Gwerthuso a gwella galluoedd, trefniadau a chynlluniau ymateb ac adfer

URN: SFJCCAE1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso a gwella galluoedd ymateb ac adfer. Mae’n cynnwys gwerthuso pob agwedd ar allu yn strwythuredig a sicrhau a gwella pob agwedd yn barhaus, gan gynnwys cyfarpar, cyfleusterau, sgiliau, ynghyd â pholisïau, cynlluniau, gweithdrefnau a phrotocolau argyfyngau a pharhad busnes.

Mae’r safon hon yn galluogi’r rhai sy’n gyfrifol am werthuso a gwella galluoedd, trefniadau a chynlluniau i ddewis diben y gwerthusiad, y profi, y dilysu, y sicrwydd neu’r adolygiad ar ôl digwyddiad, a dewis dulliau priodol o gasglu tystiolaeth fel ymarferion ac ôl-drafodaethau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • cymhwyso prosesau llywodraethu i adolygu neu archwilio ymagwedd y sefydliad at werthuso, gan sicrhau bod hynny’n cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau ac arferion gorau
  • nodi a chydweithredu â phartneriaid a rhanddeiliaid werth werthuso gallu, gan ddiweddaru strategaethau partneriaeth, ymgysylltu ac atebolrwydd yn ôl yr angen
  • dadansoddi deddfwriaeth, dyletswyddau, codau ymarfer a chanllawiau i nodi cyfrifoldebau, blaenoriaethau ac ymagweddau
  • diffinio rhaglen gynhwysfawr ar gyfer gwerthuso galluoedd, gan gofnodi’r sail resymegol ar gyfer y galluoedd a ddewiswyd a’r dulliau a ddefnyddiwyd
  • diffinio a chofnodi prosesau gwerthuso ar ôl digwyddiad, gan gynnwys ôl-drafodaethau strwythuredig i gipio mewnwelediadau a gwersi
  • cyfrannu at gynllunio rhaglenni gwerthuso gallu, gan gynnwys dyrannu adnoddau, rheoli bylchau mewn adnoddau a risgiau cysylltiedig
  • diffinio cwmpas, amcanion a fframweithiau ac offer gwerthuso addas
  • pennu addasrwydd a chost effeithiolrwydd mathau o ymarferion ar gyfer gwerthuso gallu
  • datblygu ymarferion sy’n cyd-fynd â diben ac amcanion y gwerthusiad
  • cynorthwyo â chyflawni ymarferion ac ôl-drafodaethau fel dulliau o werthuso a gwella galluoedd
  • profi, gan ddefnyddio personél hyfforddedig, yn erbyn trefniadau wedi’u cynllunio, i gadarnhau bod galluoedd yn gallu cael eu rhoi ar waith yn ôl y bwriad
  • dilysu, gan ddefnyddio personél hyfforddedig, i gadarnhau bod galluoedd yn cyflawni yn ôl y disgwyl ar draws amrywiaeth o senarios a chyd-destunau risg
  • sicrhau, gan ddefnyddio meincnodau a safonau, i wirio ansawdd, perfformiad a deiliannau galluoedd
  • cofnodi tystiolaeth o arfer da a chyfyngiadau sy’n cael eu datgelu yn ystod digwyddiadau a gweithgareddau gwerthuso
  • archwilio tystiolaeth i bennu gwreiddiau llwyddiant, cyfyngiadau neu gamgymeriadau
  • diffinio datganiadau gwersi seiliedig ar dystiolaeth sy’n mynegi’r broblem yn glir wrth iddi ddigwydd, gwreiddiau’r broblem, a chamau gweithredu a argymhellir ar gyfer gwella
  • cyfleu gwersi ar gyfer atebolrwydd a dysgu cyfunol, gan uwchgyfeirio materion critigol o ran diogelwch i lefel strategol neu genedlaethol os bydd angen
  • neilltuo perchnogaeth ar wersi a chamau gweithredu i unigolion, timau neu sefydliadau
  • pennu’r gofynion ar gyfer rhoi camau gweithredu ar waith, gan gynnwys amserlenni, adrodd a darparu tystiolaeth o newid ac effeithiau
  • bodloni gofynion gweithredu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol
  • rhoi prosesau ar waith i adolygu a gwella’r gwerthusiad o allu, yn unol â safonau cyfreithiol a sefydliadol a gwersi a ddysgwyd
  • ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu arfer da ac arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth yn y maes galwedigaethol hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • deddfwriaeth, rheoliadau, polisi, canllawiau ac arfer da sy’n berthnasol i werthuso gallu
  • egwyddorion rheoli rhaglenni a phrosiectau sy’n berthnasol i gynllunio a chyflawni ffrydiau gwaith gwerthuso gallu
  • dulliau o ennyn ymgysylltiad partneriaid a rhanddeiliaid â phrosesau gwerthuso a gwella gallu
  • galluoedd ymateb ac adfer sy’n cael eu datblygu’n gyffredin
  • llywodraethu, safonau, gwersi ac arfer da yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cefnogi gwella galluoedd ymateb ac adfer yn barhaus
  • camau a gweithgareddau cyffredin sy’n gysylltiedig â gwerthuso gallu
  • meini prawf ac ystyriaethau ar gyfer gosod blaenoriaethau, amserlenni ac amcanion mewn gwerthusiad o allu
  • sut i brofi, dilysu a sicrhau galluoedd gan ddefnyddio ymarferion, asesiadau o berfformiad, ac archwiliadau
  • y gwahaniaeth rhwng senarios hyfforddiant ac ymarferion sy’n cael eu defnyddio i werthuso gallu, a risgiau cynnwys unigolion sydd heb eu hyfforddi mewn ymarferion gwerthuso
  • cryfderau a chyfyngiadau gwahanol fathau o ymarferion ar gyfer gwerthuso galluoedd, trefniadau a chynlluniau
  • nodweddion meini prawf gwerthuso effeithiol i’w defnyddio mewn ymarferion gwerthuso
  • diben, fformatau a chymhwyso ôl-drafodaethau ar ôl ymarfer ac ar ôl digwyddiad mewn gwerthuso gallu
  • technegau ar gyfer casglu a chofnodi tystiolaeth yn ystod gwerthusiadau o allu
  • ymagweddau at gynnal dadansoddiad o wraidd problem er mwyn amlygu bylchau mewn gallu a meysydd i’w gwella
  • nodweddion datganiad gwersi effeithiol a throsglwyddadwy
  • egwyddorion ac arferion gorau ar gyfer rheoli, olrhain a gweithredu gwersi a chamau gweithredu ar gyfer gwella
  • cyfrifoldebau unigolion, timau a sefydliadau sydd wedi’u neilltuo i weithredu ar wersi a chamau gweithredu ar gyfer gwella
  • pam a sut gall gwersi fethu cael eu dysgu, a risgiau sy’n gysylltiedig â pheidio â gwella galluoedd ymateb ac adfer
  • strwythurau llywodraethu a mecanweithiau goruchwylio ar gyfer gwerthuso a gwella galluoedd ymateb ac adfer
  • rôl arfer myfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhaglen Gwerthuso a Sicrhau Gallu

Rhaglen Gwerthuso a Sicrhau Gallu: Amserlen strwythuredig ac integredig ar gyfer asesu, dilysu a sicrhau effeithiolrwydd galluoedd parodrwydd, ymateb ac adfer. Mae’n cynnwys ymarferion, archwiliadau, adolygiadau a gwelliant parhaus.

Prosesau Gwerthuso Ôl-ddigwyddiad

Gweithgareddau strwythuredig sy’n cael eu cynnal ar ôl argyfwng neu ymarfer i adolygu perfformiad, cipio mewnwelediadau a gyrru gwelliannau. Gallant gynnwys ôl-drafodaethau poeth ac oer, adolygiadau strwythuredig, adroddiadau ar ôl gweithredu (AAR), a gwerthusiadau annibynnol.

Fframweithiau Gwerthuso Gallu

Strwythurau rhagddiffiniedig a meini prawf sy’n cael eu defnyddio i asesu galluoedd. Maent yn llywio beth ddylai gael ei fesur, sut a pham, gan gwmpasu perfformiad, ansawdd, allbynnau a deilliannau.

Ymarfer (mewn Gwerthusiad o Allu)

Dull o ymarfer, profi, dilysu a sicrhau galluoedd a gwella perfformiad, ochr yn ochr â dulliau eraill, fel archwiliadau, asesiadau amser real o berfformiad, ac adolygiadau ar ôl digwyddiadau.

Ôl-drafodaeth

Proses systematig ar gyfer adolygu perfformiad, effaith a deilliannau ar ôl ymarfer neu ddigwyddiad. Gall ôl-drafodaethau fod ar ffurf: Ôl-drafodaeth Boeth (myfyrdodau yn syth ar ôl digwyddiad), Ôl-drafodaeth Oer (oedi cyn adolygiad mwy strwythuredig), ac Ôl-drafodaeth Strwythuredig (dadansoddiad manwl ar sail data a gasglwyd).

Gwraidd y Broblem

Mae gwraidd y broblem yn cyfeirio at y ffactorau cyfrannol sylfaenol sy’n arwain at broblemau neu ddeilliannau a welir, yn aml yn ystod digwyddiadau neu ymarferion. Mae methu nodi gwraidd y rheswm pam y gwnaeth canlyniadau ddigwydd yn golygu nad yw argymhellion perthnasol ar gyfer newid yn gallu cael eu diffinio ac mae’r problemau’n debygol o ailddigwydd.

Dadansoddiad o Wraidd y Broblem

Mae dadansoddiad o wraidd y broblem yn ymchwiliad dilynol systematig o broblemau a deilliannau, sy’n cael eu nodi’n aml yn ystod digwyddiadau ac ymarferion, er mwyn pennu’r prif ffactorau cyfrannol. Heb nodi’r rheswm gwaelodol, nid yw’n bosibl diffinio datganiadau gwersi seiliedig ar dystiolaeth sy’n mynegi’r broblem yn glir, gwreiddiau’r broblem, a chamau sy’n cael eu hargymell ar gyfer gwella.

Gwersi

Mae gwersi yn ddatganiadau sy’n mynegi’r broblem neu’r deilliant a welwyd, yn aml yn ystod digwyddiad neu ymarfer, tystiolaeth o wraidd y broblem a chamau argymelledig sy’n cael eu ffurfio i alluogi newidiadau cadarnhaol.

Ymarfer

Gweithgareddau sy’n cael eu hailadrodd, gyda’r nod o wella hyfedredd ymateb unigol a chyfunol.

Prawf

Dull gwerthuso sy’n pennu p’un a all trefniadau, gweithdrefnau neu brotocolau a gynlluniwyd gael eu rhoi ar waith fel y’u disgrifiwyd mewn dogfennau, o dan amodau rheoledig (h.y. gan ddefnyddio personél hyfforddedig).

Dilysu

Dull gwerthuso sy’n pennu p’un a yw’r cynlluniau, gweithdrefnau a phrotocolau gallu a chysylltiedig yn cyflawni yn ôl y disgwyl, gan fodloni amcanion, anghenion gweithredol a chyflawni deilliannau bwriadedig o dan nifer o senarios a chyd-destunau risg ar raddfeydd gwahanol.

Archwiliad

Proses adolygu ffurfiol i asesu cydymffurfedd, effeithiolrwydd a meysydd i’w gwella.

Sicrhau

Dull gwerthuso sy’n pennu p’un a yw’r cynlluniau, gweithdrefnau a phrotocolau gallu a chysylltiedig yn bodloni meincnodau penodedig a safonau ansawdd a pherfformiad i sicrhau y byddant yn cyflawni ar y safon ofynnol, pan fydd angen.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAE1, SFJCCAE2, SFJCCAE3

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Datblygu; ymarferion; dilysu; hyfforddiant; cynlluniau ar gyfer argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng