Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol, a’u

URN: SFJBI402
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu’n effeithiol â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol, a’u cefnogi. Mae’n cynnwys eich gallu i wrando, cwestiynu, deall ac ymateb i’r hyn maen nhw’n ei ddweud. Fel rhan o’r safon hon, byddwch yn cymryd camau gweithredu ategol perthnasol a gwaith adfer, gyda’r nod o reoli risg niwed parhaus sy’n deillio o gamdriniaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mewn amgylcheddau diogel a chefnogol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  2. gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy’n addas i’w hanghenion a’u galluoedd, ac sy’n:
    • annog cwestiynau
    • gwirio am ddealltwriaeth
    • defnyddio technegau gwrando gweithredol
  3. archwilio amgylchiadau personol gyda phlant a phobl ifanc sy’n berthnasol i sefydlu natur camdriniaeth
  4. helpu plant a phobl ifanc i archwilio’u teimladau mewn ffyrdd sy’n annog deilliannau cadarnhaol, ac:
    • ymateb yn adeiladol i’r datgeliad cychwynnol o gamdriniaeth
    • mynd i’r afael ag unrhyw deimladau o euogrwydd
    • nodi eu gobeithion am gyflawni’r casgliad gorau posibl
  5. gwirio bod cydweithiwr arall yn eich cwmni ac yn arsylwi arnoch yn eich holl ryngweithiadau gyda phlant a phobl ifanc
  6. asesu arwyddion o gam-drin domestig neu drais rhywiol posibl sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn unol â chanllawiau sydd ar gael
  7. archwilio pryderon a gwybodaeth gan bobl eraill berthnasol am ddiogelwch, iechyd a lles plant a phobl ifanc
  8. gyda phlant, pobl ifanc a’u rhieni neu eu gofalwyr, trafod ffactorau a allai effeithio ar eu diogelwch, eu hiechyd a’u lles
  9. cynnwys plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, mewn ffyrdd priodol i’w hoedran, eu gallu, eu dymuniadau a’u teimladau
  10. llunio barnau a gweithredoedd ystyriol am anghenion diogelu a gwarchod plant a phobl ifanc, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  11. gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd a’u gofalwyr, archwilio gwahanol ddulliau gweithredu a’u canlyniadau cymharol
  12. ymateb yn adeiladol i unrhyw bryderon am gamau diogelu gan blant, pobl ifanc a’u teulu a’u gofalwyr
  13. cael cydsyniad plant, pobl ifanc a’u teulu a’u gofalwyr ar gyfer camau gweithredu cytunedig, yn unol â gofynion y sefydliad
  14. crynhoi sefyllfaoedd i hyrwyddo dealltwriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gyfrif am eu hoedran, eu gallu, eu dymuniadau a’u teimladau
  15. cael gwybodaeth sy’n berthnasol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth, gan gynnwys:
    • nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth
  16. cytuno ag eraill ar bwy fydd yn darparu gwybodaeth, erbyn pryd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  17. asesu’r wybodaeth sydd ar gael, yn berthnasol i gefnogi plant a phobl ifanc
  18. darparu gwybodaeth am blant a phobl ifanc i'r bobl y mae angen y wybodaeth arnynt ac mae ganddynt hawl i’w chael
  19. esbonio wrth blant, pobl ifanc a’u teulu a’u gofalwyr pa wybodaeth y gall fod angen ei rhannu â phobl eraill, a pham
  20. cael cydsyniad plant, pobl ifanc a’u teulu a’u gofalwyr i rannu eu gwybodaeth gydag eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  21. rhannu gwybodaeth gydag eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  22. atgyfeirio i weithwyr proffesiynol eraill, fel y bo’n briodol, i fodloni anghenion plant a phobl ifanc
  23. cynnal cofnodion gwybodaeth a deilliannau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt.
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. rôl, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â chamdriniaeth, gan gynnwys darparu cefnogaeth i blant, pobl ifanc, eu teulu a’u gofalwyr
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  6. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  7. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  8. effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt
  9. y gwahanol ffyrdd y gallai plant a phobl ifanc gael eu niweidio
  10. sut gall plant a phobl ifanc gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
  11. beth yw ystyr diogelu
    1. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu rywiol yn eu ceisio
  12. ffynonellau gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gamdriniaeth
  13. rôl asiantaethau cymorth allanol sy’n darparu atgyfeiriadau a chymorth i blant a phobl ifanc
  14. trefniadau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn eich ardal
  15. safbwyntiau nodweddiadol sydd ar led yn gyhoeddus am lefelau camdriniaeth a’i hachosion
  16. sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gamdriniaeth
  17. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau perthnasol yng nghyd-destun diogelwch, iechyd a lles plant a phobl ifanc
  18. pwysigrwydd sicrhau dealltwriaeth ac osgoi rhagdybiaethau
  19. dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth
  20. dulliau a thechnegau ar gyfer gwahaniaethu rhwng a nodi:
    • tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol
    • tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy
    • adroddiadau ail-law
    • rhagfarn
    • safbwyntiau sydd â thystiolaeth i’w hategu
  21. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i blant a phobl ifanc deimlo’n gartrefol
  22. sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes ymarfer
  23. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  24. sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, i fodloni anghenion yr unigolyn
  25. sut gall rhesymu neu ddehongli arwain at wahaniaeth rhwng yr hyn sy’n cael ei ddweud a’r hyn sy’n cael ei ddeall, a sut i fynd i’r afael â hyn
  26. egwyddorion sy’n rheoli pryd mae pobl ifanc yn cael eu hystyried yn ddigon aeddfed i roi cydsyniad gwybodus i rannu eu gwybodaeth gyda phartïon eraill
  27. pryd a sut i drafod pryderon am gamdriniaeth gyda rhieni a gofalwyr
  28. ffactorau a all effeithio ar fagu plant a chynyddu risg camdriniaeth
  29. arwyddion camdriniaeth bosibl ymhlith plant a phobl ifanc a sut gallant gael eu mynegi, gan gynnwys trwy:
    • therapi chwarae
    • gwaith celf
    • perthnasoedd â phlant ac oedolion eraill
  30. camau gweithredu sydd ar gael i chi lle nodir bod camdriniaeth wedi’i datgelu
  31. anghenion gwybodaeth asiantaethau, sefydliadau ac unigolion eraill a phryd mae angen gwybodaeth arnynt
  32. y gwahaniaethau rhwng rhannu gwybodaeth ar lefelau unigol, sefydliadol a phroffesiynol
  33. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig plant a phobl ifanc
  34. pwysigrwydd sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu bodloni
  35. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gyda phlant a phobl ifanc a dulliau o wneud hynny
  36. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  37. sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
  38. sut a phryd i ddefnyddio technegau gwrando gweithredol wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teulu a’u gofalwyr
  39. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  40. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun ei chael wrth weithio gyda goroeswyr
  41. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  42. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJ BI402

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

rhywiol; goroeswr; ymgysylltu; teulu; cymorth; domestig; gofalwyr; risg; asesu; niwed; diogelu; gwybodaeth; cyfathrebu; amddiffyn