Cynyddu ymwybyddiaeth o risgiau, effeithiau posibl a threfniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth mewn cymunedau o risgiau, effeithiau posibl a threfniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau. Y nod yw bod aelodau o gymunedau yn wybodus, ac felly mewn sefyllfa well i ymateb i argyfyngau a lleiafu'r effeithiau.
Mae cynyddu ymwybyddiaeth yn cynnwys datblygu ac addasu deunyddiau gwybodaeth, a lledaenu gwybodaeth mewn cymunedau. Gall hyn olygu bod angen gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i leiafu dyblygu, a sicrhau darpariaeth gyson o wybodaeth rhwng asiantaethau ymatebwyr. Gall yr wybodaeth a'r cyngor gyfeirio at risgiau cyffredinol argyfyngau yn yr ardal leol, neu sy'n gysylltiedig â risgiau a chynlluniau penodol.
Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n pennu’r angen am gynyddu ymwybyddiaeth, ac sy'n datblygu ac yn lledaenu rhaglenni a deunyddiau er mwyn addysgu cymunedau am argyfyngau. Gall cymunedau gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r amcanion cyffredinol ar gyfer cyfathrebu â chymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi safbwyntiau, pryderon ac anghenion cymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi amcanion penodol ar gyfer cyfathrebu â phob segment o'r cynulleidfaoedd targed, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi'r deunyddiau gwybodaeth presennol a gwerthuso sut gellir eu defnyddio neu eu teilwra i wella ymwybyddiaeth mewn cymunedau lleol, yn unol â gofynion sefydliadol
- datblygu rhaglenni neu ddeunyddiau ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
- trefniadau ymateb mewn argyfwng
- sut gall unigolion helpu i atal argyfyngau
- sut gall unigolion helpu i wella gwytnwch cymunedol
- y paratoadau y gallai aelodau o gymunedau eu gwneud rhag ofn y bydd argyfyngau'n digwydd
- camau gweithredu y gallai aelodau o gymunedau eu cymryd os bydd argyfyngau'n digwydd
- golygu neu grynhoi deunyddiau gwybodaeth, gan roi sylw i unrhyw wybodaeth sensitif, ac yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod cyflwyniad a chynnwys gwybodaeth yn cyflawni'r amcanion a ddiffiniwyd ac anghenion, galluoedd a dewisiadau amrywiol cynulleidfaoedd targed
- ymgynghori â phobl berthnasol ynghylch dyluniad a chynnwys deunyddiau gwybodaeth a chyngor, yn unol â gofynion sefydliadol
- gweithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, yn unol â gofynion sefydliadol, er mwyn osgoi:
- dyblygu ymdrech
- negeseuon â allai wrthddweud ei gilydd
- darparu gwybodaeth mewn fformatau sy'n hybu dealltwriaeth ac sy'n hygyrch i gynulleidfaoedd targed, yn unol â gofynion sefydliadol
- caffael arweiniad arbenigol ar gyflwyno a chynnwys gwybodaeth yn ôl y galw, yn unol â gofynion sefydliadol
- rhoi cyhoeddusrwydd i argaeledd deunyddiau gwybodaeth a threfnu i'w lledaenu yn unol â gofynion sefydliadol
- gwerthuso effeithiolrwydd yr wybodaeth a ddarparwyd yn unol â gofynion sefydliadol
- adolygu ac adnewyddu'r wybodaeth a ddarparwyd i roi sylw i amgylchiadau newidiol, yn unol â gofynion sefydliadol
- gwirio bod cyflwyniadau a gwybodaeth yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i ryddid gwybodaeth a chynllunio ar gyfer argyfwng
- gwybodaeth y gellid ei gwneud yn gyhoeddus i wella amddiffyniad sifil
- sut mae nodi cynulleidfaoedd targed ar gyfer gwybodaeth benodol
- pwysigrwydd cyfathrebu gydag aelodau o gymunedau i roi sylw i'w safbwyntiau, eu pryderon a'u hanghenion
- sianeli sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyfathrebu gyda chymunedau
- pwysigrwydd seilio eich strategaeth gyfathrebu ar risgiau hysbys
- deunyddiau gwybodaeth sydd ar gael o gyrff cenedlaethol a rhanbarthol
- sut mae cyfrannu at ddatblygiad gwytnwch cymunedol
- sut mae cyfathrebu risgiau i'r cyhoedd er mwyn mwyafu'r posibiliadau hunan-gymorth
- peryglon a risgiau yn eich ardal ac effeithiau posibl argyfyngau ar gymuneda
- cynlluniau a gweithdrefnau ymateb a ddatblygwyd gyda phartneriaid amddiffyniad sifil
- rhagofalon call y dylai'r cyhoedd eu cyflawni cyn argyfyngau a chamau gweithredu y dylent eu cymryd os bydd argyfwng
- effaith bosibl argyfyngau ar grwpiau a sefydliadau penodol sy'n agored i niwed
- deddfwriaeth sy'n gofyn bod gwybodaeth yn cael ei darparu i gymunedau ynghylch:
- peryglon a risgiau argyfwng
- beth bydd ymatebwyr yn ei wneud os bydd argyfwng
- sut mae trefnu i ddarparu gwybodaeth mewn amrywiol fformatau
- sut mae sicrhau arweiniad ar ddylunio a chynhyrchu deunyddiau
- sut mae golygu neu grynhoi deunyddiau gwybodaeth o ran unrhyw wybodaeth sensitif
- sut mae cyrraedd aelodau o gymunedau sy'n agored i niwed a'r rhai a allai gael trafferth deall y neges
- pryd dylid adolygu ac adnewyddu gwybodaeth i roi sylw i amgylchiadau newidiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- ystyriaeth gymunedol
- bod yn benderfynol
- meddu ar empathi
- natur ymchwiliol
- bod yn realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- dadansoddi
- cyfathrebu
- ymgynghori
- drafftio
- rheoli gwybodaeth
- cysylltu
- marchnata
- trefnu
- cyflwyno
- rheoli prosiectau
- ymchwil
- pennu amcanion
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil
Cymuned
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.
Gwybodaeth sensitif
Gwybodaeth sy'n peryglu diogeledd cenedlaethol neu ddiogelwch y cyhoedd; sy'n fasnachol sensitif, neu sy'n ymwneud â data personol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol
- CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
- CCAB1 Rhagweld ac asesu risg argyfyngau
- CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
- CCAF2 Rhybuddio, hysbysu a chynghori'r gymuned pan fydd argyfyngau