Datblygu cynlluniau sy’n rheoli risg niwed i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol

URN: SFJBI302
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau a luniwyd i reoli risg niwed i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais a cham-drin rhywiol. Mae’n cynnwys casglu ac asesu gwybodaeth berthnasol ac adolygu’r ffactorau risg ac amddiffynnol a nodwyd trwy asesiadau blaenorol, gan gynnwys o unrhyw asesiadau risg a wnaed ar wahân, a gwneud argymhellion am gamau gweithredu priodol.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael profiad o gam-drin domestig, a all gynnwys achosion o drais rhywiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. esbonio wrth unigolion:
    • eich rôl a’ch cyfrifoldebau
    • diben y wybodaeth sy’n cael ei chasglu
    • polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyfrinachedd, gan gynnwys cydsyniad gwybodus
  2. nodi gwybodaeth sy’n llywio cynlluniau unigolion, gan gynnwys:
    • ffactorau risg
    • deilliannau asesiadau angen a risg
    • anghenion unigolion, gan gynnwys unrhyw ddibynyddion
    • cymryd rhan mewn unrhyw ymyriadau blaenorol
    • lle y bo’n berthnasol, ymateb y camdriniwr i ymyriadau blaenorol
  3. trafod amgyffredion unigolion a phroblemau a achoswyd gan gamdriniaeth, a’r cymorth y byddent yn ei groesawu gan eich sefydliad
  4. nodi effaith a chanlyniadau unrhyw ymyriadau blaenorol gydag unigolion
  5. gwirio a oes digon o wybodaeth ar gael i ddatblygu cynlluniau unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  6. casglu gwybodaeth sy’n cyfrannu at gynlluniau unigolion
  7. asesu anghenion a risgiau unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  8. nodi ffactorau amddiffynnol neu welliannau i iechyd, diogelwch a lles unigolion er mwyn bodloni anghenion unigolion a risgiau iddynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  9. nodi a oes gan unigolion anghenion arbenigol y gallai fod angen eu hasesu ymhellach neu gymorth pellach gan asiantaethau eraill
  10. ceisio cyngor a chymorth pan fydd anghenion yr unigolyn y tu hwnt i faes eich arbenigedd neu eich cyfrifoldeb
  11. nodi camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â ffactorau risg a gwella ffactorau amddiffynnol i unigolion, gan gynnwys:
    • eu diogelwch, eu hiechyd a’u lles
    • unrhyw blant neu ddibynyddion sy’n cael eu heffeithio
  12. nodi opsiynau a chytuno ar gynllun gweithredu ar gyfer unigolion ar sail gwerthusiad o’r wybodaeth sydd ar gael:
    • lefel yr angen a’r risg
    • yr adnoddau sydd ar gael
    • natur camdriniaeth yr unigolyn
    • eu hamgyffrediad o’u risg a’u hamgylchiadau eu hunain
    • y cymorth y mae arnynt ei angen
  13. rhannu gwybodaeth a chyngor gydag unigolion am y cymorth a’r gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael iddynt
  14. cynorthwyo unigolion i gael at wasanaethau arbenigol a nodwyd i fodloni eu hanghenion
  15. monitro cynnydd cynlluniau i unigolion yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
  16. darparu cymorth parhaus i unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  17. rhannu gwybodaeth gydag eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a chydsyniad gwybodus gan unigolion
  18. cytuno ar gyfrifoldebau ar gyfer ymgymryd ag adolygiadau a phwyntiau adolygu priodol i fonitro cynnydd cynlluniau gweithredu
  19. cadw cofnodion o gynlluniau a rhyngweithiadau a darparu’r rhain i bobl eraill pan fydd angen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. prosesau sefydliadol ar gyfer datblygu cynlluniau i gefnogi unigolion, gan gynnwys sut i osod amserlenni priodol
  5. gweithdrefnau cofrestru a rheoli achosion a ddefnyddir yn eich sefydliad a’ch cyfrifoldebau o fewn y rhain
  6. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  7. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  8. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  9. effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
  10. sut gall plant a dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
  11. mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio
  12. ffynonellau gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
  13. y rhesymau pam mae rhai unigolion yn teimlo’n deyrngar i’w camdrinwyr
  14. sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gam-drin domestig a thrais rhywiol
  15. rôl sefydliadau cymorth o ran darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion
  16. trefniadau amlasiantaethol a phartneriaeth ar gyfer darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion
  17. gwybodaeth y mae ei hangen wrth wneud asesiad o unigolion, yn briodol i ddatblygu cynlluniau a rheoli risgiau eu camdrinwyr iddynt
  18. cynnwys a ffactorau i’w hystyried wrth ddatblygu a chytuno ar gynlluniau
  19. ffynonellau gwybodaeth berthnasol am unigolion a sut i gael at y rhain
  20. sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  21. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  22. sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
  23. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  24. ffactorau sy’n effeithio ar freguster unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
  25. mathau o freguster, neu lefelau niwed, a ddefnyddir wrth asesu risg, a’u dangosyddion
  26. yr effaith ar rieni â phlant
  27. yr amgylchiadau pan ystyrir bod risg uchel i unigolion a bod angen cymorth arnynt, a sut i symud ymyrraeth o’r fath yn ei blaen
  28. protocolau a gweithdrefnau diogelu gofynnol, gan gynnwys prosesau amlasiantaethol a phartneriaeth
  29. dulliau ar gyfer meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a’u pwysigrwydd
  30. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  31. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol, gan gynnwys sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  32. pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau, gan gynnwys iaith y corff
  33. sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
  34. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun
  35. yr effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun ei chael wrth weithio gydag unigolion
  36. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  37. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
  38. pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn deall pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu bodloni, a pham
  39. cyfyngiadau ar gyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.





Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJ BI302

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

rhywiol; datblygiad; cyfathrebu; anghenion; opsiynau; gwasanaethau; asesu; cymorth;