Gweithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth o risg, a chynyddu parodrwydd a gwydnwch
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth o risgiau, cynyddu parodrwydd a chryfhau gwydnwch. Y nod yw y bydd cymunedau’n wybodus ac yn gallu lliniaru risgiau’n well ac ymateb yn effeithiol i argyfyngau. Mae’n canolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o risgiau, gwella cyfathrebu ac ymddiriedaeth, ac ymestyn galluoedd lleol.
Mae’n cynnwys gweithio’n gydweithredol â’r sector gwirfoddol a chymunedol, gan wreiddio gweithgareddau gwydnwch o fewn strwythurau cymunedol presennol, a chyflwyno rhaglenni priodol a chynaliadwy yn lleol.
Mae’r safon hefyd yn ymwneud â monitro effaith ymyriadau, gan sicrhau atebolrwydd i gymunedau a hyrwyddo gwelliant parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cymhwyso prosesau llywodraethu i adolygu neu archwilio ymagwedd a galluoedd y sefydliad ar gyfer ymgysylltu cymunedau â pharodrwydd a gwydnwch
- cymhwyso deddfwriaeth, dyletswyddau a chanllawiau perthnasol i ddiffinio cyfrifoldebau a blaenoriaethau ar gyfer gwella ymwybyddiaeth risg, parodrwydd a gwydnwch i bobl sy’n wynebu risg
- gwerthuso perthnasoedd a rhaglenni ymgysylltu presennol gyda phartneriaid, rhanddeiliaid, cymunedau a’r cyhoedd
- adolygu a diweddaru strategaethau ar gyfer partneriaeth, ymgysylltu ac atebolrwydd ym maes ymwybyddiaeth risg a gwydnwch
- cefnogi’r sector gwirfoddol a chymunedol i ymgysylltu â gwydnwch ar bob lefel ac ym mhob cam
- datblygu dealltwriaeth gyffredin o fregusrwydd, gwybodaeth am risg, rhwydweithiau, asedau ac anghenion posibl sydd heb eu bodloni, mewn argyfyngau, ar gyfer unigolion a grwpiau
- gweithio’n gydweithredol i gryfhau sianeli cyfathrebu rhwng cymunedau sy’n wynebu risg, ymatebwyr a llunwyr polisi
- cyfleu gwybodaeth am risg mewn ffyrdd hygyrch, sy’n galluogi ac yn symbylu gweithgarwch gwydnwch cymunedau
- gweithio’n gydweithredol i ddatblygu, profi a dilysu galluoedd cymunedol
- casglu a rhannu gwybodaeth i ymestyn ymateb sefydliadol, parhad a threfniadau adfer
- ymgysylltu cymunedau â monitro, gwerthuso a gwella effaith ymyriadau gwydnwch
- ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu arfer da yn seiliedig ar dystiolaeth gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- buddion grymuso cymunedau i wella gwydnwch a lleihau dibyniaeth ar ymatebwyr brys
- rôl a chyfrifoldebau rhanddeiliaid ym maes gwydnwch cymunedol
- deddfwriaeth, polisïau, canllawiau ac arfer da perthnasol ar gyfer ymwybyddiaeth risg, parodrwydd a gwydnwch
- cysyniad risg, termau cysylltiedig a sut maent yn cael eu defnyddio mewn sectorau perthnasol
- rôl ymddiriedaeth a ffactorau sy’n effeithio ar gyfreithlondeb sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd ac ar eu rhan
- effeithiau posibl argyfyngau ar gymunedau a phobl fregus
- dulliau o integreiddio gwybodaeth leol a thechnegol i wella dealltwriaeth risg
- opsiynau atal a pharodrwydd sydd ar gael a rhwystrau rhag eu rhoi ar waith
- sut mae gwyddor gymdeithasol a gwyddor ymddygiadol yn berthnasol i ymwybyddiaeth risg, parodrwydd a newid ymddygiad mewn cyd-destunau risg
- sut i sefydlu a chynnal sianeli cyfathrebu a chysylltiadau â’r cyfryngau all gael eu defnyddio yn ystod argyfyngau
- sut i addasu cyfathrebu i fodloni anghenion unigolion
- dulliau hygyrch ar gyfer arddangos peryglon, bygythiadau, risgiau, effeithiau a chanlyniadau
- mathau o gymunedau a ffactorau sy’n dylanwadu ar hunaniaeth cymuned a’i hymdeimlad o berthyn
- egwyddorion datblygu cymunedol, ymgysylltu a dulliau cyfranogol
- cymwyseddau diwylliannol ar gyfer ymgysylltu cynhwysol ac effeithiol
- buddion integreiddio gweithgareddau gwydnwch i strwythurau cymunedol a rhaglenni ymgysylltu presennol
- dulliau o fonitro a gwerthuso effaith ymyriadau cyhoeddus a chymunedol a’r prosesau ar gyfer sicrhau atebolrwydd
- rôl arfer myfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymuned
Grŵp o bobl seiliedig ar le neu hunaniaeth sy’n dod ynghyd trwy eu clymau cymdeithasol a’u diddordebau cyffredin i weithredu’n gyfunol. Trwy fanteisio ar eu hasedau cyffredin a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, gall cymunedau gyflawni deilliannau nad all unigolion eu cyflawni ar eu pen eu hunain.
Gwydnwch cymunedol
Mae gwydnwch cymunedol yn broses addasol sy’n galluogi cymunedau ac aelodau unigol i ddatblygu, ysgogi, trefnu a defnyddio galluoedd cyffredin er budd pawb. Mae gwydnwch cymunedol yn dibynnu ar ryngweithio cymdeithasol cadarnhaol, amrywiaeth, gwybodaeth a mewnbwn priodol gan sefydliadau cefnogol. Gall cymunedau gwydn ragweld tarfu, lliniaru a pharatoi ar ei gyfer, ymateb iddo ac adfer yn ei sgil, gan addasu a ffynnu’n barhaus yn wyneb newid.
Sylwch, mae cymuned gadarn yn rhagofyniad ar gyfer gwydnwch cymunedol. Mae gwir gymunedau’n tueddu i fod yn wydn. Fodd bynnag, byddant yn elwa o gymorth allanol i ragweld a delio â risgiau na fyddant, efallai, yn ymwybodol ohonynt.
Ymagweddau Cyfranogol
Dulliau sy’n cynnwys unigolion, grwpiau bregus a chymunedau’n weithgar mewn diffinio problemau, datblygu dealltwriaeth ar y cyd, dylunio, gweithredu a gwerthuso ymyrraeth gwydnwch. Mae ymagweddau cyfranogol yn sicrhau bod safbwyntiau ac anghenion amrywiol yn cael eu hystyried, gan arwain at strategaethau gwydnwch mwy cynhwysol ac effeithiol.
Ymwybyddiaeth gyhoeddus
Ymgyrchoedd eang, wedi’u harwain yn aml gan y llywodraeth, sy’n cynnig cyngor cyffredinol i’r cyhoedd. Nod y mentrau hyn yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo camau gweithredu cyffredinol; efallai na fydd ganddynt y natur benodol sydd ei hangen i fynd i’r afael ag anghenion unigryw cymuned.