Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhannu gwybodaeth, sy'n sylfaen ar gyfer pob math o waith mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, preifat neu sector gwirfoddol. Mae'n cynnwys rhannu gwybodaeth fel rhan o ddiwylliant parhaus o gydweithrediad a hefyd rannu gwybodaeth trwy ofynion ffurfiol. Y rhagdybiaeth gychwynnol yw y dylid rhannu gwybodaeth, ond cydnabyddir hefyd y gall fod angen rheoli sut rhyddheir peth gwybodaeth.
Grŵp Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill ac mae'n addas i'w defnyddio ar draws ystod o leoliadau sefydliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r wybodaeth sydd i'w rhannu er mwyn hybu cydweithrediad effeithiol â sefydliadau eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
- rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill trwy ddiwylliant parhaus o ddeialog a chydweithredu, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau termau a diffiniadau cyffredin er hwyluso dealltwriaeth a rennir, yn unol â gofynion sefydliadol
- gwirio ffynonellau gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli cyn gwneud ceisiadau ffurfiol am wybodaeth gan sefydliadau eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- gwneud ceisiadau ffurfiol am wybodaeth, gan nodi union natur yr wybodaeth sy'n ofynnol a'r rhesymau pam, yn unol â gofynion sefydliadol
- ymateb i geisiadau dilys am wybodaeth gan sefydliadau eraill, yn unol ag unrhyw ofynion, dyletswydd cyfrinachedd neu gyfyngiad ar ddatgelu
- cytuno ymlaen llaw ar fformatau a therfynau amser ar gyfer darparu gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau ansawdd yr wybodaeth a ddarparwyd neu a dderbyniwyd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- nodi sefyllfaoedd lle gallai datgelu gwybodaeth beryglu gwybodaeth sensitif, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- adnabod sefyllfaoedd lle mae angen rheoli'r broses o ryddhau gwybodaeth, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- darparu rhesymeg ar gyfer peidio â datgelu gwybodaeth, oni bai bod hynny'n peryglu gwybodaeth sensitif ymhellach, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- darparu rhesymeg lle mae datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd yn gorbwyso cyfyngiadau ar ddatgelu data personol neu fasnachol sensitif, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- sicrhau cydsyniad ffynonellau gwybodaeth i ddatgelu gwybodaeth sensitif, yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau sy'n ymwneud â'r canlynol: 1.1 rhannu gwybodaeth 1.2 diogelu data 1.3 diogeledd gwybodaeth
- rôl rhannu gwybodaeth mewn cydweithredu effeithiol rhwng sefydliadau
- pwysigrwydd ymagweddu'n foesegol at rannu gwybodaeth
- protocolau eich sefydliad eich hun yng nghyswllt rhannu gwybodaeth
- ffynonellau gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn eich sefydliad eich hun
- ffynonellau gwybodaeth berthnasol sy'n hygyrch i'r cyhoedd
- manteision rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau heb orfod troi at geisiadau ffurfiol ar unwaith
- gweithdrefnau a gofynion o ran rhannu gwybodaeth yn ffurfiol rhwng sefydliadau perthnasol
- mathau o wybodaeth sensitif, gan gynnwys 9.1 gwybodaeth sy'n peryglu diogeledd cenedlaethol 9.2 gwybodaeth sy'n peryglu diogelwch y cyhoedd 9.3 gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif 9.4 gwybodaeth bersonol
- cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth sensitif
- pobl neu sefydliadau sy'n gallu rhoi cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth sensitif
- systemau ar gyfer rheoli gwybodaeth, gan gynnwys: 12.1 mynediad ffisegol 12.2 nodau cyfyngol 12.3 rhestrau dosbarthu 12.4 targedu cynulleidfaoedd arbennig
- rolau a swyddogaethau sefydliadau partner ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- sut mae sefydliadau partner yn cael eu trefnu; yn cynnwys: 14.1 eu strwythurau cyffredinol 14.2 dulliau cyfathrebu 14.3 prosesau gwneud penderfyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 cydweithredol
2 ystyriaeth gymunedol
3 adeiladol
4 â meddwl agored
5 realistig
Sgiliau
Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl y safon, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
1 coladu gwybodaeth
2 casglu gwybodaeth
3 cyfathrebu
4 lledaenu gwybodaeth
5 cysylltu
6 cyd-drafod
7 rhwydweithio
Geirfa
*Sefydliadau *
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Dolenni I NOS Eraill
Lluniwyd y safon hon i gysylltu â phob uned arall lle gall gwaith amlasiantaeth fod yn elfen hanfodol o'r gwaith.
Dylai uwch-reolwyr sy'n ymwneud â datblygu systemau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth sensitif gyfeirio hefyd at safon Sgiliau er Cyfiawnder SfJ HF14, sef Cynllunio, datblygu a rheoli systemau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, data a chudd-wybodaeth sensitif.