Rheoli a rhannu gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau ym maes gwydnwch ac argyfyngau

URN: SFJCCAA2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli gwybodaeth yn effeithiol, sy’n cynnwys asesu uniondeb data, mynd i’r afael ag ansicrwydd, sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn foesegol, a rhannu gwybodaeth yn briodol. Dylai gwybodaeth gael ei rhannu’n ddiofyn, lle bo’n bosibl, i gynorthwyo â chydlynu a gwneud penderfyniadau, ond rhaid i ystyriaethau cyfreithiol, gweithredol a diogeledd reoli hynny hefyd. Dylai prosesau, cytundebau a phrotocolau rheoli a rhannu gael eu monitro a’u haddasu’n barhaus fel eu bod yn parhau’n addas at eu diben mewn amgylcheddau dynamig.

Mae’r safon hon yn berthnasol i weithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ledled y cylch gwydnwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • cydweithredu er mwyn asesu a gwella rheoli gwybodaeth, gan rannu strwythurau, prosesau a chynhyrchion yn unol â deddfwriaeth, polisïau a chanllawiau
  • nodi a chasglu data, gwybodaeth a deallusrwydd i gynorthwyo â gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • gwirio uniondeb data, deallusrwydd a gwybodaeth at y diben bwriadedig ac ar gyfer cam y cylch gwydnwch
  • gweithio’n gydweithredol ag arbenigwyr data a deallusrwydd i greu’r systemau, y protocolau a’r cynhyrchion gwybodaeth sydd eu hangen
  • dadansoddi gwybodaeth er mwyn adnabod ffeithiau, patrymau a thueddiadau
  • gwerthuso a rheoli ansicrwydd mewn gwybodaeth ledled y cylch gwydnwch
  • cyflwyno, mapio neu ddelweddu gwybodaeth i fodloni anghenion defnyddwyr, gan gyfleu unrhyw gyfyngiadau yn glir
  • nodi’r angen am bolisïau, gweithdrefnau a chytundebau rhannu gwybodaeth, a’u datblygu a’u gweithredu, yn unol â deddfwriaeth, polisïau a chanllawiau fel y gall gwybodaeth gael ei rhannu’n effeithiol yn ystod ymateb ac adfer
  • rheoli a rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn foesegol, gan sicrhau bod hynny’n gymesur â’r angen ac yn cyd-fynd â chytundebau rhannu gwybodaeth
  • rhoi prosesau llywodraethu ar waith a gweithredu o fewn y prosesau hynny i sicrhau bod rheolaeth ar wybodaeth yn addasu yn wyneb newidiadau mewn anghenion a bod y rheolaeth honno ar wybodaeth yn parhau i fod yn effeithlon, yn gyfreithlon, yn foesegol ac yn ddiogel.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • partneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol, eu hanghenion gwybodaeth a’r hyn maen nhw’n ei ffafrio
  • sut mae data, gwybodaeth a deallusrwydd yn cael eu defnyddio i gefnogi gwneud penderfyniadau a chydweithredu trylwyr ledled y cylch gwydnwch
  • ymagweddau moesegol ac atebol at drin gwybodaeth
  • ffactorau sy’n dylanwadu ar ddilysrwydd a dibynadwyedd data, gwybodaeth a deallusrwydd
  • dulliau ar gyfer rheoli a chyfleu ansicrwydd a chyfyngiadau mewn data, gwybodaeth a deallusrwydd
  • buddion a risgiau defnyddio systemau digidol a deallusrwydd artiffisial (AI) i reoli gwybodaeth
  • deddfwriaeth, rheoliadau, polisïau a chanllawiau ar gyfer rheoli a rhannu gwybodaeth
  • mathau o wybodaeth sensitif a’r cyfyngiadau arnynt, gan gynnwys diogeledd cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd, sensitifrwydd masnachol a data personol
  • rheoli risg o ran rheoli a rhannu gwybodaeth, gan gynnwys dosbarthiad diogeledd, dilysu, lleihau data, a gwaredu ledled y cylch gwydnwch
  • ffynonellau data a thechnegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r rôl ac i gam y cylch gwydnwch
  • buddion a chyfyngiadau systemau, cytundebau a phrotocolau rhannu gwybodaeth
  • egwyddorion dylunio a gweithredu systemau gwybodaeth a phrotocolau ar gyfer rheoli gwybodaeth yn effeithiol
  • strwythurau llywodraethu a safonau ar gyfer gwella rheoli a rhannu gwybodaeth
  • rôl arfer myfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Data, gwybodaeth, a deallusrwydd

  • Data: Ffeithiau a ffigurau heb eu prosesu.
  • Gwybodaeth: Data wedi’i brosesu, gyda chyd-destun.
  • Deallusrwydd: Gwybodaeth sydd wedi cael ei dadansoddi’n drylwyr a’i chyfuno o nifer o ffynonellau er mwyn cynnig mewnwelediadau dyfnach.

Uniondeb gwybodaeth

Cywirdeb, dibynadwyedd a chysondeb gwybodaeth. Mae uniondeb gwybodaeth ym maes gwydnwch ac argyfyngau yn galluogi gwneud penderfyniadau yn effeithiol.

Rheoli ansicrwydd

Nodi, asesu a lliniaru ansicrwydd mewn data a gwybodaeth, gan gynnwys mynd i’r afael â bylchau, anghysondebau a dibynadwyedd ffynonellau. Hefyd, mae’n ymwneud â rheoli canlyniadau ansicrwydd cynhenid, yn enwedig mewn gwybodaeth seiliedig ar risg, i gefnogi gwneud penderfyniadau yn wybodus.

Cyfleu ansicrwydd

Dulliau ar gyfer cyfleu ansicrwydd mewn gwybodaeth yn dryloyw, fel modd o sicrhau bod rhanddeiliaid yn deall cyfyngiadau ac yn rheoli risgiau cysylltiedig.

Mathau o ansicrwydd

Categorïau ansicrwydd sy’n effeithio ar wneud penderfyniadau ym maes gwydnwch, gan gynnwys ansicrwydd data, ansicrwydd model, ansicrwydd sefyllfaol ac ansicrwydd ymddygiadol

Llywodraethu gwybodaeth

Y polisïau, y safonau a’r prosesau sy’n sicrhau bod gwybodaeth sy’n cael ei defnyddio ym maes gwydnwch ac argyfyngau yn cael ei thrin yn gyfrifol, yn gywir, yn ddiogel ac yn unol â rheoliadau perthnasol.

Gwybodaeth sensitif

Gwybodaeth, petai’n cael ei datgelu i’r cyhoedd, fyddai neu fyddai’n debygol o (a) effeithio’n andwyol ar ddiogeled cenedlaethol, (b) effeithio’n andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd, (c) peryglu buddiannau masnachol unrhyw berson; neu mae’n wybodaeth sy’n ddata personol, o fewn ystyr adran 1(1) Deddf Diogelu Data 208, y byddai ei datgelu yn torri’r Ddeddf honno.

Cytundebau Rhannu Gwybodaeth (ISAs)

Cytundebau ffurfiol sy’n diffinio sut mae data’n cael ei rannu rhwng sefydliadau, gan gynnwys ei ddiben, mesurau diogeledd, a chyfrifoldebau. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn argymell cytundebau rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau atebolrwydd o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig (y DU).

Lleihau Data

Egwyddor ddeddfwriaethol sy’n gofyn bod sefydliadau yn casglu ac yn prosesu dim ond y data personol angenrheidiol lleiaf. Mae hyn yn lleihau risgiau tor-diogelwch data ac mae’n sicrhau cydymffurfedd â chyfreithiau diogelu data.

Cyfathrebu am risgiau

Cyfnewid gwybodaeth gysylltiedig â risg ymhlith rhanddeiliaid i gefnogi ymwybyddiaeth, parodrwydd a gweithredu gwybodus. Mae’n cynnwys defnyddio dulliau effeithiol i ledaenu gwybodaeth a hwyluso trafodaethau, gan sicrhau dealltwriaeth gyffredin.

Penderfyniadau amddiffynadwy

Penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu tryloyw, seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau atebolrwydd a chyfiawnhad o dan graffu. Mae’r penderfyniadau hyn yn cyfeirio’n glir at y dystiolaeth sy’n sylfaen iddynt.

Penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth

Penderfyniadau sy’n dibynnu ar ddata, gwybodaeth wedi’i dilysu, a modelau wedi’u profi i sicrhau hygrededd ac effeithiolrwydd. Mae’r penderfyniadau hyn yn dryloyw am y dystiolaeth a defnyddiwyd, felly mae’n bosibl eu hamddiffyn pan fyddant yn destun craffu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAA2, SFJCCAA3

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; cyfnewid gwybodaeth; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng; gweithgaredd; ymarfer