Rhagweld ac asesu risg argyfyngau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhagweld ac asesu risg argyfyngau'n effeithio ar ardal neu ardaloedd lleol, sector neu sefydliad. Mae'n cynnwys gweithio mewn cydweithrediad ag ymatebwyr eraill i argyfyngau a chyfathrebu asesiadau risg i eraill.
Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb penodol am asesiadau risg sy'n cwmpasu ardal neu ardaloedd lleol, sector neu sefydliad, gan gynnwys ymarferwyr sy'n cynghori ymatebwyr lleol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- canfod nodweddion ardaloedd lleol a fydd yn dylanwadu ar debygolrwydd ac effaith argyfyngau mewn cymunedau, yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi asesiadau risg cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol
- canfod peryglon a bygythiadau sy'n achosi risg sylweddol, yn unol â gofynion a chanllawiau sefydliadol
- dadansoddi tebygolrwydd ac effeithiau peryglon a bygythiadau i gynhyrchu sgoriau risg cyffredinol, yn unol â gofynion sefydliadol
- trwy gydweithrediad ag ymatebwyr i argyfyngau, cynnal y canlynol: 5.1 safbwyntiau cytunedig o ran y risgiau sy'n effeithio ar ardaloedd lleol 5.2 y blaenoriaethau cynllunio ac adnoddu sy'n ofynnol i baratoi ar gyfer y risgiau hynny
- cofnodi asesiadau risg yn unol â gofynion sefydliadol
- cyfathrebu ac esbonio asesiadau risg i'r bobl uwch angenrheidiol
- defnyddio asesiadau risg yn unol â gofynion sefydliadol i hysbysu strategaethau lliniaru risg a datblygu a dilysu'r canlynol: 8.1 cynlluniau argyfwng 8.2 cynlluniau dilyniant busnes 8.3 asesiadau amlasiantaeth
- cadarnhau dosbarthiad asesiadau risg cyfan neu rannau ohonynt, gan roi sylw i unrhyw gyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth sensitif, yn unol â gofynion sefydliadol
- monitro a diweddaru asesiadau risg mewn ymateb i newidiadau i'r amgylchedd risg
- cynnal a diweddaru cynlluniau argyfwng a dilyniant busnes mewn ymateb i newidiadau mewn asesiadau risg ac yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion ardaloedd lleol a all ddylanwadu ar debygolrwydd ac effaith argyfwng, gan gynnwys: 1.1 nodweddion cymdeithasol ardaloedd, gan gynnwys unrhyw grwpiau arbennig o agored i niwed 1.2 statws iechyd cymunedau a'r cyfleusterau iechyd sydd ar gael 1.3 nodweddion amgylcheddol ardaloedd 1.4 seilwaith ardaloedd, gan gynnwys trafnidiaeth, cyfleustodau, busnes 1.5 safleoedd, gwasanaethau neu rwydweithiau cyflenwi hollbwysig mewn ardaloedd 1.6 safleoedd ac ardaloedd a allai fod yn beryglus a'u perthynas â chymunedau neu safleoedd sy'n amgylcheddol sensitif
- argaeledd asesiadau risg cenedlaethol a rhanbarthol, a sut mae addasu'r asesiadau hyn i'w defnyddio mewn cyd-destun lleol
- effaith bosibl argyfyngau ar bobl a grwpiau agored i niwed, yn cynnwys: 3.1 diffiniadau o fod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 3.2 niferoedd a dosbarthiad pobl a grwpiau agored i niwed mewn ardaloedd lleol 3.3 natur ddeinamig bod yn agored i niwed yng nghyd-destun argyfyngau 3.4 materion penodol i grwpiau agored i niwed yn sgîl effeithiau argyfyngau
- effaith bosibl argyfyngau ar sefydliadau, gan gynnwys effeithiau ariannol ac o ran enw da
- gwahanol fethodolegau asesu risg y gellir eu defnyddio
- egwyddorion a meini prawf a ddefnyddir i werthuso a blaenoriaethu risgiau
- sut mae dadansoddi tebygolrwydd ac effeithiau peryglon a bygythiadau i gynhyrchu sgoriau risg cyffredinol
- sut gellir creu cyfleoedd drwy adnabod risg
- pam mae'n bwysig gweithio ar y cyd ag asiantaethau a chymunedau eraill wrth ddatblygu asesiadau risg
- natur a diben Rheolaeth Integredig ar Argyfyngau (IEM)
- rolau a strwythurau fforymau lleol a rhanbarthol ar gyfer cydweithio ar asesiadau risg
- opsiynau o ran trin risgiau, gan gynnwys datblygu cynlluniau argyfwng a dilyniant busnes
- deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth a diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 ystyriaeth gymunedol
2 bod yn benderfynol
3 meddu ar empathi
4 ymchwiliol
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 rheolaeth ac arweinyddiaeth gyffredinol
2 asesu cytbwys
3 cyfathrebu risg
4 bod yn benderfynol
5 gwerthuso beirniadol
6 meddu ar empathi
7 dadansoddi peryglon a risgiau
8 ymchwiliol
9 cadw llygad ar y gorwel
10 dadansoddi effaith
11 ymchwilio
12 blaenoriaethu risgiau
13 ymchwil
14 dadansoddi cymdeithasol
Geirfa
Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:
*Rhagweld *
Asesiad strategol cynnar o debygolrwydd ac effaith digwyddiad (gyda golwg ar roi rhagrybudd a'i atal o bosibl, neu fesurau eraill)
*Perygl *
Digwyddiad neu sefyllfa a allai achosi niwed corfforol neu seicolegol i aelodau o'r gymuned, gan gynnwys colli bywyd, difrod neu golled i eiddo, a/neu amharu ar yr amgylchedd neu ar y strwythurau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol y mae ffordd cymuned o fyw yn dibynnu arnynt
*Bygythiad *
Bwriad a gallu i achosi colli bywyd neu greu canlyniadau niweidiol i les dynol (gan gynnwys eiddo a chyflenwi gwasanaethau a nwyddau hanfodol), yr amgylchedd neu ddiogeledd
*Risg *
Dull o fesur arwyddocâd argyfwng posibl o ran tebygolrwydd ac effaith
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:
1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
3 CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
4 CCAF1 Cynyddu ymwybyddiaeth o'r risg, yr effaith bosibl a'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer argyfyngau.
Noder: Mae asesu risg, o fewn eu maes cyfrifoldeb, hefyd yn swyddogaeth i reolwyr cyffredinol, a disgrifir hyn gan y safon SFJPE4.1 Rheoli risg a/neu'r safon rheolaeth ac arweinyddiaeth CFAM&LBB1 Rheoli risgiau i'ch sefydliad.