Hyrwyddo rheoli parhad busnes LEGACY

URN: SFJCCAD2L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir,Argyfyngau Sifil Posibl
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cyngor a chymorth ar reoli parhad busnes, gan gynnwys cyngor cyffredinol i’r sectorau busnes a gwirfoddol, a chyngor a chymorth penodol i sefydliadau unigol. Y nod yw helpu i ddatblygu gwydnwch cymunedol, yn benodol, lleihau effaith argyfyngau ar barhad busnes a’i gwneud hi’n bosibl dod dros argyfyngau a tharfu arall ar fusnes yn gyflymach.

Grŵp targed

Mae’r safon hon i’r rhai sy’n rhoi cyngor a chymorth ar reoli parhad busnes i sefydliadau eraill a’r gymuned ehangach, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.   nodi’r cyngor a’r cymorth cyffredinol a ddarperir i’r gymuned fusnes yn unol â gofynion sefydliadol
2.   cadarnhau’r gynulleidfa darged ar gyfer cyngor a chymorth, gan ganolbwyntio ymdrechion ac adnoddau lle y byddant ar eu mwyaf effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
3.   dewis y dull mwyaf priodol o gyfathrebu i gyrraedd y gynulleidfa darged, yn unol â gofynion sefydliadol
4.   darparu cyngor a chymorth penodol i sefydliadau unigol, lle bo angen, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
4.1  cymorth ag asesu risg
4.2  cymorth â dadansoddi’r effaith ar fusnes
4.3  darparu gwybodaeth a chyngor ar drefniadau diogelwch sifil lleol
4.4  cynorthwyo â datblygu a dilysu cynlluniau a threfniadau
5.   ystyried asesiadau risg perthnasol wrth ddatblygu rhaglenni cyngor a chymorth yn unol â gofynion sefydliadol
6.   gweithio ar y cyd ag asiantaethau ac ymatebwyr eraill lle bydd hyn yn ymestyn effeithiolrwydd y cyngor a’r cymorth a ddarperir, yn unol â gofynion a chanllawiau sefydliadol
7.   nodi’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflwyno cyngor a chymorth yn unol â gofynion sefydliadol
8.   gwirio bod rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli parhad busnes yn glir, yn unol â gofynion sefydliadol
9.   cydnabod statws a chyfyngiadau cyngor a chymorth, gan atgyfeirio i eraill pan fydd angen arbenigedd neu brofiad arbenigol, yn unol â gofynion sefydliadol
10.   adolygu a diweddaru rhaglenni ar gyfer hyrwyddo parhad busnes, gan gyfrif am wersi a nodwyd o ddigwyddiadau ac ymarferion, yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.   deddfwriaeth, canllawiau a safonau presennol sy’n berthnasol i ddarparu cyngor a chymorth ar reoli parhad busnes
2.   y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau cysylltiedig sy’n berthnasol i rannu gwybodaeth
3.   diben cynlluniau a threfniadau parhad busnes
4.   cylchred oes rheoli parhad busnes
5.   mathau o risgiau allanol a mewnol
6.   nodweddion ardal a allai ddylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd argyfwng yn digwydd, ac effaith argyfwng
7.   rolau a strwythur fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer cydweithredu wrth asesu risg
8.   rolau a chyfrifoldebau ymatebwyr yn y fro neu’r bröydd
9.   sut i nodi’r gynulleidfa darged ar gyfer cyngor a chymorth, gan gyfrif am rôl sefydliadau o ran gwydnwch cymunedol
10.   y mathau o wybodaeth y gall fod ar sefydliadau eu hangen, gan gynnwys
10.1  y mathau o darfu a all ddigwydd a’u heffeithiau posibl
10.2  y trefniadau sydd ar waith i asesu risg argyfyngau, paratoi ar eu cyfer, ymateb iddynt ac adfer yn dilyn argyfyngau
10.3  y camau y gall sefydliadau unigol eu cymryd i baratoi ar gyfer argyfwng neu liniaru eu heffeithiau
10.4  ffynonellau rhybuddion, gwybodaeth a chyngor os bydd argyfwng
11.   grwpiau, rhwydweithiau a chyrff cynrychiadol sy’n darparu mynediad i’r gymuned fusnes
12.   dulliau o gyflwyno gwybodaeth a chyngor i’r gymuned fusnes
13.   pwysigrwydd cael perchnogaeth ar gynlluniau a threfniadau gan uwch reolwyr a phenderfynwyr
14.   pwysigrwydd datblygu diwylliant parhad busnes o fewn sefydliadau
15.   sut a pham mae’n rhaid i gynlluniau parhad busnes gael eu hadolygu’n systematig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae’r prif ymddygiadau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. empathig
  2. hyblyg
  3. ymchwiliol
  4. meddwl agored
  5. realistig

Sgiliau

Mae’r prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. cyfathrebu
  2. ymgynghori
  3. dylanwadu
  4. rhwydweithio
  5. trafod
  6. trefnu
  7. arweinyddiaeth
  8. ysgrifennu cynlluniau/adroddiadau
  9. gosod amcanion

Geirfa

Termau sy’n cael eu defnyddio’n aml a sut dylent gael eu dehongli yng nghyd-destun NOS Argyfyngau Sifil Posibl:

Cymuned fusnes

Sefydliadau masnachol a gwirfoddol yn y fro.

Cynllun parhad busnes

Set o weithdrefnau a gwybodaeth gofnodedig y bwriedir iddynt sicrhau parhad swyddogaethau critigol os bydd tarfu.

Dadansoddiad o’r effaith ar fusnes

Dull o asesu’r effeithiau a allai ddeillio o ddigwyddiad a lefelau’r adnoddau a’r amser sy’n ofynnol ar gyfer adfer.

Risgiau mewnol

Risgiau busnes a allai achosi colled neu darfu ar swyddogaethau neu wasanaethau.

Risgiau allanol

Y tebygolrwydd y bydd argyfwng yn digwydd yn y gymuned ehangach a’i effaith.


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â:

  1. CCAA1 Gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill
  2. CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau parhad busnes
  3. CCAE1 Creu ymarferion i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu barhad busnes
  4. CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferion i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu barhad busnes
  5. CCAF1 Codi ymwybyddiaeth o risg argyfyngau, eu heffaith bosibl a’r trefniadau sydd ar waith ar eu cyfer

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAD2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cod SOC

3319

Geiriau Allweddol

cydweithredu; gwerthuso; busnes; cynlluniau; trefniadau; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau