Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng, er mwyn caniatáu lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau argyfyngau a darparu fframwaith ar gyfer adferiad tymor hir y cymunedau y mae argyfyngau'n effeithio arnynt.
Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu cynlluniau a threfniadau trwy ymgynghori â'r rhai sydd yn eich sefydliad a phartneriaid eraill sy'n debygol o ymwneud ag ymatebion mewn argyfwng, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau nodau, cwmpas ac amcanion gofynnol cynlluniau a threfniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
- datblygu cynlluniau a threfniadau yn unol â gofynion sefydliadol a chanllawiau, ac yng nghyswllt y canlynol: 3.1 asesiadau risg perthnasol 3.2 nodweddion ardaloedd lleol 3.3 lles grwpiau agored i niwed a chymunedau ehangach
- darparu fframwaith ar gyfer rheoli, cydlynu a rheolaeth, yn unol â gofynion sefydliadol, a chan gynnwys: 4.1 gweithdrefnau ar gyfer galluogi lliniaru risg 4.2 gweithdrefnau ar gyfer penderfynu a oes argyfwng wedi digwydd 4.3 rolau a chyfrifoldebau ymatebwyr 4.4 gweithdrefnau ar gyfer rhybuddio staff ac actifadu trefniadau ymateb 4.5 darparu adnoddau 4.6 darparu gwybodaeth wydn a systemau cyfathrebu 4.7 trefniadau i rybuddio, hysbysu a chynghori cymunedau
- cynyddu ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau argyfwng, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau darpariaeth hyfforddiant ar gyfer staff perthnasol neu bobl eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau darpariaeth ymarferion i ddilysu ac ymarfer cynlluniau a threfniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadw cofnodion penderfyniadau allweddol y cytunwyd arnynt mewn prosesau cynllunio, yn unol â gofynion sefydliadol
- cyflwyno cynlluniau a threfniadau yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau perchnogaeth ar gynlluniau a threfniadau gan uwch reolwyr a llunwyr penderfyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol
- trefnu i ddosbarthu cynlluniau argyfwng cyfan, neu ran ohonynt, yn unol â gofynion sefydliadol
- gwirio bod systemau yn eu lle i gadw cynlluniau wedi'u diweddaru mewn ymateb i newidiadau o fewn y sefydliad, yn unol â gofynion sefydliadol
- adolygu cynlluniau'n systematig, yn unol ag asesiadau risg cyfredol, gwersi a nodwyd yn sgîl achosion ac ymarferiadau, ac unrhyw newidiadau i'r canllawiau a'r ddeddfwriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynnwys yn y broses gynllunio y rhai sy'n debygol o ddefnyddio'r cynlluniau a'r trefniadau, neu gael eu tywys ganddynt
- pryd mae cynlluniau a threfniadau yn galw am weithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill
- rolau a strwythur fforymau neu bartneriaethau lleol a rhanbarthol wrth gydweithio ar gynllunio ar gyfer argyfwng
- sut mae cadarnhau nodau, cwmpas ac amcanion cynlluniau a threfniadau argyfwng
- diben cynlluniau argyfwng cyffredinol a phenodol
- egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
- y cylch cynllunio ar gyfer argyfwng
- asesiadau risg cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd ar gael, a'u rôl wrth gynllunio ar gyfer argyfwng
- tebygolrwydd a chanlyniadau'r risgiau y mae'r cynllun yn cael ei greu ar eu cyfer
- effeithiau posibl argyfyngau ar bobl yn eich maes cyfrifoldeb
- effeithiau posibl argyfyngau ar yr amgylchedd
- sut mae nodi agweddau ar gynllunio ar gyfer argyfwng y gellir ymdrin â hwy trwy hyfforddiant neu ymarferiadau
- adnoddau, seilwaith a chymunedau'r ardal leol
- anghenion gwybodaeth yn dilyn argyfwng
- blaenoriaethau eich sefydliad o ran darparu gwasanaeth
- dulliau o gynyddu ymwybyddiaeth o gynlluniau a threfniadau argyfwng
- deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i gynllunio ar gyfer argyfwng
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 ystyriaeth gymunedol
2 bod yn benderfynol
3 meddu ar empathi
4 bod yn hyblyg
5 natur ymchwiliol
6 bod â meddwl agored
7 bod yn realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 dadansoddi
2 cyfathrebu
3 ymgynghori
4 dadansoddi effaith
5 rheoli gwybodaeth
6 dylanwadu
7 cyd-drafod
8 trefnu
9 paratoi cynlluniau/adroddiadau
10 pennu blaenoriaethau
11 datrys problemau
12 rheoli prosiectau
13 ymchwil
14 pennu amcanion
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
*Cymuned *
Unigolion a sefydliadau mewn ardaloedd lleol, gan gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc, pobl agored i niwed, cartrefi preswyl, busnesau ac ati.
Cynllun Argyfwng
Cytundeb i gyflawni cyfres o gamau gweithredu y dylai'r rhai sy'n cyflawni'r camau hynny ei deall, a chael eu tywys ganddi.
Cynllun Argyfwng Cyffredinol
Cynllun unigol a luniwyd i ymdopi ag ystod eang o argyfyngau.
*Cynllun Argyfwng Penodol *
Cynllun a luniwyd i ymdopi â math penodol o argyfwng, lle mae'r cynllun cyffredinol yn debygol o fod yn annigonol.
*Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM) *
Dull o atal a rheoli argyfyngau sy'n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol - rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac ymadfer. Mae IEM yn troi o gwmpas y syniad o adeiladu gwytnwch cyffredinol uwch yn wyneb ystod eang o heriau sy'n amharu. Mae'n galw am ymdrech amlasiantaeth gydlynus.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAB1 Rhagweld ac asesu risg argyfyngau
3 CCAE1 Creu ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
4 CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes
5 CCAF1 Cynyddu ymwybyddiaeth o'r risg, yr effaith bosibl a'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau