol a thargedig i gymunedau, y mae’n bosibl gweithredu arni
  • cynorthwyo â datblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu penodol i ddigwyddiad
  • defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gipio ac enghreifftio effeithiau, canlyniadau a risgiau pellach er mwyn ymestyn dealltwriaeth y cyhoedd
  • nodi a lliniaru risgiau camwybodaeth er mwyn amddiffyn hyder y cyhoedd ac effeithiolrwydd ymateb
  • addasu ymagweddau rhybuddio a hysbysu i adlewyrchu natur ddynamig risgiau ac anghenion esblygol y rhai sydd wedi’u heffeithio
  • ymgysylltu â chymunedau sydd wedi’u heffeithio yn ystod ac ar ôl digwyddiadau i werthuso gweithgarwch rhybuddio a hysbysu, gan sicrhau atebolrwydd a nodi meysydd i’w gwella
  • ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu arfer da yn seiliedig ar dystiolaeth gyda phartneriaid a rhanddeiliaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • deddfwriaeth, polisïau ac arfer da i gyfleu rhybuddion a gwybodaeth
  • sefydliadau sydd â dyletswyddau, cyfrifoldebau neu genhadaeth i gefnogi cyfathrebiadau rhybuddio ac argyfwng
  • rôl llywodraeth, sefydliadau ymateb, sefydliadau gwirfoddol, cynrychiolwyr etholedig, grwpiau ffydd a chymuned, a’r cyfryngau o ran rhybuddio a hysbysu yn ystod argyfyngau
  • rôl ymddiriedaeth a ffactorau sy’n effeithio ar gyfreithlondeb sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd ac ar eu rhan
  • cysyniad risg, termau cysylltiedig a sut maent yn cael eu defnyddio mewn sectorau perthnasol
  • effeithiau argyfyngau ar gymunedau a phobl fregus
  • ymagweddau monitro risg ar gyfer parodrwydd, bod yn barod ac ymateb
  • rôl hanfodol parodrwydd cymunedol wrth rybuddio a hysbysu yn effeithiol, gan gynnwys ei dylanwad ar fod yn barod, galluoedd ymateb a chamau gweithredu
  • pa mor barod yw cymuned ac opsiynau ymateb, a rhwystrau rhag eu gweithredu
  • sut gall sianeli cyfathrebu sefydledig a pherthnasoedd â’r cyfryngau gael eu defnyddio yn ystod argyfyngau
  • mathau o ansicrwydd mewn rhybuddio a hysbysu, a strategaethau ar gyfer eu rheoli
  • sut i addasu cyfathrebu i fodloni anghenion unigol
  • sut mae gwyddor gymdeithasol a gwyddor ymddygiadol yn berthnasol i ymwybyddiaeth risg, parodrwydd a newid ymddygiad mewn cyd-destunau risg
  • dulliau hygyrch ar gyfer enghreifftio peryglon, bygythiadau, risiau, effeithiau a chanlyniadau
  • theori ac egwyddorion cyfathrebu ynghylch risgiau ac argyfyngau i’r cyhoedd
  • dulliau o werthuso effaith ymyriadau cyhoeddus a chymunedol, gan sicrhau atebolrwydd a gwerth
  • rôl ymarfer myfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhybuddio a Hysbysu

Y broses o gyfleu risg, rhybuddion cynnar a gwybodaeth frys i’r cyhoedd, gan alluogi camau gweithredu amserol, gwybodus ac amddiffynnol cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiadau.

Cyfathrebu am Risg

Cyfnewid gwybodaeth gysylltiedig â risg ymhlith rhanddeiliaid i gefnogi ymwybyddiaeth, parodrwydd a gweithredu gwybodus.

Rheoli Camwybodaeth

Nodi, monitro a chywiro gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn ystod argyfyngau.

Cipolygon ymddygiadol mewn argyfyngau

Mae cipolygon ymddygiadol yn chwarae rhan hanfodol mewn rheoli argyfyngau trwy ddeall sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau ac yn ymddwyn o dan straen.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAF2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cydweithredu; rhybuddio; hysbysu; cynghori; cyfryngau; cyfryngau cymdeithasol; argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng; cynllunio