Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng er mwyn lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau achosion o argyfwng yn ogystal â darparu fframwaith ar gyfer adfer cymunedau yr effeithir arnynt gan argyfwng dros y tymor hir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. datblygu cynlluniau a threfniadau drwy ymgynghori â’r rheini yn eich sefydliad a phartneriaid eraill sy’n debygol o fod yn rhan o’r dasg o ymateb mewn argyfwng
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwysigrwydd cynnwys pawb yn y broses gynllunio sy’n debygol o ddefnyddio, neu o gael eu tywys gan, y cynlluniau a’r trefniadau a’r holl randdeiliaid perthnasol eraill
pa bryd y bydd angen cynlluniau a threfniadau ar gyfer cydweithio ag asiantaethau eraill (gan gynnwys asiantaethau gwirfoddol)
rolau a strwythur fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer cydweithio ar gynllunio ar gyfer argyfwng
sut mae cadarnhau nod, cwmpas ac amcanion y cynlluniau a’r trefniadau ar gyfer argyfwng
pwrpas cynlluniau cyffredinol a phenodol ar gyfer argyfwng
egwyddorion Rheolaeth Integredig mewn Argyfwng (IEM)
y cylch cynllunio ar gyfer argyfwng
yr asesiadau risg lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd ar gael, a’u rôl wrth gynllunio ar gyfer argyfwng
tebygolrwydd y risg a chanlyniadau’r risg y mae’r cynllun yn cael ei greu ar ei chyfer
effaith bosibl yr achosion o argyfwng ar bobl yn eich maes cyfrifoldeb
effaith bosibl yr achosion o argyfwng ar yr amgylchedd
sut mae pennu’r elfennau o gynllunio ar gyfer argyfwng y gellir rhoi sylw iddynt drwy hyfforddiant neu ymarfer
adnoddau, seilwaith a chymunedau’r ardal leol
yr anghenion gwybodaeth ar ôl argyfwng
blaenoriaethau’ch sefydliad o ran darparu gwasanaethau
dulliau o godi ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau ar gyfer argyfwng
deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer argyfwng
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif sgiliau ac agweddau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso. Mae’r rhain yn glir/wedi’u hawgrymu yng nghynnwys manwl yr uned ac maent yn cael eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol.
Sgiliau
dadansoddi
cyfathrebu
ymgynghori
dadansoddi effaith
rheoli gwybodaeth
dylanwadu
negodi
trefnu
ysgrifennu adroddiadau/cynlluniau
blaenoriaethu
datrys problemau
rheoli prosiectau
ymchwilio
gosod amcanion
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun NOS Paratoadau Sifil
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r uned hon yn gysylltiedig â: