Hyrwyddo rheoli parhad busnes

URN: SFJCCAD2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth, yn enwedig i’r sectorau busnes a gwirfoddol, â rheoli parhad busnes, gan gynnwys cyngor a chymorth penodol i sefydliadau unigol. Y nod yw helpu i ddatblygu gwydnwch, i leihau effaith argyfyngau ar sefydliadau a busnesau bregus, a’u galluogi i adfer yn gynt yn sgil argyfyngau a tharfu arall ar fusnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • nodi rhanddeiliaid sy’n gallu cyfrannu at gymorth â rheoli parhad busnes neu y byddent yn elwa o gymorth o’r fath
  • cydweithredu â phartneriaid, rhanddeiliaid ac arbenigwyr i ddatblygu cyngor a chymorth â rheoli parhad busnes
  • ystyried asesiadau risg perthnasol wrth ddatblygu rhaglenni cyngor a chymorth, yn unol â gofynion sefydliadol
  • pennu ymagweddau priodol at ddatblygu galluoedd parhad busnes pobl eraill
  • nodi’r adnoddau sydd eu hangen i ymgysylltu â chymorth parhad busnes
  • cadarnhau rolau a chyfrifoldebau clir wrth gynorthwyo pobl eraill i ddatblygu galluoedd rheoli parhad busnes
  • nodi statws a therfynau cyngor a chymorth, a chyfeirio at arbenigwr lle bo hynny’n briodol
  • adolygu a diweddaru rhaglenni ar gyfer hyrwyddo parhad busnes, ac ystyried gwersi sydd wedi cael eu nodi a’u dysgu o ddigwyddiadau ac ymarferion blaenorol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • polisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol sy’n berthnasol i’ch sefydliad ar gyfer rhoi cyngor a chymorth â rheoli parhad busnes a rhannu gwybodaeth
  • nodweddion gwydnwch sefydliadol a diben cynlluniau a threfniadau parhad busnes
  • egwyddorion, diwylliant a chylch oes rheoli parhad busnes
  • mathau o risgiau allanol a mewnol
  • dulliau nodi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau a rhwydweithiau sy’n cynnig mynediad i’r gymuned fusnes
  • sut i bennu nodweddion maes neu sector a all ddylanwadu ar y tebygolrwydd, yr effaith a’r canlyniadau i weithrediadau busnes
  • rolau a strwythur fforymau ar gyfer cydweithredu ynghylch asesu risg, parodrwydd a pharhad
  • rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid wrth hyrwyddo parhad busnes
  • dulliau o nodi anghenion a darparu cymorth i’r gymuned fusnes
  • sut a pham mae’n rhaid adolygu cynlluniau parhad busnes yn systematig
  • dulliau o werthuso rhaglenni ac atebolrwydd rhanddeiliaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Parhad busnes

Gallu sefydliad i barhau i ddarparu cynhyrchion neu wasanaethau ar lefelau rhagddiffiniedig derbyniol yn dilyn digwyddiad sy’n tarfu.

Rheoli Parhad Busnes

Proses reoli holistig sy’n nodi bygythiadau posibl i sefydliad a’r effeithiau y gallai’r bygythiadau hynny, pe byddent yn cael eu gwireddu, eu hachosi i weithrediadau busnes. Mae’n darparu fframwaith ar gyfer meithrin gwydnwch sefydliadol a’r gallu ar gyfer ymateb effeithiol sy’n diogelu buddiannau rhanddeiliaid allweddol, enw da, brand a gweithgareddau creu gwerth.

Cynllun parhad busnes

Gweithdrefn wedi’i chofnodi, sy’n arwain sefydliadau i ymateb, adfer, ailgychwyn a dychwelyd i lefel weithredu ragddiffiniedig yn sgil tarfu.

Asesu Risgiau (dadansoddol neu ddynamig)

Y broses o nodi a gwerthuso risgiau.

Asesiad Risg Dadansoddol:
Y broses systematig o nodi, dadansoddi a gwerthuso risgiau gan ddefnyddio dulliau ac offer strwythuredig. Mae’r ymagwedd hon yn cael ei chynnal pan fydd digon o amser i gasglu a gwerthuso gwybodaeth, ac mae’n aml yn cynnwys technegau ansoddol a meintiol er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth gynhwysfawr ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Asesiad Risg Dynamig:
Asesu peryglon ac effeithiau yn barhaus yn ystod ymateb i ddigwyddiad. Mae’r ymagwedd hon, sy’n reddfol i raddau helaeth, yn dibynnu ar wybodaeth am y cyd-destun risg a’r profiad ohono, gan addasu yn wyneb amodau sy’n newid mewn amser real i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd camau gweithredu’r ymateb.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAD2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; gwerthuso; cynlluniau; busnes; trefniadau; cynlluniau ar gyfer argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng