Gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill LEGACY
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys cyrff sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Mae hyn yn hanfodol ar gyfer gweithio amlasiantaethol effeithiol wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt a helpu i adfer yn dilyn argyfyngau.
Grŵp targed
Mae’r safon yn arbennig o addas i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl o sefydliadau eraill wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt neu helpu i adfer yn dilyn argyfyngau. Gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau sector cyfiawnder eraill, hefyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi rolau, cyfrifoldebau ac awdurdod gwahanol bobl a sefydliadau rydych chi’n gweithio gyda nhw, yn unol â gofynion sefydliadol
2. cytuno ar drefniadau ar gyfer gweithio ar y cyd yn briodol i natur a diben y gwaith, a chofnodi’r trefniadau hyn
3. cynnal trefniadau ar gyfer gweithio ar y cyd yn briodol i natur a diben y gwaith
4. cadarnhau cyfrifoldebau cyffredin ac awdurdod i weithredu, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau yn unol â gofynion sefydliadol
5. cytuno ar wybodaeth i’w rhannu, y rhesymau dros hyn a sut i gynnal diogelwch gwybodaeth yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
6. ymgymryd â’ch rôl mewn gweithio amlasiantaethol mewn ffyrdd sy’n gyson â chytundebau a wnaed, eich rôl eich hun a pholisïau a safonau sefydliadol
7. rhyngweithio â phobl mewn sefydliadau eraill yn unol â gofynion sefydliadol ac mewn ffyrdd sydd
7.1 yn annog perthnasoedd a chyfranogiad effeithiol
7.2 yn parchu eu safbwyntiau, eu rolau a’u cyfrifoldebau
7.3 yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn rhoi pwys ar amrywiaeth
7.4 yn cydnabod gwerth gweithio amlasiantaethol
8. parchu safbwyntiau a pholisïau eich sefydliad yn unol â pholisïau a safonau sefydliadol
9. nodi sut gall eich sefydliad gefnogi amcanion amlasiantaethol trwy gyfraniadau at weithio ar y cyd
10. cytuno sut bydd gwaith amlasiantaethol yn cael ei fonitro yn unol â gofynion sefydliadol
11. cytuno pryd y bydd gwaith amlasiantaethol yn cael ei adolygu, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol sy’n berthnasol i’ch sefydliad eich hun
- deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol sy’n berthnasol i weithio amlasiantaethol
- deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n berthnasol i rannu gwybodaeth, diogelu data a diogelwch gwybodaeth
- natur a diben Rheoli Argyfyngau yn Integredig (IEM)
- egwyddorion a buddion gweithio ar y cyd rhwng gwahanol sefydliadau
- rolau a swyddogaethau sefydliadau sy’n ymwneud ag amddiffyn sifil ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- trefniadau llywodraethu yn berthnasol i weithio amlasiantaethol
- sut mae sefydliadau partner wedi’u trefnu
- galluoedd sefydliadau partner
- sut gall strwythur a diwylliant sefydliadau effeithio ar weithio amlasiantaethol
- ffactorau sy’n debygol o helpu neu rwystro gweithio amlasiantaethol
- dulliau effeithiol o nodi a datrys tensiynau a phroblemau
- dulliau o adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith amlasiantaethol
- eich galluoedd eich hun ym maes gweithio amlasiantaethol a phryd i geisio cymorth pellach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae’r prif ymddygiadau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- cydweithredol
- ymwybodol o’r gymuned
- adeiladol
- meddwl agored
- realistig
Sgiliau
Mae’r prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wedi’u rhestru isod. Mae’r rhain yn eglur/ymhlyg yng nghynnwys manwl y safon ac fe’u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:
- cyfathrebu
- dylanwadu
- cysylltu
- trafod
- rhwydweithio
- trefnu
- cyflwyno
- adnabod problemau
- datrys problemau
- blaenoriaethu
Geirfa
Termau sy’n cael eu defnyddio’n aml a sut dylent gael eu dehongli yng nghyd-destun NOS Argyfyngau Sifil Posibl:
Rheoli Argyfyngau yn Integredig (IEM)
Dull o atal a rheoli argyfyngau sy’n cynnwys chwe gweithgaredd allweddol – rhagweld, asesu, atal, paratoi, ymateb ac adfer. Mae IEM wedi’i anelu at y syniad o feithrin mwy o wydnwch cyffredinol yn wyneb ystod eang o heriau aflonyddgar. Mae’n gofyn am ymdrech amlasiantaethol cydlynol.
Sefydliadau
Cyrff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Dolenni I NOS Eraill
Bwriedir i’r safon hon berthyn i’r holl safonau eraill lle y gall gweithio amlasiantaethol fod yn elfen hanfodol o waith.
Dylai uwch reolwyr sy’n ymwneud â datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaethol gyfeirio hefyd at safon Sgiliau Cyfiawnder SfJHG4 Datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaethol.