Cynnal sesiynau dadfriffio yn dilyn argyfyngau, ymarferiadau neu weithgareddau eraill

URN: SFJCCAE3
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal sesiynau dadfriffio gydag unigolion neu grwpiau yn dilyn argyfyngau, ymarferiadau neu weithgareddau eraill.  Mae'n cynnwys hwyluso sesiynau dadfriffio mewn modd sy'n cydnabod perfformiad llwyddiannus, yn nodi'r gwersi sydd i'w dysgu, ac yn caniatáu adolygu cynlluniau a threfniadau perthnasol.


Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n cynnal sesiynau dadfriffio yn dilyn argyfwng, ymarferiad neu weithgaredd arall. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​casglu ac adolygu gwybodaeth berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer sesiynau dadfriffio yn unol â gofynion sefydliadol
  2. cadarnhau bod yr adnoddau neu'r cyfleusterau y mae eu hangen ar gyfer sesiynau dadfriffio ar gael yn unol â gofynion sefydliadol
  3. cadarnhau bod y rhai a ddylai gyfranogi mewn sesiynau dadfriffio wedi cael eu nodi a'u hannog i fod yn bresennol, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. darparu'r wybodaeth ofynnol i gyfranogwyr, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. nodi'r materion a'r cwestiynau allweddol sydd i'w hystyried mewn sesiynau dadfriffio, yn unol â chanllawiau sefydliadol
  6. hwyluso sesiynau dadfriffio mewn modd strwythuredig, trefnus, yn unol â chanllawiau sefydliadol
  7. darparu adborth adeiladol i'r rhai dan sylw, ac annog cyfranogiadau yn unol â chanllawiau sefydliadol
  8. adnabod camau gweithredu llwyddiannus a chydnabod perfformiad effeithiol yn unol â chanllawiau sefydliadol
  9. nodi a blaenoriaethu cyfleoedd i wella'r cynllunio a'r ymatebion yn y dyfodol, yn unol â chanllawiau sefydliadol
  10. lledaenu canlyniadau sesiynau dadfriffio i'r bobl berthnasol yn unol â phrotocolau eich sefydliad, i gynnal cynllunio ac ymatebion y dyfodol
  11. cynnal cofnodion cynhwysfawr, cywir o sesiynau dadfriffio, yn unol â phrotocolau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y rhesymau dros ddadfriffio yn dilyn argyfyngau, ymarferiadau neu weithgareddau eraill
  2. manteision sesiynau dadfriffio 'poeth' ac 'oer' ar ôl digwyddiadau
  3. mathau a chwmpas yr wybodaeth sy'n ofynnol cyn sesiynau dadfriffio
  4. sut mae cynllunio a strwythuro sesiynau dadfriffio
  5. y mathau o adnoddau neu gyfleusterau y mae eu hangen ar gyfer sesiynau dadfriffio
  6. rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n cynnal sesiynau dadfriffio
  7. pwy ddylai gyfranogi mewn sesiynau dadfriffio a sut mae annog presenoldeb
  8. gwybodaeth y dylid ei darparu i'r cyfranogwyr
  9. sut mae darparu adborth clir, adeiladol
  10. pam y gall fod gan unigolion wahanol ganfyddiadau o'r hyn ddigwyddodd yn ystod digwyddiadau
  11. pam y gall fod angen trin cyfraniadau i sesiynau dadfriffio fel deunydd cyfrinachol
  12. sut mae cytuno ar bwyntiau dysgu a chysylltu'r rheiny â chynllunio ac ymatebion yn y dyfodol
  13. protocolau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion a datblygu cynlluniau gweithredu
  14. sut mae cyfathrebu canlyniadau sesiynau dadfriffio gyda'r bobl berthnasol
  15. protocolau sefydliadol ar gyfer sicrhau bod camau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn sesiynau dadfriffio yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u hadolygu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 natur gydweithredol
2 bod yn adeiladol
3 bod yn benderfynol
4 natur ymchwiliol
5 bod â meddwl agored
6 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 dadansoddi                                                                
2 cyfathrebu                                                      
3 ymgynghori                                                              
4 hwyluso                                                              
5 rheoli gwybodaeth                                      
6 gwrando                                                                     
7 trefnu
8 blaenoriaethu
9 datrys problemau
10 paratoi adroddiadau


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Dadfriffio 'poeth'       *                         
Dadfriffio yn union wedi digwyddiad


*Dadfriffio 'oer'  *                            
Dadfriffio beth amser wedi digwyddiad (e.e. asesiad ysgrifenedig)


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
2 CCAG2 Ymateb i argyfyngau ar y lefel dactegol (arian)
3 CCAG3 Ymateb i argyfyngau ar y lefel weithredol (efydd)


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAE3

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Dadfriffio; sesiwn ddadfriffio; dad-friffio; unigolion; grwpiau; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau