Hybu rheolaeth ar ddilyniant busnes LEGACY

URN: SFJCCAD2L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cyngor a chymorth ar reoli dilyniant busnes, gan gynnwys cyngor cyffredinol i'r sectorau busnes a gwirfoddol, a chyngor a chymorth penodol i sefydliadau unigol. Y nod yw helpu i ddatblygu gwytnwch cymunedol, yn arbennig er mwyn lleiafu effaith argyfyngau ar ddilyniant busnes a chaniatáu adferiad cyflymach wedi argyfyngau a digwyddiadau eraill sy'n amharu ar fusnes.

Grŵp Targed 

Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n darparu cyngor a chymorth ar reoli dilyniant busnes i sefydliadau eraill a'r gymuned ehangach, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi'r cyngor a'r cymorth cyffredinol a roddir i'r gymuned fusnes, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. cadarnhau'r gynulleidfa darged ar gyfer cyngor a chymorth, gan ganolbwyntio ymdrechion ac adnoddau lle byddant yn fwyaf effeithiol, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. dethol y dull cyfathrebu mwyaf priodol i gyrraedd y gynulleidfa darged, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. darparu cyngor a chymorth penodol i sefydliadau unigol lle bo gofyn, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
    1. cymorth gydag asesu risg
    2. cymorth gyda dadansoddi effaith busnes
    3. darparu gwybodaeth a chyngor am drefniadau amddiffyniad sifil lleol
    4. cefnogaeth i ddatblygu a dilysu cynlluniau a threfniadau
  5. rhoi sylw i asesiadau risg perthnasol wrth ddatblygu rhaglenni cyngor a chymorth yn unol â gofynion sefydliadol
  6. gweithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau ac ymatebwyr eraill lle bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd y cyngor a'r cymorth a ddarperir, yn unol â gofynion a chanllawiau sefydliadol
  7. nodi'r adnoddau sy'n ofynnol i ddarparu cyngor a chymorth yn unol â gofynion sefydliadol
  8. gwirio bod y rolau a'r cyfrifoldebau ar gyfer rheoli dilyniant busnes yn eglur, yn unol â gofynion sefydliadol
  9. adnabod statws a therfynau cyngor a chymorth, gan gyfeirio at eraill lle bo angen arbenigedd neu brofiad arbenigol, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. adolygu a diweddaru rhaglenni ar gyfer hybu dilyniant busnes, gan roi sylw i'r gwersi a nodwyd yn sgîl digwyddiadau ac ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth, canllawiau a safonau cyfredol sy'n berthnasol i ddarparu cyngor a chymorth ar reoli dilyniant busnes
  2. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i rannu gwybodaeth
  3. diben cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
  4. cylch bywyd rheoli dilyniant busnes
  5. mathau o risgiau allanol a mewnol
  6. nodweddion ardal a all ddylanwadu ar debygolrwydd argyfwng, a'i effaith
  7. rolau a strwythur fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer cydweithio ar asesu risg
  8. rolau a chyfrifoldebau ymatebwyr yn yr ardal leol neu'r ardaloedd lleol
  9. sut mae nodi'r gynulleidfa darged ar gyfer cyngor a chymorth, gan roi sylw i rôl sefydliadau o ran gwytnwch cymunedol
  10. mathau o wybodaeth y gall fod eu hangen ar sefydliadau, gan gynnwys
    1. mathau o aflonyddu a all ddigwydd a'u heffeithiau posibl
    2. trefniadau sydd yn eu lle i asesu risg, paratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt, ac ymadfer wedi iddynt ddigwydd
    3. camau y gall sefydliadau unigol eu cymryd i baratoi ar gyfer argyfwng, neu liniaru ei effeithiau
    4. ffynonellau rhybuddion, gwybodaeth a chyngor os bydd argyfwng
  11. grwpiau cynrychioliadol, rhwydweithiau a chyrff sy'n darparu mynediad i'r gymuned fusnes
  12. dulliau o ddarparu gwybodaeth a chyngor i'r gymuned fusnes
  13. pwysigrwydd sicrhau perchnogaeth uwch reolwyr a llunwyr penderfyniadau ar gynlluniau a threfniadau
  14. pwysigrwydd datblygu diwylliant dilyniant busnes mewn sefydliadau
  15. sut a pham mae'n rhaid adolygu cynlluniau dilyniant busnes yn systematig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. meddu ar empathi
  2. bod yn hyblyg
  3. natur ymchwiliol
  4. bod â meddwl agored
  5. bod yn realistig

Sgiliau

​Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. cyfathrebu                                                      
  2. ymgynghori                                                               
  3. dylanwadu                                                                 
  4. rhwydweithio                                                               
  5. cyd-drafod                                                            
  6. trefnu
  7. arweinyddiaeth
  8. paratoi cynlluniau/adroddiadau
  9. pennu amcanion

Geirfa

​Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:

Cymuned Fusnes

Sefydliadau masnachol a gwirfoddol yn yr ardal leol.

Cynllun dilyniant busnes

Cyfres wedi'i dogfennu o weithdrefnau a gwybodaeth a fwriedir i sicrhau dilyniant swyddogaethau critigol os bydd rhywbeth yn amharu arnynt.

Dadansoddiad o’r effaith ar fusnes

Dull o asesu'r effeithiau a allai ddeillio o ddigwyddiad a lefelau'r adnoddau a'r amser fydd yn ofynnol ar gyfer adferiad. 

Risgiau mewnol

Risgiau busnes a allai achosi colled neu amharu ar swyddogaethau neu wasanaethau. 

Risgiau allanol  

Tebygolrwydd ac effaith argyfwng yn digwydd yn y gymuned ehangach.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:

  1. CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
  2. CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
  3. CCAE1 Creu ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
  4. CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
  5. CCAF1 Cynyddu ymwybyddiaeth o'r risg, yr effaith bosibl a'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAD2

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; gwerthuso; busnes; cynlluniau; trefniadau; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau