Creu ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes LEGACY

URN: SFJCCAE1L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu ymarferiadau i ddarparu hyfforddiant ar y cyd neu ddilysu cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes.  Gall yr ymarferiadau a greir hefyd roi cynnig ar ddatrysiadau newydd i'r problemau, a dilysu'r hyfforddiant y mae pobl wedi'i dderbyn yng nghyswllt eu rolau mewn trefniadau ymateb sefydliad.

Grŵp Targed

Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â chreu ymarferiadau amddiffyniad sifil.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau'r angen am ymarferiadau, gan gynnwys eu cwmpas, eu nodau, eu hamcanion a'u meini prawf llwyddiant, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. sefydlu ymarferiadau yn unol ag amcanion cytunedig a'r amser a'r adnoddau sydd ar gael
  3. gosod senarios realistig, credadwy a heriol sy'n cyflawni'r amcanion ar gyfer ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. creu sefyllfaoedd sy'n deillio o senarios i brofi neu ddilysu amrywiol agweddau ar gynlluniau, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. cynnwys asiantaethau eraill wrth ddatblygu ymarferiadau a chyfranogi ynddynt, lle bo hynny'n briodol, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. rhesymoli nodau ac amcanion yr holl sefydliadau sy'n cyfranogi mewn ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. cadarnhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'u rolau mewn ymarferiadau, a darparu briffiadau rhag-ymarferiad, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. gwirio bod y dogfennau gofynnol ar gael
  9. gwirio bod y cyfleusterau, y cyfarpar neu'r adnoddau eraill sy'n ofynnol ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. gwahaniaethu rhwng adborth ar fecaneg yr ymarferiad, a'r gwersi a ddysgwyd sy'n berthnasol i'r amcanion, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. darparu adroddiadau amserol wedi ymarferiadau, gydag argymhellion ar gyfer y camau dilynol sy'n ofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. darparu adroddiadau gweithredu wedi ymarferiadau, gan ddisgrifio'r cynnydd a wnaed o ran argymhellion yr ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gwahaniaethau rhwng ymarferiadau sy'n:
    1. darparu hyfforddiant ar y cyd
    2. rhoi cynnig ar drefniadau newydd
    3. gwerthuso'r trefniadau presennol
  2. sut a phryd gellir defnyddio gwahanol fathau o ymarferiadau
  3. diben ymarferiadau wrth:
    1. gynnal natur gyfredol a dilysrwydd cynlluniau
    2. canfod gwendidau rhyngweithiad cynllun
    3. datblygu cymhwysedd y rhai dan sylw
  4. cyfyngiadau defnyddio ymarferiadau i werthuso trefniadau presennol
  5. pam dylai ymarferiadau edrych ar senarios sefyllfa waethaf resymol ar sail risg a chynllunio rhagdybiaethau
  6. meysydd a allai fod yn wendid yn y perfformiad neu'r gweithdrefnau presennol, y gellir ymdrin â hwy trwy ymarferiad
  7. pam y gall fod yn fuddiol cynnwys asiantaethau eraill mewn ymarferiadau, a'r ffordd orau o wneud hynny
  8. goblygiadau cael eu cynnwys i sefydliadau eraill, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau posibl
  9. gofynion o ran amlder cynnal ymarferiadau
  10. rolau a chyfrifoldebau cynllunwyr a chyfarwyddwyr ymarferiadau
  11. sut mae profi agweddau penodol ar gynlluniau neu drefniadau, gan gynnwys:
    1. rhestr gyswllt
    2. proses actifadu
    3. cyfarpar cyfathrebu
    4. rheoli gwybodaeth
  12. sut mae pennu amcanion ymarferiad a sicrhau eu bod wedi'u cyflawni
  13. manteision sesiynau dadfriffio 'poeth' ac 'oer' ar ôl y digwyddiad
  14. deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i gynllunio ar gyfer argyfwng

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. bod yn benderfynol
  2. natur ymchwiliol
  3. bod yn realistig
  4. natur gydweithredol

Sgiliau

​Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. dadansoddi                                                                
  2. asesu
  3. briffio a dadfriffio
  4. cyfathrebu 
  5. ymgynghori
  6. rheoli gwybodaeth
  7. trefnu
  8. datrys problemau
  9. rheoli prosiectau
  10. paratoi adroddiadau
  11. ymchwil 
  12. pennu amcanion
  13. cadeirio
  14. arweinyddiaeth

Geirfa

​Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:

Prawf

Gweithdrefn i ganfod ansawdd neu ddibynadwyedd elfen o gynllun Ymarferiad Efelychiad i ddilysu cynllun argyfwng neu ddilyniant busnes, rhoi cyfle i staff allweddol ymarfer, neu brofi systemau neu weithdrefnau 

Hyfforddiant ar y cyd

Hyfforddi pobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant unigol i weithio fel tîm i gwblhau tasg 

Ymarferiad ar sail trafodaeth

'Siarad trwy' y trefniadau ymateb 

Ymarferiad pen bwrdd

Efelychiad, a gynhelir fel arfer mewn un ystafell neu gyfres o ystafelloedd 

Ymarferiad byw             

Ymarfer mewn modd realistig, neu 'ddril ymarfer' 

Dadfriffio ‘poeth’

Dadfriffio yn union wedi digwyddiad Dadfriffio ‘oer’ Dadfriffio beth amser wedi digwyddiad (e.e. asesiad ysgrifenedig)


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:

  1. CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
  2. CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
  3. CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
  4. CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAE1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Datblygu; ymarferiadau; dilysu; hyfforddiant; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau