Cytuno ar ymyriadau i amddiffyn plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gam-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chithau’n nodi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gam-drin domestig neu drais rhywiol. Fel rhan o’r safon hon, byddwch chi’n nodi ac yn cytuno ar ymyriadau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael profiad o gam-drin domestig, a all gynnwys achosion o drais rhywiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- arsylwi plant a phobl ifanc er mwyn nodi dangosyddion straen a allai awgrymu camdriniaeth, gan gynnwys;
• newidiadau annisgwyl mewn ymddygiad
• defnyddio iaith amhriodol
• ymddygiad anaddas - nodi unrhyw anafiadau a gafodd plant a phobl ifanc, gan gynnwys anafiadau:
• sydd heb esboniad neu sydd ag esboniad gwael
• sy’n arwain at amheuaeth o gam-drin neu drais posibl - trafod dangosyddion straen ac anafiadau gyda phlant a phobl ifanc sy’n awgrymu cam-drin posibl, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gyda phlant a phobl ifanc, archwilio’u hamgyffrediad a’u rhesymeg dros ddangosyddion straen ac anafiadau maen nhw’n eu harddangos
- rhoi amgylchedd a chyfleoedd priodol a diogel i blant a phobl ifanc ddisgrifio’u hamgylchiadau, gan gynnwys defnyddio deunyddiau cymorth
- cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion a’u galluoedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- ymateb i ddymuniadau plant a phobl ifanc am gyfrinachedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- nodi gwybodaeth am blant a phobl ifanc y mae angen ei rhannu gyda phobl eraill berthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cymryd camau i sicrhau bod cydweithiwr arall yn eich cwmni ac yn arsylwi arnoch mewn trafodaethau gyda phlant a phobl ifanc, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cytuno ar ymyriadau gyda phlant a phobl ifanc i fodloni eu hanghenion a’u hamgylchiadau
- atgyfeirio i weithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill pan fydd angen cymorth ac ymyriadau’r tu hwnt i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
- asesu gwybodaeth sy’n dod i law gan ddefnyddio crebwyll proffesiynol i bennu lefelau’r risg i blant a phobl ifanc
- pennu ffactorau sy’n gallu achosi newidiadau i ymddygiad plant a phobl ifanc, yn ogystal ag anafiadau, yn unol â chanllawiau sydd ar gael
- nodi a threfnu ymholiadau ac asesiadau ychwanegol os bydd angen
- cadw cofnodion am ymyriadau sy’n amddiffyn plant a phobl ifanc
- gweithio gyda sefydliadau eraill i amddiffyn plant a phobl ifanc sydd mewn perygl, yn unol â threfniadau partneriaeth
- cynnal cyfrinachedd yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- ffynonellau cymorth sydd ar gael i chi fel ymarferwr a sut i gael at y rhain, gan gynnwys rhwydweithiau cymheiriaid a goruchwyliaeth glinigol
- beth yw ystyr diogelu
- ffyrdd gwahanol y gallai plant a phobl ifanc gael eu niweidio
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- yr effaith ar bawb y mae cam-drin domestig neu drais rhywiol yn effeithio arnynt, gan gynnwys dioddefwyr, goroeswyr a phlant
- sut gall dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gam-drin domestig a thrais rhywiol
- rôl asiantaethau cymorth allanol o ran darparu atgyfeiriadau a chymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
- trefniadau amlasiantaethol ar gyfer darparu atgyfeiriadau i blant a phobl ifanc sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr cam-drin domestig neu drais rhywiol
- camsyniadau nodweddiadol a safbwyntiau ystrydebol am lefelau camdriniaeth a’i hachosion
- dangosyddion cam-drin domestig a thrais rhywiol a sut gall y rhain gael eu mynegi, gan gynnwys trwy:
• chwarae a gwaith celf
• perthnasoedd â phlant ac oedolion eraill
• natur gyfrin rhai dangosyddion - y camau sy’n angenrheidiol pan nodir fod camdriniaeth yn cael ei datgelu
- mathau o wybodaeth a meysydd cymorth y mae plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio
- ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
- yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu bodloni
- dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth
- dulliau a thechnegau ar gyfer gwahaniaethu rhwng a nodi; tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol a:
• thystiolaeth o ffynonellau dibynadwy
• adroddiadau ail-law
• rhagfarn - pryd a sut i drafod pryderon am gamdriniaeth gyda rhieni a gofalwyr
- ffactorau a all effeithio ar fagu plant a chynyddu risg camdriniaeth
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i blant a phobl ifanc deimlo’n gartrefol
- sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes ymarfer
- deall gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, i fodloni anghenion yr unigolyn
- pwysigrwydd rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau perthnasol eraill yng nghyd-destun diogelwch, iechyd a lles plant a phobl ifanc
- egwyddorion sy’n rheoli pryd mae pobl ifanc yn cael eu hystyried yn ddigon aeddfed i roi cydsyniad gwybodus i rannu eu gwybodaeth gyda phartïon eraill
- anghenion gwybodaeth asiantaethau, sefydliadau ac unigolion eraill y mae hawl ganddynt i’r wybodaeth, a phryd mae ei hangen arnynt
- polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhannu gwybodaeth
- pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gyda phlant a phobl ifanc a dulliau o wneud hynny
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- sut i gymhwyso ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, i fodloni anghenion yr unigolyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun ei chael wrth weithio ar unigolion
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- cyfyngiadau ar gyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.