Rhagweld ac asesu risg argyfyngau LEGACY

URN: SFJCCAB1L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir,Argyfyngau Sifil Posibl
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rhagweld ac asesu’r risg y bydd argyfyngau yn effeithio ar fro neu fröydd, sector neu sefydliad. Mae’n cynnwys gweithio ar y cyd ag ymatebwyr eraill i argyfwng a chyfleu asesiadau risg i eraill.

Grŵp targed

Mae’r safon hon i’r rhai sydd â chyfrifoldeb penodol am asesiadau risg yn cwmpasu bro neu fröydd, sector neu sefydliad, gan gynnwys ymarferwyr sy’n cynghori ymatebwyr lleol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.   nodi nodweddion bröydd a fydd yn dylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd argyfyngau mewn cymunedau, a’u heffaith, yn unol â gofynion sefydliadol
2.   nodi asesiadau risg cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol yn unol â gofynion sefydliadol
3.   nodi peryglon a bygythiadau sy’n cyflwyno risgiau arwyddocaol yn unol â gofynion a chanllawiau sefydliadol
4.   dadansoddi tebygolrwydd peryglon a bygythiadau, a’u heffeithiau, er mwyn cynhyrchu sgorau risg cyffredinol yn unol â gofynion sefydliadol
5.   cynnal y canlynol, trwy gydweithrediad ag ymatebwyr brys:
5.1  safiadau cytunedig ynghylch risgiau sy’n effeithio ar fröydd
5.2  y blaenoriaethau cynllunio ac adnoddau sy’n ofynnol i baratoi ar gyfer y risgiau hynny
6.   cofnodi asesiadau risg yn unol â gofynion sefydliadol
7.   cyfleu ac esbonio asesiadau risg i’r bobl angenrheidiol mewn swyddi uwch
8.   defnyddio asesiadau risg yn unol â gofynion sefydliadol i lywio strategaethau lliniaru risg a datblygu a dilysu:
8.1  cynlluniau argyfwng
8.2  cynlluniau parhad busnes
8.3  asesiadau amlasiantaethol
9.   cadarnhau dosbarthiad asesiadau risg cyfan neu rannau ohonynt, gan gyfrif am unrhyw gyfyngiadau ar ddatblygu gwybodaeth sensitif yn unol â gofynion sefydliadol
10.   monitro a diweddaru asesiadau risg i ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd risg
11.   cynnal a diweddaru cynlluniau argyfwng a pharhad busnes i ymateb i newidiadau mewn asesiadau risg ac yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodweddion bröydd a all ddylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd argyfwng yn digwydd a’i effaith, gan gynnwys:
    1.1 nodweddion cymdeithasol ardaloedd, gan gynnwys unrhyw grwpiau arbennig o agored i niwed
    1.2 statws iechyd cymunedau a chyfleusterau iechyd sydd ar gael
    1.3 nodweddion amgylcheddol ardaloedd
    1.4 isadeiledd ardaloedd, gan gynnwys trafnidiaeth, cyfleusterau, busnes
    1.5 safleoedd, gwasanaethau neu rwydweithiau cyflenwi hanfodol mewn ardaloedd
    1.6 ardaloedd a safleoedd peryglus posibl a’u perthynas â chymunedau neu safleoedd amgylcheddol sensitif
  2. argaeledd asesiadau risg cenedlaethol a rhanbarthol a sut i addasu’r asesiadau hyn i’w defnyddio mewn cyd-destun lleol
  3. effaith bosibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed, gan gynnwys:
    3.1 diffiniadau o ‘agored i niwed’ yng nghyd-destun argyfyngau
    3.2 niferoedd a dosbarthiad pobl a grwpiau agored i niwed mewn bröydd
    3.3 natur ddynamig bod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau
    3.4 problemau penodol i grwpiau agored i niwed, o effeithiau argyfyngau
  4. effaith bosibl argyfyngau ar sefydliadau, gan gynnwys effeithiau ariannol ac ar enw da
  5. gwahanol fethodolegau asesu risg y gellir eu defnyddio
  6. egwyddorion a meini prawf ar gyfer gwerthuso a blaenoriaethu risgiau
  7. sut i ddadansoddi tebygolrwydd peryglon a bygythiadau, a’u heffeithiau, er mwyn llunio sgorau risg cyffredinol
  8. sut gellir creu cyfleoedd o nodi risg
  9. pam mae’n bwysig gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill a chymunedau wrth ddatblygu asesiadau risg
  10. natur a diben Rheoli Argyfyngau yn Integredig (IEM)
  11. rolau a strwythurau fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer cydweithredu ynghylch asesiadau risg
  12. opsiynau ar gyfer triniaethau risg, gan gynnwys datblygu cynlluniau argyfwng a pharhad busnes
  13. deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n berthnasol i rannu gwybodaeth a diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae’r prif ymddygiadau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:

  1. ymwybodol o’r gymuned
  2. penderfynol
  3. empathig
  4. ymchwiliol

Sgiliau

Mae’r prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 rheolaeth ac arweinyddiaeth gyffredinol
2 asesiad cytbwys
3 cyfleu risg
4 penderfynol
5 gwerthuso beirniadol
6 empathig
7 dadansoddi peryglon a risg
8 ymchwiliol
9 sganio’r gorwel
10 dadansoddi effaith
11 ymchwilio
12 blaenoriaethu risg
13 ymchwil
14 dadansoddi cymdeithasol


Geirfa

Termau sy’n cael eu defnyddio’n aml a sut dylent gael eu dehongli yng nghyd-destun NOS Argyfyngau Sifil Posibl:

Rhagweld
Asesiad strategol cynnar o’r tebygolrwydd o ddigwyddiad a’i effaith (gyda’r bwriad o ragrybuddio ac, o bosibl, achub y blaen, neu fesurau eraill).

Perygl
Digwyddiad neu sefyllfa sydd â’r potensial i achosi niwed corfforol neu seicolegol i aelodau’r gymuned, gan gynnwys marwolaethau, difrod neu golledion i eiddo, a/neu darfu ar yr amgylchedd neu’r strwythurau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol y mae ffordd cymuned o fyw yn dibynnu arnynt.

Bygythiad
Bwriad a gallu i achosi marwolaethau neu greu canlyniadau andwyol i les pobl (gan gynnwys eiddo a chyflenwi gwasanaethau a nwyddau hanfodol), yr
amgylchedd neu ddiogelwch.

Risg
Mesur o arwyddocâd argyfwng posibl o ran tebygolrwydd ac effaith.


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â:

  1. CCAA1 Gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill
  2. CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
  3. CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau parhad busnes
  4. CCAF1 Codi ymwybyddiaeth o risg, effaith bosibl a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer argyfyngau.

Sylwch: Mae asesu risg, o fewn maes eu cyfrifoldeb, yn swyddogaeth hefyd i reolwyr cyffredinol a disgrifir hyn gan safon SFJPE4.1 Rheoli risg, a/neu’r safon arweinyddiaeth a rheolaeth, CFAM&LBB1 Rheoli risgiau i’ch sefydliad.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAB1

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus

Cod SOC

3319

Geiriau Allweddol

cydweithredu; datblygu; cynnal; gwerthuso; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau