Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes

URN: SFJCCAD1
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau dilyniant busnes i sicrhau bod sefydliadau'n parhau i ymarfer swyddogaethau craidd os digwydd rhywbeth i dorri ar draws y busnes neu os bydd argyfwng.


Mae hyn yn berthnasol i unrhyw sefydliad sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol y gall torri ar draws y busnes neu argyfwng effeithio arno, gan gynnwys ymatebwyr mewn argyfwng y mae angen iddynt gynnal eu galluoedd eu hunain os bydd argyfwng.


Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes. Mae hyn yn cynnwys rheolwyr mewn sefydliadau a rhai sydd â chyfrifoldeb penodol am gydlynu trefniadau dilyniant busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ymgynghori â chydweithwyr a phartneriaid eraill perthnasol wrth ddatblygu cynlluniau a threfniadau yn unol â gofynion sefydliadol
  2. cadarnhau nodau, cwmpas ac amcanion gofynnol cynlluniau a threfniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  3. nodi cynnyrch neu wasanaethau allweddol a chynnal gweithgareddau ac adnoddau hollbwysig, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. asesu gwytnwch strwythurau a phrosesau mewnol ac allanol, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. canfod ac asesu strategaethau amgen i liniaru effeithiau torri ar draws busnes neu argyfyngau, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. datblygu cynlluniau a threfniadau yn unol â chylch oes rheoli dilyniant busnes
  7. darparu fframweithiau ar gyfer rheoli, cydlynu a rheoli, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys: 7.1 gweithdrefnau ar gyfer penderfynu pryd mae'n rhaid defnyddio cynlluniau 7.2 rolau a chyfrifoldebau pobl allweddol yn y sefydliad 7.3 blaenoriaethu prosesau neu wasanaethau sefydliadol 7.4 gweithdrefnau ar gyfer actifadu trefniadau ymateb 7.5 darparu adnoddau 7.6 darparu systemau gwybodaeth a chyfathrebu gwydn
  8. cydbwyso'r adnoddau a ymrwymir i reoli dilyniant busnes ag asesiadau o effeithiau posibl argyfyngau
  9. cyflwyno cynlluniau a threfniadau yn unol â gofynion sefydliadol
  10. annog perchnogaeth ar gynlluniau a threfniadau ar lefelau adrannol priodol, yn unol â gofynion sefydliadol a chanllawiau
  11. cynyddu ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau, yn unol â gofynion sefydliadol, gyda'r canlynol: 11.1 uwch-reolwyr 11.2 llunwyr penderfyniadau 11.3 staff perthnasol 11.4 rhanddeiliaid  11.5 y gymuned ehangach
  12. cadarnhau darpariaeth hyfforddiant ar gyfer staff neu bobl eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
  13. cadarnhau darpariaeth ymarferiadau i ddilysu ac ymarfer cynlluniau a threfniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. trefnu bod cynlluniau dilyniant busnes cyfan neu ran ohonynt yn cael eu dosbarthu, yn unol â gofynion sefydliadol a chanllawiau
  15. cadarnhau bod cynlluniau'n cael eu hadolygu, a'u diweddaru'n rheolaidd, yn unol â gofynion sefydliadol, ac:  15.1 effaith bosibl aflonyddu neu argyfyngau 15.2 newidiadau sefydliadol 15.3 gwersi a nodwyd yn sgîl achosion ac ymarferiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth gyfredol, canllawiau a safonau sy'n berthnasol i reoli dilyniant busnes
  2. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i rannu gwybodaeth
  3. sut mae cadarnhau nodau, cwmpas ac amcanion cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
  4. pwysigrwydd cynnwys rhanddeiliaid perthnasol yn y broses gynllunio a chydnabod eu gofynion a'u disgwyliadau
  5. cylch bywyd rheoli dilyniant busnes
  6. effaith bosibl argyfyngau ar y sefydliad
  7. sut mae cynnal dadansoddiad o’r effaith ar fusnes
  8. rolau a strwythur fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
  9. sut mae canfod agweddau ar gynllunio dilyniant busnes y gellir ymdrin â hwy trwy hyfforddiant neu ymarferiadau
  10. sut mae cynllunio ar gyfer darparu adnoddau perthnasol os bydd rhywbeth yn torri ar draws busnes neu os bydd argyfwng
  11. anghenion gwybodaeth yn dilyn achosion o dorri ar draws busnes neu argyfyngau
  12. sut mae adnabod swyddogaethau critigol ac anghritigol y sefydliad
  13. strwythur y sefydliad, ei brosesau llywodraethu a busnes
  14. blaenoriaethau sefydliadol ar gyfer prosesau neu gyflwyno gwasanaeth
  15. dulliau o gynyddu ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
  16. pwysigrwydd sicrhau perchnogaeth ar gynlluniau a threfniadau ar y lefel adrannol briodol
  17. pwysigrwydd datblygu diwylliant o reoli dilyniant busnes mewn sefydliad
  18. sut a pham mae'n rhaid adolygu cynlluniau dilyniant busnes yn systematig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 ystyriaeth gymunedol
2 bod yn benderfynol
3 â meddwl agored
4 bod yn realistig


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 dadansoddi                                                                
2 cyfathrebu                                                       
3 ymgynghori                                                               
4 dadansoddi effaith                                                      
5 dylanwadu
6 rhyngbersonol                                                          
7 cyfweld
8 cyd-drafod
9 rhwydweithio
10 trefnu
11 arweinyddiaeth
12 pennu blaenoriaethau
13 datrys problemau
14 rheoli prosiectau
15 paratoi cynlluniau/adroddiadau
16 cynllunio strategaeth


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


Cynllun dilyniant busnes
Cyfres o weithdrefnau a gwybodaeth wedi'u dogfennu a fwriedir i sicrhau dilyniant swyddogaethau critigol os bydd rhywbeth yn amharu arnynt.


*Dadansoddiad o’r effaith ar fusnes *
Dull o asesu'r effeithiau a allai ddeillio o ddigwyddiad a'r lefelau adnoddau ac amser fyddai'n ofynnol ar gyfer adferiad.


*Sefydliad    *
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAB1  Rhagweld ac asesu risg argyfyngau
2 CCAD2 Hybu rheolaeth ar ddilyniant busnes
3 CCAE1 Creu ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
4 CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
5 CCAF1 Cynyddu ymwybyddiaeth o'r risg, yr effaith bosibl a'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAD1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rhagweld; hyrwyddo; creu; hwyluso; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau